Ymddengys bod ymgeisydd Llafur Arfon yn credu mewn rhywbeth mae'n ei alw yn Tory / Plaid Media.
Cyfeirio oedd Sion at stori a ymddangosodd yn y Western Mail (gweler isod) y bore 'ma.
Mae'r papur hwnnw yn perthyn i gwmni Trinity Mirror. Mae Trinity Mirror a'i ragflaenydd Mirror Group Plc wedi bod yn berchnogion rhai o'r papurau mwyaf cefnogol i Lafur yn y DU ers i'r Mirror droi'n bapur oedd wedi ei anelu at y dosbarth gweithiol yn 1934.
Mae'r cysyniad o Tory / Plaid Media yn gysyniad mor ddychmygol a thylwyth teg neu ysbrydion.
No comments:
Post a Comment