Tuesday, February 10, 2015

Lleoliad gwleidyddol pleidiau'r DU

Wel, yn ol y wefan yma beth bynnag.

Mae'n ddiddorol mor debyg i'w gilydd - ac adain Dde - ydi'r prif bleidiau unoliaethol.

6 comments:

Ioan said...

Newydd wneud yr holiadur - am sioc! Dwi'n nes at y blaid Werdd na unrhyw blaid arall... Chwith - Dde tebyg i'r SNP, a Libertarian tebyg i'r Gwyrddion.

Fel o'n i'n amau, chydig i'r dde o Blaid Cymru, ond i'r chwith o'r pleidiau Prydeinig mawr.

Ti wedi llenwi'r holiadur Cai?

Anonymous said...

Diddorol gweld fod PC i'r chwith o'r SNP. Hefyd, mae'r SDLP i'r chwith, ac yn fwy rhyddfrydol na Sinn Fein. Mae'n rhaid cofio fod Pabyddiaeth, tan yn gymharol ddiweddar, yn gynhenid elyniaethus i'r adain-chwith.

Anonymous said...

Gen i amheuaeth fod yr SDLP yn cael ei safleoli i'r chwith o Blaid Cymru. Byddwn i'n meddwl fod Plaid Cymru gryn dipyn fwy i'r chwith nag y mae'r wefan hon yn tybied. Dafydd Williams

Unknown said...

Newydd gwneud y 'prawf' dw i ar y chwith ;-)

Ioan said...

Yn y blaid anghywir mi faswn i'n gesho! Gwyrdd?

Anonymous said...

Diddorol iawn fuasai gweld lle mae pobl y cymoedd yn gweld eu hunain bellach. Buasai'n egluro llawer am fethiant diflas Plaid Cymru ymysg y di-Gymraeg, mi dybiaf.