Thursday, February 19, 2015

Is etholiadau Hengoed

Deall bod Plaid Cymru wedi ennill is etholiad Cyngor Gwledig Llanelli.  Yr etholiad Cyngor Sir yn agos, ond o bosibl Plaid Cymru heb wneud digon i ennill.  

Diweddariad - Plaid Cymru 22 pleidlais yn brin yn yr etholiad Cyngor Sir.

351 i 285 o flaen Llafur ar y Cyngor Gwledig.

Llafur 335, Plaid Cymru 313 ar y Cyngor Sir.

Diweddariad Cyngor Sir 
Llaf - 335
PC - 313
UKIP - 152
PPLF - 80
Ann - 76
Tori - 54

6 comments:

Unknown said...

Ymgyrch rhagorol gan ein tîm yn Llanelli. Ymlaen yn hyderus. Bydd Mai 7fed yn ddiddorol iawn.

Anonymous said...

Sylwi fod UKIP wedi gwneud yn dda iawn hefyd.

Anonymous said...

Vaughan. Tydi ymgyrch yn cyfri dim. Y canlyniad yn unig sydd yn 'rhagorol' neu peidio.
Sut mae hyn yn cymharu gyda'r canlyniad blaenorol ? . Os yw UKIP yn denu cynifer ar cyn lleied o gefndir a strwythyr lleol, beth mae hynny'n ei bddweud am dy obaith di o ennill Llanelli gyda polisiau o'r chwith i'r Blaid Lafur ? Petai rhywbeth ' ar waith' yn Llanelli parthed tueddiad at y Plaid, buasai'r sedd yma'n disgyn i ni yn hawdd. Er fod peth tystiolaeth fod seren UKIP yn dechrau pylu yn Lloegr, digalon fod Cymru yn profi'n dir mor ffrwythlon iddynt.

Ioan said...

Lecsiwn dwetha:
People First 337, 261 (33%)
Labour 338, 253 (28%)
Plaid Cymru 315, 271 (28%)
Independent 213 (10%)
Non Party Independent 89 (4%)

Ddoe:
Llaf - 335
PC - 313
UKIP - 152
PPLF - 80
Ann - 76
Tori - 54

Unknown said...

Roedd ffactorau lleol sylweddol fan hyn. O ran y Cyngor Sir - gwraig y dihedral George Edwards oedd ymgeisydd Llafur. Roedd pleidlais 'cydymdeimlad' cryf iddi.
O ran mis Mai... mae cyfle gwych gyda ni. Cafodd ukip 15% bydd y fath canlyniad ym Mai yn ddiddorol iawn. Mae'n mynd i fod yn gyffrous iawn.

Anonymous said...

Dwi'n gweld. Wyddwn i ddim fod yr ymgeisydd yn wraig i'r diweddar gynghorydd.