Ond wedi dweud hynny mae is setiau Albanaidd y polau Prydeinig sydd wedi eu cymryd ers y refferendwm yn hynod gyson eu canfyddiadau. Maent yn awgrymu bod pleidlais y Lib Dems a Llafur yn chwalu tra bod pleidlais yr SNP yn cynyddu'n sylweddol. Yn wir mae rhai ohonynt yn awgrymu bod cefnogaeth yr SNP wedi dwblu tra bod pleidlais y Lib Dems a Llafur wedi haneru. Mae is setiau'r ddau bol diweddaraf yn awgrymu bod Llafur yn drydydd y tu ol i'r Toriaid.
Mae is set Albanaidd diweddaraf Populus yn rhoi 35% i'r SNP, 24% i'r Toriaid, 21% i Lafur a 10% i'r Lib Dems, tra bod is set Albanaidd diweddaraf YouGov yn rhoi 41% i'r SNP, 20% i'r Toriaid, 19% i Lafur a 9% i'r Lib Dems. Y canlyniad yn etholiad San Steffan 2010 oedd Llafur 42%, SNP 20%, Lib Dems 17% a'r Toriaid 19%.
Petai pleidlais y Lib Dems a Llafur yn haneru, un yr SNP yn dwblu a'r Toriaid yn cynyddu eu pleidlais rhyw fymryn mi fyddai etholiad 2015 yn gyflafan. Os ydi fy syms i yn gywir - ac maen nhw'n amlach na pheidio - byddai gan y Toriaid 5 sedd, Llafur tair, y Lib Dems 2 a'r SNP 49.
Rwan mae yna amser cyn etholiad 2015, gallwn fentro y bydd y cyfryngau torfol yn gwneud eu gorau fel arfer i droi'r etholiad yn un Brydeinig, gallai Llafur yr Alban wella eu proffeil trwy gael gwell arweinydd na'r greadures di glem sy'n eu harwain ar hyn o bryd. Gallai pob math o bethau eraill ddigwydd.
Ond petawn i yn gyfrifol am ymgyrch Blaid Lafur neu'r Lib Dems Albanaidd, byddwn yn cael cryn drafferth i gysgu'r nos.
1 comment:
Mae'r Blaid Lafur wedi / yn torri bedd iddi ei hun yn yr Alban.
Post a Comment