Dwi'n dyfynnu'r isod o ddatganiad i'r wasg gan yr SNP.
Findings from the Panelbase poll, carried out between 29 September and 1 October and commissioned by the SNP, found that 71 per cent of people support control over all tax raised in Scotland, 75 per cent support control over all welfare and benefits – while 65 per cent support control of policy on the state pension, 66 per cent support control over all areas of government policy except foreign affairs and defence, 68 per cent support control of oil and gas revenue generated in Scottish waters, and 54 per cent support control over broadcasting.
Mae'n ymddangos bod mwyafrif clir - weithiau clir iawn - o blaid datganoli bron iawn i pob pwer o San Steffan i Gaeredin. Yn wir mae'n debyg bod y rhan fwyaf o Albanwyr eisiau i pob grym ag eithrio materion tramor ac amddiffyn fod yn Holyrood.
Mae yna rhywbeth yn ddigon rhyfedd am y canfyddiad yma. Mae Trident yn amhoblogaidd yn yr Alban, mae rhyfeloedd tramor di ddiwedd y DU yn amhoblogaidd yn yr Alban ac mae agwedd llywodraeth y DU tuag at yr Undeb Ewropiaidd yn a,hoblogaidd hefyd. Mewn geiriau eraill mae yna agweddau eang iawn ar bolisiau tramor ac amddiffyn y DU sydd yn amhoblogaidd yn yr Alban.
Sut mae egluro'r anghysonndeb ymddangosiadol yma? Wel mae'n anodd - ond un ffordd o edrych ar bethau ydi fel hyn. Mae mwyafrif clir o bobl yr Alban yn derbyn mai Holyrood ydi'r lle priodol i wneud penderfyniadau am fywyd cenedlaethol y wlad, ond bod rhai ymhlith y mwyafrif yna yn ystyried bod cymryd y cam olaf a thorri'n rhydd yn llwyr yn gam seicolegol nad ydynt yn barod amdani eto.
Ond dydi hynny ddim yn golygu na fyddant byth yn barod i gymryd y cam hwnnw. Os bydd pwerau sylweddol yn cael eu datganoli tros y blynyddoedd nesaf gan adael nesaf peth i ddim ar ol ag eithrio amddiffyn a materion tramor, bydd materion tramor ac amddiffyn yn troi i fod yn faterion fydd yn diffinio'r hyn ydi'r Undeb i lawer o Albanwyr - ac os digwydd hynny daw annibyniaeth yn eithaf cyflym i ddilyn.
1 comment:
O gofio bod llawer wedi pleidleisio "Na" ar sail gofidion economaidd, mae'n od iawn gweld bod gymaint o blaid datganoli pob un grym economaidd i Gaeredin!
Post a Comment