Beth bynnag, mae penderfyniad y cyngor heddiw i roi pecyn diswyddo gwerth £330,000 i'w prif weithredwr yn rhyfeddol. Bryn Parry Jones. Daethwyd i'r penderfyniad y tu ol i ddrysau caedig.
Ystyriwch y sefyllfa mewn dirfi calon. Mae cyflog blynyddol Mr Jones yn £195,000 - mwy na'r un prif weithredwr arall yng Nghymru. Mae'n ymddangos bod rhedeg ymerodraeth Penfro yn teilyngu mwy o gyflog - o lawer - na Carwyn Jones, David Cameron nag Alex Salmond. Mae tua miliwn o weithwyr llywodraeth leol tros y DU yn ennill llai na £22,000 y flwyddyn. Petai Penfro yn gyngor effeithiol efallai y byddai'r cyflog grotesg o uchel yma'n werth ei dalu. Ond dydi o ddim - newydd ddod allan o fesurau arbennig mae'r cyngor.
Daeth Swyddfa Archwilydd Cymru i'r casgliad bod rhai o drefniadau pensiwn Mr Jones yn anghyfreithlon, er i'r heddlu fethu a dod o hyd i dystiolaeth bod gweithred anghyfreithlon wedi ei chyflawni. Mae'r cyngor wedi pasio pleidlais o ddiffyg hyder ynddo yn ddiweddar. Ac eto mae'n derbyn pecyn diswyddo a fyddai'n cymryd pymtheg mlynedd o waith i lawer o weithwyr y cyngor ei ennill.
Mae yna fwy i benderfyniad fel hyn na gwastraffu arian cyhoeddus - mae'n tanseilio moral gweithwyr llywodraeth leol. Mae'r argyfwng ariannol wedi arwain at doriadau mewn llywodraeth leol, ac mae hynny yn ei dro wedi arwain at i lawer o weithwyr orfod ysgwyddo cynnydd sylweddol yn eu dyletswyddau ar yr union amser pan mae eu cyflog wedi aros yn yr unfan a phan mae eu safon byw wedi syrthio. Mi fydd Cyngor Penfro yn gofyn am fwy o aberth gan y sawl sy'n gweithio iddo a'r sawl mae'n ei wasanaethu tros y blynyddoedd nesaf - a mwy, a mwy a mwy. Ac mi fyddan nhw'n gwneud hynny o dan gysgod y penderfyniad yma.
Mae'n anodd gweld pam goblyn y dylai gweithwyr cyngor sy'n gwobreuo methiant yn hael i bobl sydd ar ben y domen, deimlo unrhyw angen o gwbl i roi o'u gorau i'w swyddi a'u cyflogwr.
No comments:
Post a Comment