Mae'n ddigon naturiol bod cryn son wedi bod am yr is etholiadau a gynhalwyd yn Lloegr yr wythnos ddiwethaf. Roedd yna is etholiadau eraill ddydd Gwener - yng Ngweriniaeth Iwerddon. Cynhalwyd yr is etholiadau yn Ne Orllewin Dulyn a Roscommon De Leitrim - y naill yn etholaeth drefol a thlawd iawn a'r llall yn etholaeth wledig a cheidwadol.
Mae'r newidiadau mewn patrymau pleidleisio ers 2007 yn syfrdanol - ond yn wahanol i 'r hyn ddigwyddodd yn Lloegr, pleidiau'r Chwith sydd wedi ennill tir i raddau syfrdanol yn Ne Orllewin Dulyn, ac annibynwyr gwrth sefydliadol (a'r Chwith i raddau llai) sydd wedi elwa yn Roscommon / De Leitrim.
1 comment:
Difyr iawn Mr Owen.
Post a Comment