Mae gan Gwilym Owen pob hawl i'w farn wrth gwrs, ac mae ganddo hefyd pob hawl i ddatgan ei farn yn y golofn bropoganda mae Golwg wedi bod mor garedig a'i rhoi iddo. Serch hynny mi fyddai'r golofn bropoganda tipyn yn well petai'n cymryd mymryn o drafferth i sicrhau ei bod yn ffeithiol gywir. Yn anffodus anaml y bydd Gwilym yn trafferthu i wneud hynny, dydi'r wythnos yma ddim yn eithriad.
Cyferbynu sefyllfa'r Blaid ag un yr SNP ydi byrdwn y truth y tro hwn. Ymddengys bod pob dim yn hardd yng ngardd y blaid genedlaetholgar Albanaidd tra bod gardd y cenedlaetholwyr Cymreig wedi ei gorchuddio gan ddrain ac ysgall. Yn anffodus mae'r ddadl wedi ei hadeiladu yn rhannol ar ffeithiau ffug.
Er enghraifft efallai bod Gwil yn meddwl bod yr SNP yn ymddangos yn 'gwbl unfryd a chadarn ei pholisiau', ond y rheswm mae'n meddwl hynny ydi oherwydd nad yw'n dilyn gwleidyddiaeth yr Alban. Mae yna ffraeo cyson oddi mewn i'r SNP, ac mae hynny wedi bod yn wir erioed. Ers etholiad Holyrood yn 2011 mae tri o Aelodau Senedd yr Alban yr SNP wedi gadael y blaid, un ohonyn nhw yr wythnos diwethaf. Yn wir oherwydd yr ymadawiadau tennau iawn ydi mwyafrif yr SNP yn Holyrood ar hyn o bryd. Gwrthwynebiad i bolisi'r SNP i aelodaeth o NATO ydi asgwrn y gynnen. Dwi ddim yn meddwl i'r Blaid golli cymaint ag un aelod cyffredin heb son am aelod etholedig yn sgil y 'glamp o broblem' mae Gwil yn honni sydd gan Leanne yng Ngwynedd - yr anghydfod ynglyn a'r drefn cynllunio newydd.
Mae'n wir y byddai unrhyw blaid wleidyddol yn rhoi ei chil ddannedd i gael treblu eu haelodaeth mewn deg diwrnod fel y gwnaeth yr SNP yn ddiweddar - yn arbennig felly plaid Gwilym sydd wedi gweld ei haelodaeth yn syrthio trwy'r llawr ers naw degau'r ganrif ddiwethaf. Ond dydi hi ddim yn wir nad ydi'r Blaid wedi gweld cynnydd o ran aelodau newydd - yn wir cafwyd cynnydd digon parchus yn sgil refferendwm yr Alban.
Mae Gwil hefyd yn awyddus iawn i ddyfynu'r pol hwnnw oedd wedi canfod mai 3% yn unig o etholwyr Cymru sydd o blaid annibyniaeth, ond wnaeth o ddim trafferthu son bol piniwn a gyhoeddwyd tua'r un pryd oedd yn rhoi'r gefnogaeth chwe gwaith hynny. Fel y Bib o'i flaen wnaeth o ddim son am ganfyddiadau trawiadol eraill y pol chwaith - gwendid etholiadol y Blaid Lafur Gymreig a'r ffaith bod mwyafrif clir o etholwyr eisiau mwy o bwerau o lawer i'r Cynulliad Cenedlaethol. Methiant plaid Gwilym i fynd i'r afael a'i anghytuno mewnol ei hun sy'n gyfrifol am y ffaith bod y Cynulliad efo cyn lleied o bwerau ar hyn o bryd.
Ac wedyn mae Gwil o'r farn bod twf UKIP yng Nghymru yn gur pen i'r Blaid, ond nad yw hyn yn broblem i'r SNP. Wel, mae'n wir bod gan UKIP fwy o gefnogaeth yng Nghymru na 'r Alban ond mi gostiodd twf UKIP yn yr Alban sedd i'r SNP yn etholiad Ewrop, tra ei bod yn debyg i lwyddiant UKIP mewn ardaloedd fel Merthyr a Chaerffili fod o gymorth i'r Blaid gadw ei sedd Ewropiaidd. Ond o edrych i 2015 a 2016 mae'r dealltwriaeth mwyaf elfennol o natur cymdeithasegol a daearyddol cefnogaeth UKIP yn dangos yn gwbl glir nad Plaid Cymru sydd a'r mwyaf i'w ofni gan UKIP - o bell, bell ffordd.
Mi soniais i ar y cychwyn mai colofn bropoganda ydi'r hyn mae Gwil yn ei gynhyrchu yn Golwg bellach, ond fel rhywun sy'n cadw blog sy'n ymarfer propoganda mae gen i bwt o gyngor i Gwil. Mae propoganda yn gweithio'n well pan mae'r propogandydd yn cael ei ffeithiau'n gywir ac yn gochel rhag defnyddio ffeithiau ffug. Hygrededd ydi prif arf y propogandydd.
4 comments:
A yw Gwilym Owen erioed wedi beirniadu'r Blaid Lafur? Jyst gofyn.
Dafydd Williams
Ambell waith, ond pur anaml.
Rwyt ti wedi colli pob hygrededd blogmenai ers iti ddefnyddio lluniau o blant marw I sgorio pwyntiau gwleidyddol
Rhag dy gywilydd
Gan mai'r pwynt gwleidyddol oedd bod lladd plant yn rhywbeth na ddylid ei wneud, mae'n anodd gweld pam bod dangos canlyniadau hynny yn weithred nad oes iddi hygrededd.
Efallai dy fod o'r farn y byddai chwilio'r We am lun o aelod o'r IDF yn rhoi da da i blentyn Palestinaidd a phostio hwnnw wedi bod yn gynrychiolaeth mwy gonest o'r hyn ddigwyddodd. Os felly rhyngddot ti a dy bethau.
Post a Comment