Thursday, July 17, 2014

Mwy o fusnesu gan Gymry ym materion mewnol yr Alban

Llongyfarchiadau i Ian Rush, Tanni Gray Thompson a Gareth Edwards am efelychu 'r Pab, Obama ac Arlywydd China yn ogystal a Charwyn Jones a Leighton Andrews wrth gwrs, yn eu hymdrechion i fusnesu ym materion mewnol yr Alban a cheisio dwyn perswad ar ei phobl i beidio a phleidleisio i fod yn gyfrifol am eu penderfyniadau cenedlaethol eu hunain - fel  pobl y rhan fwyaf o wledydd eraill.

Mae dadl Gareth - y dylai gwledydd y DU fod yn unedig fel y Llewod - dipyn bach yn boncyrs hyd yn oed i foi sydd wedi chwarae gormod o rygbi.  Mae'r Llewod yn tynnu ar chwaraewyr o ddwy wladwriaeth a phedair gwlad wahanol.  Dydi natur aml wladwriaethol y tim rygbi arbennig yma ddim yn amharu ar ei undod - ddim mwy nag ydi natur aml wladwriaethol tim rygbi Iwerddon yn effeithio ar ei undod yntau.


17 comments:

Anonymous said...

Mae Gareth Edwards yn dod o Waun Cae Gurwen, tref lle oedd 80% yn siarad Cymraeg yn 1991 a 56% yn 2011. Mae'r Undeb yn gweithio, felly!

Anonymous said...

Dwi'n cofio y diweddar Gary Speed yn gwrthwynebu datganoli i Gymru, ac Andy Irvine yn gwneud rhywbeth cyffelyb yn 1979. Oes yna beldroedwyr enwog wedi datgan yn gyhoeddus o blaid annibyniaeth ? Ni fuaswn yn disgwyl chwaraewyr rygbi'r Alban i wneud, gan eu bod mor uffernol o wael, yn ogystal a dod o ardal Brydeinig y gororau.
Tybed os oes ffasiwn beth a cefnogwr Celtic unoliaethol neu cefnogwr Rangers cenedlaetholgar ? . Alex Ferguson yn y garfan 'Na' hefyd.

Cai Larsen said...

Mae gen i frith gof bod Gareth Edwards yn amheus am ddatganoli yn ol yn 79 - er na ddywedodd yn bendant ei fod yn pleidleisio 'Na'

Anonymous said...

Er na alla i ddim yn fy myw gofio lle y darllenais i hyn, dwi'n cofio rhywun (tua 1978) yn gwatwar Gareth Edwards nad oedd yn gwisgo bathodyn 'Triban' (cofio hwnnw ?) PC fel yr ymddengys ei fod tua 1970. Gan fod Ian Rush wedi darganfod, er mawr syndod iddo, fod yr Eidal yn siarad Eidaleg, mae'n siwr ei fod ofn i'r Albanwyr droi at yr Albaneg y munud y cant annibyniaeth.

Cai Larsen said...

Mae Bhoys Celtic yn ddistaw iawn - er bod ganddynt farn bendant iawn am annibyniaeth gwlad Geltaidd arall wrth gwrs.

Anonymous said...

Yn ei hunangofiant mae Ian Rush yn dweud ei fod wedi cael ei eni yn Llanelwy, yn hytrach na Chaer, oedd yn nes, "because my father was the biggest Welsh Nationalist since Owain Glyndwr" Yr unig beldroediwr rhyngwladol ydw i'n gofio yn cefnogi annibyniaeth i Gymru ydi John Mahoney.

Ioan said...

O be dwi'n gofio am stori Gary Speed yn erbyn datganoli (1997), ydi bod Ryan Giggs o blaid! Daily Mirror oedd y papur dwi'n meddwl. Wrth gwrs doedd gan yr un o'r ddau bleidlais ar y pryd....

Anonymous said...

Mae'n wir fod Ryan Giggs o blaid. Roedd llun ohono fe a Neiol Jenkins ym mhapur yr ymgyrch Ie gafodd ei anfon i bob cartref yng Nghymru. Gyda mwyafrif mor gyfyng does dim dwywaith y byddai'r refferendwm wedi ei golli heb gyfnogaeth y ddau.

Anonymous said...

Ddaru Gareth Owen Edwards - Commander of the Most Excellent Order of the British Empire,
sylweddoli fod rhai o'i gyd-Lewod fel Barry Bresnihan, Tom Kiernan, Mick Doyle, Sean Lynch, Ray Mcloughlin, Mike Hipwell, Fergus Slattery, Tom Grace a John Moloney.
a. yn byw yng Ngweriniaeth yr Iwerddon
b. doeddan nhw felly ddim yn Brydeinwyr
c. eu bod yn yn cario pasport gwahanol
ch. Doeddan nhw ddim yn canu God save the Queen
d. yn defnyddio arian gwahanol

ac yn y blaen....ac yn y blaen...

Be ddiawl oedd y boi yma yn ei wneud oddiar y cae ?
Oedd o'n siarad hefo'i gyd-Lewod ?

Anonymous said...

Dwi'n cofio llun John Mahoney'n ymddanos ar daflen wleidyddol - 1979, efallai ? . Mi fuaswn i'n tybio fod chwaraewyr rygbi y Weriniaeth yn bobl anwleidyddol iawn, oherwydd eu cefndir addysgiedig. Cofier hefyd agwedd ffiaidd cenedlaetholwyr eithafol y GAA tuag at rygbi, peldroed a chriced (mae stori ddiddorol iawn am De Valera'n chwarae criced).

Cai Larsen said...

Mae'n fwy cyffredin o lawer i chwaraewyr GAA yn Iwerddon fynegi barn wleidyddol na rhai rygbi, ac mae cysylltiadau GAA yn bwysicach yn wleidyddol nag ydi rhai rygbi. Mae hyn yn arbennig o wir yn y Gorllewin - er enghraifft yn Gogledd Kerry mae Jimmy Deenan (FG), Dick Spring (Llaf) a Martin Ferris (SF) oll wedi bod yn chwaraewyr blaenllaw i Kerry ar rhyw lefel neu'i gilydd. Roedd Dick Spring hefyd yn chwaraewr rygbi adnabyddus.

Anonymous said...

Eironig ei fod wedi sgorio ei gais enwocaf i'r Barbariaid, enghraifft amlwg lle mae chwarewyr o wledydd annibynnol iw gilydd yn medru cydweithio yn llwyddiannus

Ond, wedi dweud hynny dyw chwarewyr ddim yn enwog am eu rhesymeg, mae bob amser yn teimlo'n annifyr I weld pobol chwaraeon yn cael eu defnyddio mewn gwleidyddiaeth achos mae gymaint ohonnyn nhw mor anneallus

Anonymous said...

Buasai'n eironig iawn petai rhywun rhywbryd yn llwyddo i brofi mai Ryan Giggs oedd y sbardun i'r ychydig filoedd a wnaeth y gwahaniaeth rhwng 'Ie' a 'Na', a ystyried cyn lleied oedd chwarae dros Gymru'n golygu iddo.
Y stori griced am 'Dev' oedd hon : Un tro, yr oedd wedi ymweld a coleg yn Nulyn (Trinity, efallai) a gwelodd myfyrwyr yn chwarae criced. Cydiodd mewn bat sbar ei hun, a gofyn i rhywun fowlio ato, ac er ei fod dros ei hanner cant ar y pryd, yr oedd yn amlwg ei fod wedi hen arfer a'r gem. Ymddangosodd rhywun gyda camera, a gollyngodd De Valera y bat fel petai ar dan ! . Nid oedd yn weddus i arlywydd y weriniaeth (Yn enwedig un gyda daliadau De Valera) gael ei weld yn arddel gem y Sais.
Mae criced i'w gweld yn gem sy'n arwain yn naturiol at wleidyddiaeth - Alec Douglas-Home, John Major, Ken Clarke ar ran y Toriaid, Roy Hattersley ar ran y Blaid Lafur, a chredaf ei fod yn wir i ddweud fod Jonathan Edwards yn gricedwr hefyd. Yn ryngwladol, daeth Wes Hall, Gill Langley, Imran Khan, Ranatunga'n amlwg yng ngwleidyddiaeth eu gwledydd ar ol ymddeol.
Alla i ddim gweld Danny Wellbeck, Aron Ramsey na Mike Phillips yn mynd ymlaen i enwogrwydd mewn maes arall rhywsut.

Cai Larsen said...

Diddorol. Dwi'n meddwl bod cysylltiad dosbarth cymdeithasol efo'r pethau 'ma. Mae pobl o gefndir dosbarth canol yn fwy tebygol o chwarae criced ac i wleidydda.

Mae'r busnes GAA yn wahanol - mae nhw'n lleol iawn ac yn darparu chwaraewyr efo cysylltiadau lleol cryf - yr union beth sydd ei angen ar wleidydd Gwyddelig.

Anonymous said...

Pan aeth Edwards i Dde'r Affrig i chwarae yn y 70'au, mi wnaeth nifer ddadlau na ddylai chwaraeon a rygbi cael eu cymysgu. Beth oedd dadl Edwards ar y pryd?

Dyfed said...

Er nad ydw i'n cytuno efo'u safbwynt dwi ddim yn siwr pam eu bod yn cael eu cyhuddo o fusnesa. Dydyn nhw'n gwneud dim gwahanol i'r llu cenedlaetholgar Cymreig sydd yn codi eu llais ar ochr arall y ddadl - rhai o'r rheini hyd yn oed yn mynd i'r Alban ei hun i weithio dros yr ymgyrch.

Mae agnddyn nhw berffaith hawl i'w barn a pherffaith hawl i'w mynegi hi. Nid gwlad rydd mo gwlad sy'n mygu gwrthddadleuon.

Cai Larsen said...

Ond pam fyddai pobl o un gwlad eisiau i bobl o wlad arall fod yn rhydd. Mi fyddem ni yn beirniadu Cymry imperialaidd oedd yn mynd ati i geisio dwyn perswad ar bobl cyn drefidigaethau'r Ymerodraeth rhag torri eu cwys eu hunain.