Wednesday, July 30, 2014

Cost dynol ymgyrch yr IDF yn Gaza

Dwi wedi meddwl yn ofalus cyn cyhoeddi'r  blogiad yma - yn rhannol oherwydd y fy mod yn gwybod y byddaf yn cael fy meirniadu - er fy mod yn gyfarwydd a hynny bellach.

Mae dau reswm pwysicach.  Yn gyntaf oherwydd fy mod yn ddrwg dybus pan mae dioddefaint yn cael ei ddefnyddio i bwrpas gwleidyddol - yn arbennig felly dioddefaint plant.  Mae'n hawdd i un ochr dynnu sylw at ddioddefaint felly ar ei hochr ei hun, tra'n anwybyddu dioddefaint yr ochr arall.

Er enghraifft yn ystod rhyfel Gogledd Iwerddon byddai Gweriniaethwyr yn tynnu sylw at farwolaethau Julie Livingstone ym Melfast neu'r tri phlentyn Quinn yn Antrim, roedd marwolaeth Jonathan Ball yn Warrington neu Michelle Baird ar y Shankhill yn cael eu defnyddio gan y cyfryngau Prydeinig.  I raddau roedd y ddwy ochr yn euog o ragrith - er mai ychydig iawn o blant a laddwyd yng Ngogledd Iwerddon mewn gwirionedd - roedd y gwahanol garfannau yn ceisio osgoi lladd plant.

Mae'r sefyllfa yn wahanol yma.  Mae yna anghymuseredd llwyr o ran y lladd a natur y lladd - prin iawn, iawn ydi'r sifiliaid Israelaidd a leddir - heb son am blant.  Ar ben hynny mae byddin Israel (yr IDF) yn ymosod ar dargedau yn ddyddiol pan maent yn gwybod bod risg uchel iawn o gymryd bywydau sifiliaid.

Mae'r ail yn ymwneud a diwylliant.  Dydi hi ddim yn arferol yn ein diwylliant ni i ddangos cyrff marw - yn arbennig felly cyrff pobl sydd wedi eu lladd mewn amgylchiadau treisgar.  Y rheswm a roir am hyn gan amlaf ydi ei bod yn bwysig amddiffyn urddas y sawl a laddwyd - er fy mod yn meddwl bod pethau yn fwy cymhleth na hynny mewn gwirionedd.  Ochr arall y geiniog honno ydi mai'r hyn sy'n dwyn urddas mewn gwirionedd ydi lladd person yn gyhoeddus trwy ddefnyddio arfau rhyfel sydd wedi eu cynllunio i ddifa tanciau a chwalu adeiladau.  Mae cuddio canlyniadau hynny yn saniteiddio rhyfel a felly yn ei gwneud yn fwy derbyniol i ladd sifiliaid.  Dydi'r hyn sy'n digwydd yn Gaza ar hyn o bryd ddim yn haeddu cael ei guddio na'i saniteiddio.

Dwi'n cyhoeddi'r delweddau isod i bwrpas dangos canlyniadau gweithredoedd gwlad mae'r DU ar dermau da efo hi, a sy'n anfon  allforion gwerth £8bn o arfau yn flynyddol iddi hi.  Mae yna lawer o ddelweddau hynod o anymunol ar y We na fyddwn eisiau eu cyhoeddi - dwi wedi cadw at y rheolau canlynol - rhaid i'r cyrff fod yn gyfan, heb eu llosgi na'u rhwygo a heb arwyddion sylweddol o hylifau dynol.  

17 comments:

Dafydd Llewelun said...

Nod hir dymor Hamas yw dinistrio Israel a lladd ei thrigolion. Yn wyneb hynny, os yw Israel am gael llonydd i fyw'n heddychlon yn y Dwyrain Canol, bydd yn rhaid i lywodraeth y wlad drechu Hamas yn Llain Gaza a dinistrio'u twnelau trais yn llwyr. Os yw llywodraeth Israel yn dymuno trechu Hamas yn filwrol yn Llain Gaza bydd yn rhaid iddi ddefnyddio grym milwrol anghyfartal yn erbyn Hamas a dyna'n union mae llywodraeth Israel yn ei wneud yno ar hyn o bryd. Mae hynny'n golygu y bydd y ddwy blaid yn gorfod dioddef colledion. Mae hynny'n anochel. Yr hyn yr wyt ti'n ei wneud yn dy flogiad uchod yw ail-adrodd honniadau Hamas yn erbyn Israel.

Y gwir amdani ydyw bod Hamas wedi lladd nifer go sylweddol o drigolion Llain Gaza eu hunain - plant yn ogystal ag oedolion. Er enghraifft, mae Hamas wedi lladd nifer ohonyn nhw'n ddamweiniol ar dri gwahanol achlysur y gwn i amdanynt wrth geisio tanio rocedi at Israel. Hefyd mae Hamas wedi bod yn gyfrifol am farwolaethau 160 o blant a gafodd eu defnyddio ganddynt i adeiladu'r twnelau trais dan Llain Gaza. Ar ben hynny, mae Hamas yn gyfrifol am farwolaeth nifer o drigolion Llain Gaza sydd wedi cael eu defnyddio gan eu milwyr i lechu fel cahgwn y tu ôl iddynt. Byddai dy flogiad uchod yn fwy cytbwys pe byddet wedi sôn ynddo am y colledion hynny. Eithr nid gŵr amhleidiol yn y mater ydwyt. Rwyt yn ochri gyda Hamas yn yr achos. Mae hynny'n amlwg i mi. Ond, wyt ti'n gwybod sut y cychwynodd Hamas ?

Tad pob mudiad ' Palesteinaidd ' oedd y diweddar Haj Amin al-Husseini, sef Prif Fwffti Jerwsalem. Roedd ef yn un o gyfeillion Adolf Eichmann. Roedd Haj Amin al-Husseini a'i ganlynwyr Mahometanaidd yn gyfrifol ar y cyd gyda milwyr Heinrich Himmler am hil-laddiad Serbiaid, Iddewon a Sipsiwn Bosnia a Kossovo dan oreysgyniad y Natsïaid adeg yr Ail Ryfel Byd. Yng nghynhadledd Wansee yn Ionawr 1942, fe gymerodd y Prif Fwffti Haj Amin al-Hussein ran yn Ateb Terfynol y Natsïaid i ddifodi Iddewon mewn gwersylloedd lladd yn Ewrop. Un o gyfeillion Haj Amin al-Husseini oedd Adolf Eichmann ac wedi Wansee, fe bwysodd al-Husseini ar Eichmann droeon i brysuro gyda'r gwaith o ladd Iddewon yn Ewrop. Roedd Adolf Hitler ac al-Husseini wedi bwriadu lladd Iddewon yn y dwyrain canol hefyd. Yn fuan wedi i Gamal Abdel Nasser ennill grym yn yr Aifft yn 1952 fe deithiodd nifer o gyn Natsïaid i'r Aifft lle buont yn hyfforddi Arabiad i frwydro yn erbyn Israel. Un a elwodd yn fawr iawn ar eu hyfforddiant oedd Yasser Arafat a oedd yn byw'n yr Aifft yr adeg honno lle y daeth hefyd dan ddylanwad al-Husseini ar y cyd gyda Mahmoud Abbas. Sefydlwyd Fatah ganddynt a nabodid yn ddiweddarach fel Mudiad Rhyddid Palesteina. Un o gyfeillion Yasser Arafat yn 1977 oedd y diweddar Kurt Waldheim, pedwerydd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig. Bydd y cyfarwydd yn gwybod mai Natsi oedd Kurt Waldheim hefyd ac roedd gwaed Serbiaid, Iddewon a Sipsiwn Bosnia a Kossovo adeg yr Ail Ryfel Byd ar ei ddwylo yntau'n ogystal. Mudiad a sefydlwyd gyda chymorth Natsïaid oedd Mudiad Rhyddid Palesteina sydd bellach wedi hen ymrwygo'n ddwy garfan, sef Fatah ac Hamas. Mae cysylltiad Hamas a Fatah gyda Natsiaeth yn fwy na digon o reswm i mi dros peidio â'u cefnogi dan unrhyw amgylchiad.

Hyderaf y caiff Hamas eu trechu'n flwrol yn Llain Gaza a'u twnelau trais eu dinistro'n llwyr yno gan lywodraeth Israel. Mae trigolion Llain Gaza yn haeddu cael eu gwaredu o ddylanwad difaol Natsïaidd Hamas arnynt.

Dafydd Llewelun said...

Nod hir dymor Hamas yw dinistrio Israel a lladd ei thrigolion. Yn wyneb hynny, os yw Israel am gael llonydd i fyw'n heddychlon yn y Dwyrain Canol, bydd yn rhaid i lywodraeth y wlad drechu Hamas yn Llain Gaza a dinistrio'u twnelau trais yn llwyr. Os yw llywodraeth Israel yn dymuno trechu Hamas yn filwrol yn Llain Gaza bydd yn rhaid iddi ddefnyddio grym milwrol anghyfartal yn erbyn Hamas a dyna'n union mae llywodraeth Israel yn ei wneud yno ar hyn o bryd. Mae hynny'n golygu y bydd y ddwy blaid yn gorfod dioddef colledion. Mae hynny'n anochel. Yr hyn yr wyt ti'n ei wneud yn dy flogiad uchod yw ail-adrodd honniadau Hamas yn erbyn Israel.

Y gwir amdani ydyw bod Hamas wedi lladd nifer go sylweddol o drigolion Llain Gaza ei hunain - plant yn ogystal ag oedolion. Er enghraifft, mae Hamas wedi lladd nifer ohonyn nhw'n ddamweiniol ar dri gwahanol achlysur y gwn i amdanynt wrth geisio tanio rocedi at Israel. Hefyd mae Hamas wedi bod yn gyfrifol am farwolaethau 160 o blant a gafodd eu defnyddio ganddynt i adeiladu'r twnelau trais dan Llain Gaza. Ar ben hynny, mae Hamas yn gyfrifol am farwolaeth nifer o drigolion Llain Gaza sydd wedi cael eu defnyddio gan eu milwyr i lechu fel cahgwn y tu ôl iddynt. Byddai dy flogiad uchod yn fwy cytbwys pe byddet wedi sôn ynddo am hynny. Eithr nid gŵr amhleidiol yn y mater ydwyt. Rwyt yn ochri gyda Hamas yn yr achos. Ond, a wyt ti'n gwybod o ble daeth Hamas ?
Tad pob mudiad ' Palesteinaidd ' oedd y diweddar Haj Amin al-Husseini, sef Prif Fwffti Jerwsalem. Roedd ef yn un o gyfeillion Adolf Eichmann. Roedd Haj Amin al-Husseini a'i ganlynwyr Mahometanaidd yn gyfrifol ar y cyd gyda milwyr Heinrich Himmler am hil-laddiad Serbiaid, Iddewon a Sipsiwn Bosnia a Kossovo dan oreysgyniad y Natsïaid adeg yr Ail Ryfel Byd. Yng nghynhadledd Wansee yn Ionawr 1942, fe gymerodd y Prif Fwffti Haj Amin al-Hussein ran yn Ateb Terfynol y Natsïaid i ddifodi Iddewon mewn gwersylloedd lladd yn Ewrop. Un o gyfeillion Haj Amin al-Husseini oedd Adolf Eichmann ac fe bwysodd al-Husseini ar Eichmann droeon i brysuro gyda'r gwaith o ladd Iddewon yn Ewrop. Roedd Adolf Hitler ac al-Husseini wedi bwriadu lladd Iddewon yn y dwyrain canol hefyd. Yn fuan wedi i Gamal Abdel Nasser ennill grym yn yr Aifft yn 1952 fe deithiodd nifer o gyn Natsïaid i'r Aifft lle buont yn hyfforddi Arabiad i frwydro yn erbyn Israel. Un a elwodd yn fawr iawn ar eu hyfforddiant oedd Yasser Arafat a oedd yn byw'n yr Aifft yr adeg honno lle y daeth dan ddylanwad al-Husseini ar y cyd gyda Mahmoud Abbas. Sefydlwyd Fatah ganddynt a nabodid yn ddiweddarach fel Mudiad Rhyddid Palesteina. Un o gyfeillion Yasser Arafat yn 1977 oedd y diweddar Kurt Waldheim, pedwerydd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig. Bydd y cyfarwydd yn gwybod mai Natsi oedd Kurt Waldheim ac roedd gwaed Serbiaid, Iddewon a Sipsiwn Bosnia a Kossovo adeg yr Ail Ryfel Byd ar ei ddwylo ef yn ogystal. Mudiad a sefydlwyd gyda chymorth Natsïaid oedd Mudiad Rhyddid Palesteina a roes fod i Hamas a Fatah. Dyna pam nad ydwyf yn cefnogi nac Hamas na Fatah.

Twrch said...

Erthygl wael tro yma Blogmenai

Mae defnyddio lluniau plant a laddwyd er mwyn gwneud pwynt gwleidyddol yn druenus

Exploitation ofnadwy. Mae dau ochr I'r rhanfwyaf o rhyfeloedd a dyw llofruddiaeth y diniwed ddim yn profi goruchafiaeth foesol un ochr na'r lall dimond fod rhyfel yn dueddol o ladd lot o bobol

Twrch said...

133Dwi'n credu ei fod yn druenus ac yn warthus Blogemani dy fod yn defnyddio lluniau o blant marw er mwyn gwneud pwynt gwleidyddol

Dyw marwolaeth pobol diniwed mewn rhyfel ddim yn profi goruchafiaeth moesol un ochr na'r llall

Awgrymaf mae'r hyn y dylet nodi yw fod rhyfel bob amser yn lladd plant a phobol diniwed ac na ddylid mentro i rhyfela os yw marwolaethau felly yn eich poeni

Holl warthus Blogemani

Mae defnyddio lluniau o blant marw i brofi pwynt gwleidyddol yn beth truenus i neud

Dyw marwolaeth pobol diniwed ddim yn profi goruchafiaeth moesol un ochr na'r llall rhag dy gwyilydd di'n awgrymu'r fath beth

Dafydd Llewelun said...

Nod hir dymor Hamas yw dinistrio Israel a lladd ei thrigolion. Yn wyneb hynny, os yw Israel am gael llonydd i fyw'n heddychlon yn y Dwyrain Canol, bydd yn rhaid i lywodraeth y wlad drechu Hamas yn Llain Gaza a dinistrio'u twnelau trais yn llwyr. Os yw llywodraeth Israel yn dymuno trechu Hamas yn filwrol yn Llain Gaza bydd yn rhaid iddi ddefnyddio grym milwrol anghyfartal yn erbyn Hamas a dyna'n union mae llywodraeth Israel yn ei wneud yno ar hyn o bryd. Mae hynny'n golygu y bydd y ddwy blaid yn dioddef colledion. Mae hynny'n anochel. Yr hyn yr wyt ti'n ei wneud yn dy flogiad uchod yw ail-adrodd honniadau Hamas yn erbyn Israel.

Y gwir amdani ydyw bod Hamas wedi lladd nifer go sylweddol o drigolion Llain Gaza ei hunain - plant yn ogystal ag oedolion. Er enghraifft, mae Hamas wedi lladd nifer ohonyn nhw'n ddamweiniol ar dri gwahanol achlysur y gwn i amdanynt wrth geisio tanio rocedi at Israel. Hefyd mae Hamas wedi bod yn gyfrifol am farwolaethau 160 o blant a gafodd eu defnyddio ganddynt i adeiladu'r twnelau trais dan Llain Gaza. Ar ben hynny, mae Hamas yn gyfrifol am farwolaeth nifer o drigolion Llain Gaza sydd wedi cael eu defnyddio gan eu milwyr i lechu fel cahgwn y tu ôl iddynt. Byddai dy flogiad uchod yn fwy cytbwys pe byddet wedi sôn ynddo am hynny. Eithr nid gŵr amhleidiol yn y mater ydwyt. Rwyt yn ochri gyda Hamas yn yr achos. Ond, a wyt ti'n gwybod o ble daeth Hamas ?

Tad pob mudiad ' Palesteinaidd ' oedd y diweddar Haj Amin al-Husseini, sef Prif Fwffti Jerwsalem. Roedd ef yn un o gyfeillion Adolf Eichmann. Roedd Haj Amin al-Husseini a'i ganlynwyr Mahometanaidd yn gyfrifol ar y cyd gyda milwyr Heinrich Himmler am hil-laddiad Serbiaid, Iddewon a Sipsiwn Bosnia a Kossovo dan oreysgyniad y Natsïaid adeg yr Ail Ryfel Byd.
Yng nghynhadledd Wansee yn Ionawr 1942, fe gymerodd y Prif Fwffti Haj Amin al-Hussein ran yn Ateb Terfynol y Natsïaid i ddifodi Iddewon mewn gwersylloedd lladd yn Ewrop. Un o gyfeillion Haj Amin al-Husseini oedd Adolf Eichmann ac fe bwysodd al-Husseini ar Eichmann droeon i brysuro gyda'r gwaith o ladd Iddewon yn Ewrop. Roedd Adolf Hitler ac al-Husseini wedi bwriadu lladd Iddewon yn y dwyrain canol hefyd.

Yn fuan wedi i Gamal Abdel Nasser ennill grym yn yr Aifft yn 1952 fe deithiodd nifer o gyn Natsïaid i'r Aifft lle buont yn hyfforddi Arabiad i frwydro yn erbyn Israel. Un a elwodd yn fawr iawn ar eu hyfforddiant oedd Yasser Arafat a oedd yn byw'n yr Aifft yr adeg honno lle y daeth dan ddylanwad al-Husseini ar y cyd gyda Mahmou Abbas. Sefydlwyd Fatah ganddynt a nabodid yn ddiweddarach fel Mudiad Rhyddid Palesteina.

Un o gyfeillion Yasser Arafat yn 1977 oedd y diweddar Kurt Waldheim, pedwerydd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig. Bydd y cyfarwydd yn gwybod mai Natsi oedd Kurt Waldheim ac roedd gwaed Serbiaid, Iddewon a Sipsiwn Bosnia a Kossovo adeg yr Ail Ryfel Byd ar ei ddwylo ef yn ogystal. Mudiad a sefydlwyd gyda chymorth Natsïaid oedd Mudiad Rhyddid Palesteina a roes fod i Hamas a Fatah. Dyna pam nad ydwyf yn cefnogi nac Hamas na Fatah.

Hyderaf y caiff Hamas eu trechu'n flwrol yn Llain Gaza a'u twnelau trais eu dinistro'n llwyr yno gan lywodraeth Israel. Mae trigolion Llain Gaza yn haeddu cael eu gwaredu o ddylanwad difaol Natsïaidd Hamas arnynt.

Twrch said...

Gyfangwbwl warthus defnyddio lluniau o blant marw I wneud pwynt gwleidyddol Blogmenai

exploitation echrydus

Dyw marwolaeth y diniwed mewn rhyfel ddim yn profi goruchafiaeth moesol un ochr na'r llall

Gwarthus iawn Cai a thruenus

Cai Larsen said...

Dafydd Llewelun - ti'n mynegi dy farn ac yn cynnwys llwyth o storiau nad wyt yn rhoi ffynhonell ar eu cyfer, gallant fod yn wir, gallant fod yn anwir a gallant fod yn ddeilliant ymarferiad propoganda. Diwerth a dweud y gwir.

Twrch - Dwi'n egluro fy rhesymau am gynnwys y delweddau, ac wedi egluro pam y gelwais bethau fel y gwnes - gallwn fod wedi cynnwys delweddau llawer mwy ymfflamychol.

Mae marwolaeth yn cael ei ddefnyddio'n aml i bwrpas gwleidyddol - ystyrier gynhebryngau gwladol y wladwriaeth Brydeinig er enghraifft. Dydan ni ddim yn gweld cyrff yn aml yn y cyfryngau prif lif yn y DU, dwi'n meddwl bod achos i ni weld rhywfaint ar ddeilliannau patrwm o ymysodiadau sy'n targedu sifiliaid - heb y saniteiddio.

Dafydd Llewelun said...

Cei - Dafydd Llewelun - ti'n mynegi dy farn ac yn cynnwys llwyth o storiau nad wyt yn rhoi ffynhonell ar eu cyfer, gallant fod yn wir, gallant fod yn anwir a gallant fod yn ddeilliant ymarferiad propoganda. Diwerth a dweud y gwir.

Yn union fel y lluniau a bostiais uchod ! Pa brawf sydd gennyt ti mai marw yn ystod cyrch presennol Israel yn erbyn Llain Gaza mae'r plant uchod wedi wneud ? Ai colledion rhyfel ydyw pob un ohonynt ? Gwneud sylw brys yn unig ar du flogiad wneuthum nid sgwennu traethawd ar gyfer doethuriaeth !Os byddaf yn gwneud sylwadau ar dy flog yn y dyfodol, mi gofiaf roi ffynonhellau ar eu cyfer !

Cai Larsen said...

Dwi wedi gwneud yn siwr bod pob delwedd yn un diweddar o Gaza.

Nid bod gwahaniaeth mawr - does neb yn gwadu i gannoecc o blant farw yn ystod cyrch Israel.

Ti ddim angen rhoi ffynhonell am pob dim - jyst y stwff sy'n swnio fel mymbo jymbo.

twrch said...

Rwyt ti mor euog a'r rhai wyt ti eu beirniadu yn yr ystyr fod marwolaeth y plant yma'n gyfle am wleidydda ac felly yn llai pwysig na'r agenda gwleidyddol

Mae marwolaeth pawb mewn rhyfel yn lofruddiaeth yn drist ac hydynoed y milwyr yn amlach na pheidio yn ymladd am rhesymau sydd y tu-hwnt iw dealltwriaeth na'u rheolaeth. Mae dy ddefnydd o'r lluniau hyn yn awgrymu fod un ochr yn fwy drygionus na'i gilydd neu fod marwolaeth plant palesteinaidd rhywsut yn waeth na plant iddewig

Rwyt ti'n gyfeiliornus iawn fan hyn Cai ac mae'n druenus nad wyt yn syrthio ar dy fai

Cai Larsen said...

Does yna ddim delweddau i'w cael o'r ochr arall oherwydd anghymesuredd y sefyllfa. Does yna bron ddim sifiliaid Israelaidd wedi eu lladd.

Mae'r term 'llofruddiaeth' yn un cyfreithiol - ac mae'n well peidio ei ddefnyddio yn y math yma o sefyllfa. Os oes llofruddiaeth wedi digwydd mae arweinyddiaeth Israel mewn perygl o gael eu hunain yn yr Hague.

Does gen i ddim bwriad syrthio ar fai sydd wedi ei ddiffinio gen ti - nag unrhyw un arall o ran hynny.

Twrch said...

Ti'n swnio fel aelod o Lywodraeth Israel

Cai Larsen said...

Mae o dipyn bach yn stiwpid i ddisgwyl i bobl ymddiheuro am wneud rhywbeth ti'n ei ystyried yn amhriodol ond nad ydi o yn ei ystyried yn amhriodol.

Dafydd Llewelun said...

Gwylia'r ffilm y mae ei chyfeirnod yn dilyn gael i ti dddysgu rhywbeth am Fahometeniaet https://www.youtube.com/watch?v=X50aYLOVcKw