Wednesday, July 23, 2014

Cystadleuaeth cam resymu 'cyffredinoli brysiog'

Mae un o gyfranwyr anhysbys y blogiad diweddaraf yn cyhuddo Guto Bebb o Suppressio Veri - celu'r gwir.

Dwi'n tueddu i fod ychydig yn fwy caredig - mae'n well gen i gredu mai cam resymu yn hytrach na chelu'r gwir oedd Guto yn ei ymateb i'r blogiadau diweddar a'r trydar gwreiddiol.  Petai'r rhesymu yn gywir wrth gwrs byddai bron iawn i bawb sy'n beirniadu ymddygiad Israel ar Lain Gaza yn agored i awgrymiadau o wrth Semitiaeth oherwydd rhyw weithred gwrth Semitaidd neu'i gilydd yn y gorffennol yn ei wlad / gwlad.

Camgymeriad rhesymu ydi cyffredinoli brysiog.  Mae'n gweithio rhywbeth fel hyn - Mae Wil yn mynd i fyw i Lundain.  Ar ei noswaith gyntaf yn Llundain mae'n gweld dwy wiwer wen.  Mae'n mynd adref a 'sgwennu ebost i'w fam ac yn nodi bod wiwerod Llundain yn wyn.  Y diwrnod wedyn mae'n sylwi bod pob wiwer arall mae'n ei gweld yn llwyd ac mae felly'n casglu iddo gam resymu.

Rwan dyma'r camgymeriad rhesymu mae Guto Bebb yn euog ohono yn ei gyfraniadau diweddar i'r blog yma, ac wrth drydar.  Mae'n priodoli hanes o wrth Semitiaeth yn yr Iwerddon ar sail boicot ynysig o fusnesau Iddewig yn ninas Limerick yn 1904, ac mae'n cyffredinoli i raddau lloerig ar sail hynny. Mae rhai o gyfranwyr anhysbys y blog yma wedi cynhyrchu camgymeriadau rhesymu tebyg - i bwrpas dychan am wn i.  Dyma nhw
 Mae Jimmy Savile yn Sais. Mae jimmy Safil yn pido. Felly mae Saeson yn pidos. Id
Anonymous said...
Anonymous said...

Mae Jimmy Savile yn Sais. Mae jimmy Safil yn pido. Felly mae Saeson yn pidos. 
Anonymous said...
Mae Steven Crabb yn aelod seneddol Toriaidd. Mae Steven Crabb wedi fflipio ei dy er mwyn godro pres gan y trethdalwr. Felly mae aelodau seneddol Toriaidd yn fflipio eu tai er mwyn godro'r trethdalwr.

Os oes yna rhywun efo cyfraniadau tebyg gadewch eich cyfraniad yn nhudalen sylwadau'r blogiad yma.  Potel o Shingle Peak (gwyn) neu Black Stump (coch) i'r cyfraniad gorau i ddod i law erbyn hanner dydd, wythnos i heddiw.












18 comments:

Anonymous said...

Beth am

Mae yna llygoden yn byw yn ty ni. Ei henw hi ydi Anwen. Felly Anwen ydi enw pob llygoden.

neu

Mae yna llygoden yn byw yn ty ni. Ei henw hi ydi Anwen. Felly llygoden ydi pawb o'r enw Anwen.

Anonymous said...

Boris Johnson ydi maer Llundain.
Mae BJ yn Dori.
Mae Guto Bebb yn Dori.
Felly GB ydi maer Llundain.

Anonymous said...

Mae David Ruffley yn aelod seneddol Ceidwadol. Mae David Ruffley yn curo ei wraig _ _ da chi'n gweld lle mae hon yn mynd yn dydach.

Guto Bebb said...

Gwir yn brifo hogia?

Ddaru Cai ddatgan fy mod yn creu hanes. Ddaru ei gwn bach gytuno. Ond sioc, dyma Cai yn derbyn wedi gwneud chydig o waith cartref (bob amser yn syniad da) fy mod yn gywir.

Be fedrith y cwn bach wneud rwan? Anwybyddu ffeithiau a fy nghyuddo o safbwynt y mae Cai wedi ei greu ar fy rhan.

O diifri hogia, da ch'n ddigalon o aneffeithiol. Wrth gwrs, fe allai fod yn fater syml o dwpdra neu ragfarn ond gwell gennyf feddwl eich bod wedi trio ond heb lwyddo.

O ran Cai, caria mlaen i dyllu ond rhyw ben fe fydda ymddiheuriad am gyhuddiad di sail yn dangos dy fod yn well boi na dwi'n feddwl wyt ti.

Cai Larsen said...

Mi dria ni eto:

Dau gwestiwn.

1. Pam ti'n dewis Iwerddon i'w harenwi fel gwlad efo hanes gwrth Semitaidd - er ei bod efo hanes llai gwrth Semitaidd na nemor yr un wlad arall yn Ewrop?

2. Beth wyt ti wedi ei wneud i annog dy blaid i ymbellhau oddi wrth bleidiau Ewropiaidd gwrth Semitaidd?

Dim ensyniadau personol plis, dim whataboutery - jyst atebion dealladwy plis.

Guto Bebb said...

Tydi ail adrodd dau gwestiwn hurt ddim yn gwella nhw.

O ran ensyniadau personol - chdi sy'n cyhuddo? Awdur blog hunan bwysig a nawddoglyd yn cwyno am sylw personol?

Ti wirioneddol yn unigolyn eithafol o hunan gyfiawn. Lluchio baw personol yn gyson at unrhyw un sy'n mynd yn groes i dy annwyl blaid ond cwyno am ensyniadau pan fo dy flogiad hunan bwysig yn cael ei ddangos i fod yn ffeithiol anghywir.

Fel y bu i ti ddeud, angen deryn glan i ganu ond deryn sy'n fwy na bodlon chwarae'n fudur 'di awdur Blog Menai. Byddai bodlonrwydd derbyn beirniadaeth fel ti mor hoff o gynnig beirniadaeth yn gam i'r cyfeiriad cywir. Nid fy mod yn dal fy ngwynt.

Cai Larsen said...

Gofyn i ti osgoi ensyniadau personol wnes i - ni gofyn i ti gael y bib o ran ensyniadau personol. Wyt ti'n gallu dadlau heb fynd yn gas a phersonol?

Ti ddim yn gwneud i ti dy hun ymddangos yn arbennig o aeddfed.mae gen i ofn.

Guto Bebb said...

O Cai druan. Traethu yn hunan fodlon i dy gynulleidfa o gwn bach di-enw ond wedyn dyma fi'n nodi dy fod yn ffeithiol snghywir a hynny am Iwerddon o bob man.

Tydi dy ymdrechion i bardduo ddim yn tycio. Blog llawn malais yw dy flog ond mae nodi hynny a dangos dy fod ychydig yn llai na perffaith yn ymddygiad anaeddfed!

Mae angen i ti dyfu fyny, ymddiheuro am ei gelwydd a symud 'mlaen. Cofia Cai, fe fu i ti syrthio i drap fel y bu i mi ddisgwyl. Gerry Adams - dio'n gwerthfawrogi y ffyddlondeb tybed?

Dim mwy. Rhyngddi ti a'r cwn bach di hi bellach. Hwyl.

Anonymous said...

Ffwcin hel Cai dydw i ddim yn gwbod os mai'r ffaith bod chdi yn mynd o dy ffordd i wylltio'r boi yn fwriadol ta bod o'n syrthio i mewn i'r fagl pob tro sydd fwyaf shocking.

Cai Larsen said...

Felly yr ateb i'r cwestiwn os wyt ti'n gallu dadlau heb fod yn gas ac annifyr ydi na.

Ta waeth, mi dria ni eto - pam bod beirniadaeth Gwyddel o bolisi Israel yn adlewyrchu hanes 'gwrth Semitaidd' ei wlad o, pan nad ydi beirniadaeth Cymry a Saeson yn adlewyrchiad o hanes 'gwrth Semitaidd' eu gwlad hwythau?

Ac wyt ti'n meddwl bod parodrwydd dy blaid i gynghreirio efo gwrth Semitiaid yn rhywbeth i'w wneud efo'i hanes gwrth Semitaidd?

Rwan jyst ateba'r cwestiynau plis a gwna'r ymysodiadau personol wedyn. Mae'r holl fyllio, tantro a hefru 'ma yn gwneud pethau'n anodd i'w dilyn.

Cai Larsen said...

Anon 11:46 - You might think that, but I couldn't possibly comment.

Anonymous said...

Pobl fel hyn sy'n ein rheoli!

Anonymous said...

Mae Guto Bebb angen mynd ar anger management course. Mae Guto Bebb yn Aelod Seneddol Toriaidd. Mae Stephen Crabb yn Aelod Seneddol Toriaidd. Felly mae Stephen zcrabb angen mynd ar anger management course.

Anonymous said...

Mae Cai a Guto fel dau frawd yn ffraeo. Oeddach chi'n yr un dosbarth yn yr ysgol?

Gyda llaw, roedd taid Guto yn ystod y rhyfel byd cyntaf yn olygydd ar gyfnodolyn myfyrwyr yn Aberystwyth a fentrodd gefnogi'r ymgodiad yn Nulyn yn 1916. Yn ol y son fe waharddwyd y cyhoeddiad gan yr awdurdodau.

Anonymous said...

Dwi wastad yn rhoi fy enw wrth sylwi yma a phob safle arall. Methais wneud hynny ddoe am ryw reswm - jyst camgymeriad.

'Suppressio veri' oedd fy ngeiriau i, ond na fyddwn i'n dehongli ystyr y dyfais rhethregol fel 'celu'r gwir'. Wrth wneud dadl ti'n 'gadael allan' ffeithiau pwysig a fyddai o ddefnydd i'r ddadl wrthwynebol. 'Argument by omission' ydyw nid 'argument by obfuscation'.

Mae Guto yn dadlau bod Iwerddon yn wlad wrthsemitaidd, ac mae yn cynnig ffeithiau i brofi hynny. Wrth geisio argyhoeddi ei gynulleidfa mae yn gadael allan ffeithiau pwysig eraill. Dyna'r cwbl reali...

Phil Davies
Ci bach ydwyf yn sicr, ond nid heb enw am wn i...

Cai Larsen said...

Duw, Duw - Guto wedi cael y myll, pwdu a gadael yr adeilad. Pwy fyddai'n credu.

Cai Larsen said...

Diolch Phil.

Yn yr achos yma mae o'n dipyn mwy na gadael ffeithiau allan i bwrpas camarwain. Be gen ti ydi gafael yn dyn o gwmpas un digwyddiad i bwrpas honni bod cenedl efo hanes o wrth Semitiaeth.

Dipyn bach fel defnyddio achos Stephen Laurence i honni bod rhyw aelod seneddol ceidwadol neu'i gilydd sy'n condemnio Mugabe yn gwneud hynny oherwydd hanes hiliol ei wlad.

Anonest ac anghyfrifol.

Ioan said...

Be am:

"O ystyried hases gwrth Wyddelig y blaid Geidwladol, ai syndod clywed Guto Bebb yn ymosod ar Iwerddon heddiw"