Cyn dechrau ar hon 'dwi'n rhyw gymryd yn ganiataol nad oes angen i mi fynd trwy'r rigmarol o gondemnio saethu Boeing 777 (MH17 - 17/7) i lawr., gan ladd 295 o bobl. Mae'n weddol sicr i'r awyren gael ei saethu i lawr gan bobl sydd yn gefnogol i Rwsia, a phobl oedd wedi derbyn arfau distrywgar a soffistigedig iawn o Rwsia a hynny yn absenoldeb hyfforddiant priodol. Sefyllfa sy'n rhwym o achosi trychineb yn hwyr neu'n hwyrach.
Pan mae pethau fel hyn yn digwydd gwneir defnydd gwleidyddol ohonynt yn amlach na pheidio - ac mae'r ffordd y bydd y cyfryngau yn delio efo'r digwyddiadau yn cael ei yrru gan wleidyddiaeth yn hytrach na'r digwyddiad ei hun. Er enghraifft pan saethwyd Airbus o Iran i lawr gan daflegryn a saethwyd oddi ar fwrdd yr USS Vincennes (Flight 655 3/7/88) uwchben Iran, gan achosi marwolaeth 290 o bobl - 66 ohonynt yn blant - ni chafwyd cor o bapurau newydd Prydeinig yn galw am sancsiynau yn erbyn yr UDA. Roedd yr ymdriniaeth cyfryngol yn pwysleisio mai damwain drychinebus oedd y digwyddiad - damwain oedd wedi ei hachosi i raddau helaeth gan densiynau milwrol yn ardal y Gwlff ar y pryd.
Roedd yr ymateb cyfryngol (yn y Gorllewin) yn dra gwahanol bum mlynedd ynghynt pan saethwyd awyren sifil o Corea i lawr gan lu awyr yr Undeb Sofietaidd uwchben canolfannau milwrol yn Sakahlin ( KAL-007 1/9/83). Lladdwyd 269 o bobl yn y digwyddiad hwnnw. Roedd yr awyren wedi crwydro gannoedd o filltiroedd oddi ar ei llwybr, ac wedi bod yn ddigon anffodus i grwydro uwchben rhai o'r camolfannau milwrol mwyaf sensitif yn yr Undeb Sofietaidd. Mae'n debyg na fyddai taflegrau Cruise a Pershing wedi eu lleoli y flwyddyn honno yng Ngorllewin yr Almaen oni bai am y digwyddiad a'r ymateb cyfryngol iddo. Mae yna hefyd le i gredu bod y tapiau a gyflwynwyd i UN gan weinyddiaeth Ronald Reagan wedi eu haddasu i bwrpas gwneud i'r digwyddiad ymddangos yn llai o ddamwain nag oedd mewn gwirionedd.
Gyda llaw mae yna nifer o drychinebau eraill wedi digwydd o ganlyniad i luoedd milwrol yn saethu awerynnau sifil i lawr - gan gynnwys awyren Rwsiaidd yn cael ei saethu i lawr gan luoedd yr Iwcrain (Siberian Airlines 1812, (8/10/01). Lladdwyd 66 o bonl - Isreiliaid o dras Rwsiaidd yn bennaf.
Y brif stori arall ar hyn o bryd ydi ymyraeth Israel yn Llain Gaza. Mae Israel - wrth gwrs - yn anwybyddu cyfraith rhyngwladol yn barhaus oherwydd eu bod yn setlo rhannau o Lannau Gorllewinol yr Iorddonen. Mae Israel hefyd yn gweithredu yn anghyfreithlon ar hyn o bryd yn Llain Gaza, ac mae'r gweithredu anghyfreithlon hwnnw eisoes wedi arwain at farwolaeth mwy o sifiliaid nag a laddwyd ar MH17. Mae cyfraith rhyngwladol yn datgan yn glir bod cosbi sifiliaid am rhywbeth nad ydynt yn gyfrifol amdano yn anghyfreithlon. Disgwylir hefyd i fyddinoedd wahaniaethu'n glir rhwng targedau sifilaidd a milwrol yn ogystal a gweithredu mewn ffordd sy'n gyfrannol. Ond peidiwch a disgwyl gweld y cyfryngau yn galw am roi arweinyddiaeth Israel o flaen eu gwell yn yr Hague fel y digwyddodd i arweinyddiaeth yr hen Iwgoslafia.
Ac felly mae pethau wedi bod erioed wrth gwrs - neu o leiaf ers sefydlu cyfundrefnau democrataidd. Mae digwyddiadau lle lleddir niferoedd uchel o bobl yn ennyn ymateb chwyrn gan y cyhoedd, ac mae'n hawdd gwneud defnydd o'r ymateb hwnnw i gyfiawnhau newid polisi na fyddai'n dderbyniol fel arall. Wedi'r cwbl defnyddwyd cyflafan 9/11 i gyfiawnhau rhyfel Irac - rhywbeth a arweiniodd at lawer iawn mwy o farwolaethau na a hoswyd gan ddigwyddiadau 9/11 - er nad oedd cysylltiad o unrhyw fath rhwng gweinyddiaeth Irac a'r digwyddiad hwnnw.
Yn anffodus mae yna lawer o wleidyddiaeth ynghlwm a'r ffordd y byddwn yn cael ein llywio i ymateb i drychinebau sy'n cael eu hachosi gan weithgaredd milwrol - a dydi'r digwyddiadau sy'n dominyddu'r newyddion ar hyn o bryd ddim yn eithriadau.

No comments:
Post a Comment