Sunday, July 27, 2014

Dwy sedd ymylol Lib Dem

Blogiad arall ydi hwn sy'n edrych ar y seddau ymylol yng Nghymru -fel mae'r rheiny yn cael eu diffinio gan Ladbrokes.

Mae polau Ashcroft yn rhoi syniad i ni o beth sy'n digwydd yn seddi ymylol Lib Dem hefyd.  Roedd y polio diweddaraf ar gyfer y rhai Lib Dem / Llafur yn awgrymu bod pleidlais y Lib Demsyn tua hanneru tra bod un Llafur yn cynyddu tua 11%.  Mae hyn yn awgrymu mai ychydig iawn o obaith sydd gan y Lib Dems yn yr etholaeth - hyd yn oed os ydynt yn perswadio niferoedd sylweddol o Doriaid i fotio'n dactegol trostynt.  


Sedd ymylol Lib Dem / Tori ydi Brycheiniog a Maesyfed.  Mae pol diweddaraf Ashcroft ar seddi felly yn awgrymu y bydd y Toriaid yn syrthio 8% o'u pleidlais ac y bydd y Lib Dems yn syrthio 16%. Byddai hyn yn rhoi pethau yn agos iawn yma.  Does yna ddim llawer o bleidleisiau Llafur i fynd ar eu holau i'r Lib Dems ac mae'n debyg y bydd rhywfaint o'r bleidlais UKIP yn ffeindio ei ffordd yn ol at y Toriaid - er i UKIP berfformio'n dda yma yn etholiadau Ewrop.  Mae'r canlyniad yma'n debygol o fod yn agos - does yna ddim pwynt rhoi 2/5 yn Ladbrokes ar y Lib Dems - ond mae'r 7/4 ar y Toriaid werth meddwl amdano.  

3 comments:

Anonymous said...

Dyna pam fod Clegg wedi ymbilio ar Kirsty Wms i sefyll fel ymgeisydd yno yn lle Roger. Y cwestiwn yw a fydd hi? Ac os bydd hi beth fydd yn ddigwydd gyda'r LDs yn y Bae?

Anonymous said...

Off topic:

http://order-order.com/2014/07/28/spooks-and-tories-jet-off-on-israel-junket/

"... Also heading off on the junket are Edward Garnier, Andrew Percy, Guto Bebb and Bob Blackman."

Dallt rwan...

Cai Larsen said...

Mae datganiadau rhoddion ACau yn ddiddorol yn y cyswllt yma.