Am y gweddill mae pethau'n fwy cymhleth. I bwrpas yr ymarferiad yma dwi'n defnyddio polau Ashcroft. Mae yna le i boeni ychydig am y polau hyn oherwydd eu bod yn symud o gwmpas yn sylweddol - ond ar ystyr arall maent yn fwy cysact na'r rhan fwyaf o bolau yn yr ystyr eu bod yn edrych ar gwahanol fath o etholaethau yn benodol. Mae'r stori sydd gan polau Ashcroft i'w dweud am seddi ymylol ztoriaid / Llafur yn weddol glir. Mae Llafur wedi aros lle maen nhw, mae'r Toriaid wedi syrthio 9%, mae'r Lib Dems wedi colli 3/4 eu pleidlais bron ac mae UKIP i fyny'n sylweddol iawn. Mae hyn yn cyfieithu i ogwydd o 4.5% o'r Toriaid i Lafur yn y math yma o sedd. Yn anffodus dydi polau Ashcroft ddim yn caniatau i ni ddod i gasgliadau ystyrlon am berfformiad tebygol y Blaid.
Fy nheimlad i ydi y bydd rhan o'r bleidlais UKIP yn dod yn ol adref mewn seddi lle nad ydynt yn gystadleuol, ond na fydd y Lib Dems yn cael eu pleidlais yn ol. Mi fydd y Lib Dems ac UKIP yn canolbwyntio eu hynni i gyd ar seddi y gallant eu hennill - neu eu cadw yn achos y Lib Dems. Dydi pleidleisio tactegol i Lafur yn erbyn y Toriaid ddim am fod yn cymaint o ffactor y tro hwn nag a fu chwaith - mae'r Lib Dems sy'n gwneud hynny eisoes wedi newid corlan.
Ta waeth - Aberconwy yn gyntaf. Mae'r 11.3% o fwyafrif yn edrych yn ddigon i'r Toriaid - ond mae yna ddwy broblem - pleidlais uchel UKIP yng Nghonwy yn etholiad Ewrop a'r 5.7k pleidlais Lib Dem. Mewn etholaeth fel Aberconwy (yn wahanol i Ferthyr dyweder) mae'n debyg y bydd UKIP yn cymryd mwy o bleidleisiau Toriaidd na Llafur - ac mae pleidlais UKIP yn siwr o fod yn uwch nag oedd o'r blaen. Hefyd mae yna o bosibl 3,000 i 3,500 o bleidleisiau Lib Dem ar gael. O safbwynt mwy cadarnhaol i'r Toriaid mae yna ddwy blaid yn cystadlu am y bleidlais Lib Dem Chwith - mae Plaid Cymru yn weddol gryf yma. Er nad ydi pleidleisiau Lib Dem yn hawdd i'r Blaid eu cael - mae cefnogaeth y Lib Dems yn Seisnig iawn - bydd Dafydd Meurig yn siwr o gymryd rhai. Dwi hefyd yn disgwyl i ymgyrch y Blaid yn yr etholaeth fod yn fwy trylwyr na'r un ddiwethaf a dylai'r bleidlais gynyddu. Mi fyddwn i'n meddwl felly bod y Toriaid yn debygol o ennill yma - ond fyddwn i ddim yn cyffwrdd a'r 1/2 mae Ladbrokes yn ei gynnig ar hynny.
Daw hyn a ni at y ddwy sedd Sir Benfro. Wnaeth UKIP ddim cystal yn Sir Benfro na Chaerfyrddin nag yng Nghonwy na Bro Morgannwg - roeddynt yn ail a Llafur yn drydydd. Mae'r nifer o bleidleisiau Lib Dem fydd ar gael hefyd yn gymharol isel a does yna ddim llawer o siap wedi bod ar Lafur ar lawr gwlad ers talwm. Mi fyddwn i'n rhyfeddu pe byddai Preseli Penfro yn newid dwylo - yn arbennig yn sgil dyrchafiad Stephen Crabb a'r ffaith bod ei helyntion treuliau yn cilio i'r gorffennol. Fyddwn i ddim yn trafferthu efo'r 3/1 sy'n cael ei gynnig ar Lafur. Bydd pethau'n nes yng Ngorllewin Caerfyrddin / De Penfro - ac mae o fewn cyrraedd gogwydd 4.5% Ashcroft. Ond mi fyddwn i'n disgwyl i'r Toriaid gadw'r sedd - yn arbennig felly a chymryd na fydd enw Nick Ainger ar y papur pleidleisio. Mi fyddai'n haws gen i roi pres ar y Toriaid (4/7) yma nag arnynt yn Aberconwy a Bro Morgannwg.
O safbwynt canrannol mae sedd Alun Cairns ychydig yn nes, ac mae o fewn cyrraedd y gogwydd 4.5% mae Llafur ei angen. Mae'n debyg y bydd yna hyd at 5,000 o bleidleisiau Lib Dem i ymladd trostynt, ac roedd perfformiad UKIP eleni yn dda yn yr ardal - er i'r Toriaid berfformio'n well na Llafur. Os ydi Llafur wirioneddol eisiau ennill y sedd yma gallant wneud hynny - does dim rhaid iddyn nhw drafferthu yng Ngorllewin Caerdydd a De Caerdydd y tro hwn, nag yng Ngorllewin Casnewydd nag ym Mhen y Bont. Ond o dystiolaeth etholiad Ewrop does gan y Blaid Lafur Gymreig fawr o grap ar strategaeth etholiadol, a fyddwn i ddim yn synnu petaent yn llwyddo i gyfeirio eu hadnoddau yn effeithiol. Mi fyddwn i'n rhoi hon yn 50%/50% rhwng Llafur a'r Toriaid. Mae'r 11/8 mae Ladbrokes yn ei gynnig ar Lafur yn bris rhesymol.
No comments:
Post a Comment