Wednesday, July 09, 2014

Gair o gyngor i Carwyn Jones

Dwi ddim yn siwr faint o ddarllenwyr Blogmenai a welodd berfformiad Carwyn Jones wrth gael ei holi yn y Cynulliad ddoe, ond yn fy marn i roedd ymagweddiad ac ymddygiad y Prif Weinidog yn rhyfeddol.

Mi gawsom gip arno yn siarad o dan ei wynt wrth gael ei holi, yn ateb cwestiynau gydag ebychiadau unsill, yn ymateb efo whataboutery cwbl amherthnasol - ac anheg - ac yn tynnu wynebau fel plentyn ysgol.  Doedd yr holl beth ddim yn adlewyrchu'n dda ar Carwyn, ac yn wir doedd o ddim yn adlewyrchu'n dda ar y Cynulliad chwaith.



Rwan, a bod yn deg efo Carwyn roedd o mewn lle anodd ac roedd ganddo pob hawl i fod yn flin.  Roedd wedi sefyll y tu ol i Alun Davies wythnos diwethaf - ar gost gwleidyddol iddo fo ei hun - ond wedi gweld hwnnw yn talu'n ol iddo trwy dorri'r cod gweinidogol yn syth bin mewn ffordd hyd yn oed mwy digywilydd nag oedd wedi ei wneud yn flaenorol.  Roedd yn hollol amlwg i'r cwn ar y palmentydd bod ei benderfyniad i gefnogi Alun Davies yn glamp o gamgymeriad - ac roedd wedi cael ei adael yn hollol agored i feirniadaeth gan y gwrthbleidiau.  

Ond y ffaith amdani yn y diwedd ydi bod ymddygiad Alun Davies yn hollol amhriodol ar y ddau achlysur ac roedd Carwyn Jones wedi gwneud camgymeriad i'w gefnogi y tro cyntaf.  Yr ymateb gorau fyddai syrthio ar ei fai, ymddiheuro ar ran y llywodraeth, derbyn iddo wneud camgymeriad a brathu ei dafod yn wyneb y feirniadaeth.  O wneud hynny byddai wedi cyflwyno delwedd  aeddfed a rhesymol ohono ei hun.  Yr hyn a wnaeth oedd gwneud iddo'i hun ymddangos fel rhywun sydd ddim yn arbennig o dda am ymateb i bwysau a sydd - yn wir - braidd yn boncyrs mewn amgylchiadau felly.  

Mae pawb yn gwneud camgymeriad weithiau - mae'n adlewyrchu'n llawer gwell ar y sawl sy'n gwneud y camgymeriad os yw'n ymateb yn wylaidd a syrthio ar ei fai yn hytrach na phoeri ei ddwmi allan o'r goets a dechrau nadu.  

1 comment:

Anonymous said...

roedd rhywun yn holi neithiwr ar Twitter beth ddywedodd Carwyn Jones o dan ei anadl wrth 'ateb' Leanne Wood (tua 10'10" fewn i'r FMQs)?

http://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/b049f13v/welsh-first-ministers-questions-08072014

Byddai'n ddiddorol gwybod.

A dweud y gwir, dwi wedi siomi yn ymddygiad Carwyn Jones yma. Roeddwn i'n credu ei fod yn wleidydd barchus (yn yr ystyr hen ffasiwn, ei fod yn barchus tuag at pobl) ond mae'r wyneb David Brentaidd yn y clip yma gadael blas cas yn fy ngheg. Dydy cwestiwn Leanne Wood ddim yn afresymol nac annisgwyl. Anghysurus i CJ, ie, ond nid afresymol na'n haeddu'r dirmyg yna.