Monday, July 07, 2014

Ceredigion vs Ynys Mon

Mae'n debyg mai'r ddwy sedd sy'n bosibl i'r Blaid eu hennill yn 2015 ydi Ceredigion ac Ynys Mon.  Gan bod mwyafrif Llafur yn Ynys Mon tros y Blaid yn 2.461 neu 7.1% tra bod mwyafrif y Lib Dems yng Ngheredigion yn 8,324 neu 21.8%, byddai rhywun yn meddwl mai Ynys Mon sydd fwyaf tebygol o syrthio.  Mae hynny'n arbennig o wir pan rydym yn ystyried i Lafur gael cweir gan y Blaid mewn cyfres o etholiadau ar Ynys Mon ers 2010.

Nid felly mae'r marchnadoedd betio yn ei gweld hi.  Mae'r rheiny yn awgrymu bod Ceredigion tua ddwywaith mwy tebygol o syrthio nag ydi Ynys Mon.


9 comments:

Dylan said...

Wyt ti'n cytuno â'r bwcis?

Mi ydw i. Eto i gyd, bydd Democratiaid Rhyddfrydol o bob man yn heidio i Geredigion i warchod y sedd. Mae nhw'n ddigon effeithiol pan mae nhw o dan warchae. Ac mae Williams yn lled-boblogaidd. Posibl iawn i Mike Parker ei chipio (ac mae'n help mawr ei fod yntau'n ddewis arbennig fel ymgeisydd), ond anodd. Mae'n debyg mai dyna un o seddau "saffaf" y DRh, o ran mwyafrif, ym Mhrydain.

Os fydd hi'n laddfa gwirioneddol i'r DRh, wyt ti'n meddwl bydd y niwed yn barhaol? Ar un llaw, mae elfen fawr o lanw a thrai yn ran annatod o wleidyddiaeth. Ar y llaw arall, gall chwalfa difrifol achosi shifft gwleidyddol mwy hir-dymor (dydi hi ddim mor anghyffredin â hynny i bleidiau lleiafrifol fynd o lywodraeth i ebargofiant yn rhyfeddol o gyflym). Ond ddim yn sicr eto beth sy'n digwydd fan hyn.

Cardi said...

Pam fod Mike Parker yn ddewis gwell na Penri James ?. Beth yw'r cyswllt lleol yma ? Nid oes gan Mark Williams ddim rhinwedd arwahan i'r ffaith ei fod yn cyflawni dyletswyddau cynghorydd, i bob pwrpas.

Cai Larsen said...

Wel Dylan, 2.6% gafodd nhw trost y DU yn 1951. Mi ddaethon nhw yn ol o hynny.

Anonymous said...

Arfon yn agos iawn yn ol Ladbrokes
5/6 PC a 5/6 Llafur
(hmmmm gwaith gan Sian Gwenllian)

Liz Saville 1/50
(ond dim son am odds Seimon Glyn!)

Cai Larsen said...

Prisiau San Steffan ydyn nhw - nid rhai Cynulliad. Byddai"r rheiny yn dra gwahanol.

Dylan said...

Do fe ddaethon nhw'n nôl o hynny, fel plaid sy'n lled-ddibynnol ar bleidlais brotest. Ond mae nhw'n prysur golli'r niche yna i'r Iwcips erbyn hyn. Roeddwn i'n dechrau meddwl hwyrach nad oes yna le iddyn nhw.

Ond dw i'n deall nad ydi darogan tranc pleidiau gwleidyddol bob tro'n syniad doeth. Doeddwn i ddim yn sylweddoli eu bod wedi bod cweit mor isel â 2.6% yn y gorffennol, felly digon teg.

Cai Larsen said...

Doeddan nhw ddim yn sefyll ym mhob man bryd hynny cofia.

Gwynfor Owen said...

Yn bersonol byddaf yn rhoi bet ar y Blaid I ennill Ynys Mon a Cheredigion, ac yn ystyried dwy neu dair o seddi eraill

Vaughan Williams said...

Dim son am Lanelli? Fel dywed y Sais - gwyliwch y gofod gyfeillion annwyl!

Yng Ngheredigion, Mike Parker yn ymgeisydd arbennig iawn! Dyn sy'n siarad o'i galon ar stepan drws, fel rhywun a weithiodd yn agos iawn gyda Mike a'r tim mae gobaith gwirioneddol y bydd e'n gallu ennill. Ond bydd y DRh yn chwarae POB MATH o gemau yn ddi-os.

YMLAEN!