Monday, May 19, 2014

Ymgyrchu cadarnhaol Llafur

Difyr oedd clywed am arddull canfasio Alun Puw - ymgeisydd Llafur yn Arfon ar gyfer etholiad San Steffan 2015.  Aeth i dy yng Nghaernarfon yn ddiweddar a dywedwyd wrtho bod y sawl sy'n byw yno yn pleidleisio i Blaid Cymru.  'Iawn' meddai Alun 'fotiwch i Blaid Cymru yn etholiad Ewrop, ond  rhowch fenthyg eich pleidlais i ni y flwyddyn nesaf er mwyn cael gwared o'r Toriaid'.

Rwan dwi'n gwybod bod canfaswyr yn ei thrio hi - ond mae'n adrodd cyfrolau am dlodi neges Llafur yng Nghymru mai'r unig strategaeth sydd gan ei hymgeiswyr i ennill pleidleisiau cefnogwyr Plaid Cymru ydi dweud nad ydynt yn Doriaid.

Byddwn yn clywed y term 'ymgyrchu cadarnhaol' yn cael ei ddefnyddio dragwyddol gan wleidyddion Llafur.  Does yna ddim oll yn gadarnhaol am y neges fach drist a di uchelgais yma - yn arbennig o gofio bod pobl Cymru wedi bod yn pleidleisio i Lafur ym mhob etholiad bron ers 1922 i 'gadw'r Toriaid allan' .  Canlyniad dilyn y cyngor hynod negyddol yma a phleidleisio i Lafur ydi tlodi cymharol parhaus a chynyddol cenhedlaeth ar ol cenhedlaeth, degawd ar ol degawd a blwyddyn ar ol blwyddyn.

3 comments:

Hogyn o Rachub said...

Llygad dy le Cai. Mae neges Llafur yng Nghymru un negyddol ers degawdau - ond yn hynod effeithiol hyd yma. Dydw i'm yn gwybod a ydi'r rhod yn troi o ran hynny, ond mae tlodi gweledigaeth ac egwyddorion y blaid yng Nghymru yn rhyfeddol. Mae Llafur wedi cadw Cymru i lawr yn fwy nag unrhyw blaid arall erioed - ac mae hynny'n gryn ddweud.

Anonymous said...

fel mae'n digwydd dwi'n cytuno hefo Alun Pugh. Be ydi pwynt pledleisio i PC pan mae cyn lleied ohonynt yn San Steffan. Mae pledleisio i Lafur yn cryfhau safiad yn erbyn y Toriaid. Tydi ryw un neu ddau o ASau Plaid Cymru ddim yn gwneud ryw lawer o wahaniaeth.

Anonymous said...

Dydio mond run fath a PC yn gofyn i bobol Llafur fotio dros PC er mwyn cadw ukip allan.