Wednesday, May 28, 2014

Ar wleidydda negyddol

Mae wedi mynd yn rhyw fath o wireb bod mai'r ffordd orau o ymgyrchu yn wleidyddol ydi trwy fod yn 'gadarnhaol'.  'Dwi'n meddwl mai etholiad cyntaf Barak Obama am yr arlywyddiaeth sydd wedi poblogeiddio'r canfyddiad yma, ond dydw i ddim yn siwr.  Rwan y gwir amdani ydi bod ymgyrchu cadarnhaol yn gweithio'n iawn weithiau, ond byddai dyn wedi disgwyl y byddai llwyddiant plaid mwyaf negyddol y DU yn etholiadau Ewrop wedi rhoi lle i bobl ystyried o ddifri os mai dyma'r ffordd orau o ymgyrchu pob tro.

Ar yr ochr yma i'r Mor Celtaidd mae yna lawer - llawer iawn - o ymgyrchwyr cwbl negyddol wedi cael eu hethol i gynghorau ar hyd a lled y wlad. yn ogystal ag i Senedd Ewrop.  Y seren ar hyn o bryd mae'n debyg ydi Luke Ming Flannagan.  Mae gan Ming lawer o gas bethau, dim yn fwy felly na'r ddeddf sy'n ei atal rhag 'smygu canabis.  Cyn iddo gael ei ethol yn TD (Aelod Seneddol) yn 2012 aeth i'r Dail i brotestio gyda rhyw gant a hanner o sbliffs yn ei feddiant - un yn rhodd i pob un o aelodau'r Dail.  Beth bynnag, mae Ming yn casau'r Undeb Ewropeaidd llawer mwy na mae'n casau'r ddeddf cyffuriau.  Y rheswm pennaf am hyn ydi rheoliadau gan yr UE sy'n gwahardd tyrchu mawn mewn llefydd sensitif o ran ecoleg.  Mae Ming o'r farn bod tyrchu mawn yn hawl tragwyddol i'r Gwyddel - tipyn bach fel agwedd llawer o Americanwyr tuag at y gwn.  Mae Ming hefyd yn casau'r heddlu, ac mae wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn 'llygredd' yr heddlu ers blynyddoedd.

Beth bynnag, er gwaethaf agweddau anghonfensiynol Ming, cafodd etholiad dda fel ymgeisydd annibynnol yng Nghanolbarth a Gogledd Orllewin Iwerddon am Senedd Ewrop.  Llwyddodd i gorlanu tros i 124,000 o bleidleisiau cyntaf - mwy na gafodd y Blaid trwy Gymru a mymryn llai na chafodd y Toriaid - er bod poblogaeth ei ranbarth cryn dipyn yn is nag un Cymru.




Ym mhen arall yr ynys roedd hen gyfeillion i Flogmenai yn cael diwrnod gwych.  Mae'r Healy Rays - sy'n galw eu hunain yn ymgeiswyr annibynnol, ond sy 'n ymgeiswyr Healy Ray mewn gwirionedd - wedi llwyddo i ymhel a gwleidyddiaeth yn y ffordd mwyaf sinicaidd bosibl.  Yn ol yn yr hen ddyddiau pan oedd yr hen ddyn - Jackie - yn TD roedd llywodraeth Bertie Ahern yn ddibynol arno i basio deddfwriaeth oherwydd nad oedd ganddynt fwyafrif.  Pob tro y byddai Jackie yn cytuno i'w cefnogi byddai  pris i'w daly - pont yn rhywle yn Ne Kerry, cylchfan, lon wedi ei hail wynebu, gwasanaeth bysus newydd neu beth bynnag.  Fel yma mae gwleidyddiaeth yr Healy Rays yn gweithio.  

Doedd gan y llwyth Healy Ray ddim ymgeisydd ar gyfer Ewrop, ond roedd ganddyn nhw bedwar ymgeisydd ar gyfer cynghorau yn Ne Kerry.  Cafodd y pedwar eu hethol gyda'r ddau brif ymgeisydd - Johnny a Danny Healy Ray   yn cael pleidlais anferthol - dwywaith y cwota roeddynt ei angen ar y cyfri cyntaf.  Roeddynt o'r farn mai 'r hyn oedd yn gyfrifol am faint eu llwyddiant oedd eu hymgyrchu di flino a dewr yn erbyn y gyfraith sy'n atal pobl rhag yfed a gyrru.  



Yn y cyfamser roedd Sinn Fein yn cael coblyn o ddiwrnod hefyd - treblu nifer eu cynghorwyr, cael mwy o bleidleisiau na neb arall ar hyd yr ynys, ethol pedwar Aelod Ewropeaidd a rhoi eu hunain mewn lle cryf i ennill nifer helaeth o seddi yn y Dail nesaf.  

A bod yn deg efo'r Shinners mae yna fwy iddyn nhw na dim ond gwrthwynebu pob dim.  Mae nhw yn gwrthwynebu polisi economaidd y llywodraeth yn ei gyfanrwydd, maen nhw'n gwrthwynebu bron i pob toriad mewn gwariant cyhoeddus, maen nhw'n anghytuno bod hawl gan yr Undeb Ewropeaidd i orfodi polisiau llymder ar lywodraeth Iwerddon, ac maen nhw yn ddi eithriad yn gwrthwynebu rhoi unrhyw rym ychwanegol o unrhyw fath i Brussels.  Serch hynny mae ganddyn nhw naratif gweriniaethol cadarnhaol ynglyn a llywodraeth sy'n trin pawb yn gyfartal a chyda pharch - neges sydd a chryn dipyn o traction yng ngwleidyddiaeth yr Iwerddon gyfoes.


A dydan ni ddim yn gorfod edrych ymhell i weld negyddiaeth sylfaenol gwleidyddiaeth Iwerddon ar raddfa fechan.  Mae'r ddau lun yma wedi eu cymryd o ffenest swyddfa post yn Port Magee.  Mae'n nhw'n rhestru TDs Kerry sydd o blaid cau swyddfeydd post, a'r rhai sy'n erbyn gwneud hynny.  



Ac efallai na ddyliwn ni adael eitem ar wleidydda negyddol heb gyfeirio at Johnny Porridge O'Connor.  Ymgeisydd Fine Gael o Killorglin ydi Johnny - nid y byddech chi 'n credu hynny o edrych ar ei ohebiaeth gwleidyddol yn y dref - does yna ddim son am ei blaid, a does yna ddim defnydd o liwiau ei blaid chwaith - ei unig neges yw ei bod yn gwbl anheg nad oes yr un cynghorydd yn dod o Killorglin, tra bod pob tref arall efo cynghorydd.  Yn amlwg mae'n mynd ar ol pleidleisiau ar sail ei blaid wleidyddol yn y trefi eraill.  Yn wahanol i bawb arall yn y blogiad yma methu wnaeth Porridge - llwyddodd i gorlanu 3% o 'r bleidlais yn unig.  Pam?  Wel - roedd yn erbyn yr Healy Rays - ac mae'r rheiny yn well na neb arall am wleidyddiaeth casgen borc - gan gynnwys Johnny druan.


Felly dyna chi - os nad yw llwyddiant UKIP ddydd Iau yn ddigon i 'ch argyhoeddi o lwyddiant gwleidydda negyddol, edrychwch tros y Mor Celtaidd lle mae gwleidydda felly yn gelf gain.  Mae gwleidydda negyddol y. Gweithio - reit?

1 comment:

Anonymous said...

Y ddau emosiwn cryfaf sydd gan berson yw ofn a thrachwant. Nag y neges bositif yn addewid (yn aml yn wag) o bethau gwell i ddod megis swyddi a gwell chyflogau hy chwarae at y tuedduad drachwantus. Mi fyddai neges negatif sy'n chwarae ar ofnau pobl yr un mor llwyddianus; ofn mewnlifiad a cholli iaith a diwylliant ac ati. Dwi'n meddwl fod yna le i'r ddau fath o ymgyrchu.