Sunday, May 11, 2014

Lle mae Llafur?

Digwydd siarad efo fy rhieni oeddwn i y prynhawn yma pan gododd y pwnc o ohebiaeth gwleidyddol ar gyfer etholiadau Ewrop.  Doedd fy rhieni na ni ddim wedi derbyn unrhyw ohebiaeth gan Lafur - trwy'r post na fel arall.  Ffoniais fy mrawd - sy'n byw yn Arfon fel ninnau, a doedd o ddim wedi cael dim byd chwaith.  Cymrais mai rhyw broblem leol oedd hi, ond wedi holi fy chwaer sy'n byw yn Llanelli ac un o'r meibion sy'n byw yng nghanol Caerdydd, doedden nhw heb dderbyn dim byd chwaith.  Rwan mae'n bosibl bod teulu'r Larseniaid wedi eu blaclistio gan Lafur fel rhyw fath o gosb am ymgyrchu yn eu herbyn am dair cenhedlaeth, ond dydw i ddim yn meddwl rhywsut.

Yr eglurhad mwy tebygol o lawer ydi bod y Blaid Lafur yng Nghymru yn hwyr yn cael eu gohebiaeth etholiadol allan.  Fyddai hyn ddim llawer o ots ugain mlynedd yn ol - ond mae natur etholiadau wedi newid yn sylweddol ers hynny.

Dwi'n meddwl bod sylw perchenog y blog politicalbetting.com, Mike Smithson yn mynd tipyn bach yn rhy bell pan mae'n honni y bydd bron i hanner y pleidleisiau wedi eu bwrw erbyn dydd Llun, ond mae ei bwynt cyffredinol yn un digon dilys.  Mae mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn pleidleisio trwy'r post, mae pobl sydd a phleidlais bost yn llawer mwy tebygol na phobl sydd heb un i bleidleisio, isel fydd y ganran sy'n pleidleisio wythnos i ddydd Iau, ac mae'r sawl sy'n pleidleisio trwy'r post yn tueddu i wneud hynny yn syth bin.  Cefais brawf uniongyrchol o'r gosodiad olaf ddoe wrth ffonio cefnogwyr y Blaid sydd a phleidlais bost ym Mangor i'w hatgoffa i'w defnyddio ddoe.  Roedd y rhan fwyaf o ddigon ohonynt eisoes wedi ei dychweld.  Ddydd Gwener roeddynt wedi ei derbyn.

Rwan, dydw i ddim yn gwybod os ydi methiant Llafur i gael eu papurau allan yn nodweddiadol o'i hymgyrch tros Gymru gyfan - ond os yw mae'n smonach etholiadol o'r radd flaenaf.  Erbyn y bydd y stwff wedi ei ddosbarthu bydd mwyafrif llethol y sawl sy'n ei dderbyn naill ai ddim am bleidleisio neu eisoes wedi gwneud hynny.  Mae'n anodd meddwl am well ffordd o wastraffu arian rhywsut.  O diar.

Oes yna unrhyw un wedi derbyn gohebiaeth Llafur - yn arbennig felly yr anerchiad sy'n dod trwy'r post?

15 comments:

Anonymous said...

dwiw wedi cael un personol wrth Mark Drakeford ac cynghorydd lleol Trelai yn y dau wythnos dwetha

Plaid Gwersyllt said...

Ddim wedi gweld dim yn Wrecsam eto, ond mae Llafur yn gneud lot o ganfasio ffon yma yn Wrecsam.

Dai said...

Ymgyrch "dan y radar" sydd gan y rhan fwyaf o bleidiau heblaw UKIP. Ceisio cael y selogion i bleidleisio heb ddeffro fawr ar neb arall.

Anonymous said...

Dau gan y Blaid (un drwy'r post ac un wedi ei ddosbarthu gan aelodau'r gangen) ac un gan UKIP yma yn Nefyn. Dim byd gan y gweddill.

Cai Larsen said...

Dai - efallai bod yr ymgyrch yn un dan y radar - ond ti angen cryn ffydd yn dy gefnogwyr os ti'n disgwyl iddyn nhw fotio heb i ti ohebu a nhw. Mae hyn yn arbennig o wir am Lafur - rhai gwael ydi eu cefnogwyr am fotio beth bynnag.

Anonymous said...

Yma ym Mon, daeth pamffled Llafur drwy'r post ddydd Gwener dwetha. UKIP oedd cynta, Toris a plaid tua cannol wythnos dwetha, dim byd gan y lib dems (yn un o'r wardiau mae nhw fwyaf gweithgar fel arfer).

Cai Larsen said...

Felly mae yna daflen etholiadol gan Lafur - ond mae'n hwyr yn cael ei phostio i'r rhan fwyaf o Gymru - felly coc yp yn hytrach na strategaeth dan y radar.

Ifan Morgan Jones said...

Wedi cael un daflen gan y Blaid yma yng Ngheredigion oedd i weld yn trafod Etholiad 2015 yn hytrach na'r un Ewropeaidd. Dim byd gan y Dems Rhydd, Llafur, ayyb...

Cai Larsen said...

Dydi mam y Mrs heb gael pamffled Llafur yng Ngorllewin Caerdydd.

Anonymous said...

UKIP yn gynnar, PC a'r Toriaid wythnos diwethaf ond dim gan neb arall yn Ne Clwyd.

Ifan Morgan Jones said...

Wedi cael ail bamffled gan PC yn Llandysul. Dim gan unrhyw un arall eto.

Anonymous said...

Gorllewin Caerdydd - heb dderbyn unrhyw ohebiaith 'swyddogol' gan unryw blaid. Taflen yr un gan Lafur a Phlaid Cymru - y ddwy'n cyfuno etholiad Ewrop a phynciau lleol.

Dafydd Williams said...

Bore heddiw daeth papur Llafur i ddau gyfeiriad yn Nhreganna, Caerdydd. Uniaith Saesneg.

Dafydd Williams

Anonymous said...

Fe ddaeth Alun Pugh ei hun i guro ar y drws ym Mangor ychydig ddyddiau yn ôl, a rhywun o Blaid Cymru ychydig wedyn.

Anonymous said...

Mae Mike Parker ac Elin Jones wedi cychwyn eu hymgyrchoedd yma yng Ngheredigion.