Thursday, June 20, 2013

Plaid Carwyn Jones mor awyddus i dorri gwariant cyhoeddus a'r Toriaid

Dylai fod o gryn ddiddordeb i'r gwrthbleidiau yn y Cynulliad bod Ed Balls wedi dod i'r casgliad bod Llafur - o gael eu hethol - yn bwriadu cadw oddi mewn i gynlluniau gwariant George Osborne.

Bydd unrhyw un sy'n dilyn sesiynau holi'r Prif Weinidog yn y Cynulliad yn gwybod mai un ateb sydd gan Carwyn Jones i pob beirniadaeth o'i weinyddiaeth - sef mai bai'r Toriaid drwg efo'u toriadau ydi pob dim.

Ond erbyn deall gan Ed, petai yn cael ei hun yn 11 Downing Street byddai'n gwario cyn lleied aG Osborne ar wasanaethau cyhoeddus - hy cyn lleied a phosibl.  Felly pan mae Carwyn Jones yn osgoi ateb cwestiynau trwy feio'r Toriaid am eu toriadau mewn gwariant cyhoeddus, cofier bod plaid Carwyn yn Llundain yn cytuno efo'r toriadau hynny.

1 comment:

Ioan said...

Gan bod y Toriaid wedi tori llai nag oedd yn manifesto'r blaid Lafur, ydi'r datblygiad yma'n syndod?