Monday, June 03, 2013

Cabinet newydd cynhyrfus Ynys Mon

Does yna ddim pwt o amheuaeth bod y dyddiau hyn yn rhai hynod gynhyrfus i Gyngor Mon. Wedi blynyddoedd o fod o dan gwmwl, mae pethau'n well rwan bod y cyngor am gael ei arwain gan grwp annibynnol gyda chefnogaeth amrywiol grwpiau eraill.  Ni allai neb gwrthrychol amau am eiliad mai dyma'n union y math o drefniant newydd ac arloesol mae Cyngor Ynys Mon ei angen.

Mae'r rhain yn ddyddiau cynhyrfus yn wir - ac does yna ddim byd yn adlewyrchu hynny cystal a chyfansoddiad y cabinet newydd.  Mae'n gabinet llawn talent - ond yr hyn sydd orau amdano ydi'r ffaith ei fod yn hollol wahanol i'r hyn a gafwyd o'r blaen.  Yn wir nid yw'n ormodiaeth i ddweud bod gan Ynys Mon bellach gabinet sy'n cynrychioli'r ynys ei holl amrywiaeth llachar.  Cabinet gwirioneddol amrywiol a chynrychioladol am y tro cyntaf erioed.  Mae'n bleser gan Flogmenai gyflwyno'r cabinet hwnnw i'r genedl.


Arweinydd y cyngor a deilydd y portffolio addysg - Ieuan Williams (Annibynnol, Lligwy).  Mae Ieuan yn deall yn iawn mai'r gwir reswm am yr enw anffodus mae Ynys Mon wedi ei gael yn ddiweddar ydi sylw anheg gan y cyfryngau.  Mae Ieuan am weld y gorau i ward Lligwy.


Wele'r dirprwy arweinydd newydd Arwel Roberts, (Llafur, Caergybi) ar y chwith fel rydych yn edrych ar y llun.  Mae Arwel yn gyfrifol am gynllunio a'r amgylchedd.  'Dydi Arwel ddim eisiau gweld unrhyw radicaliaeth yn croesi Pont Borth neu mi fydd y drygioni hwnnw'n croesi'r Cob mewn dim - a lle ddiawl fyddan ni i gyd wedyn?  Mae Arwel eisiau'r gorau i ward Caergybi.

Richard Dew (chwith, Annibynnol Llifon) sy'n gyfrifol am wastraff a phriffyrdd .  Mae Richard am weld y gorau i ward Llifon.


Kenneth Hughes (Annibynnol, Talybolion) sy'n gyfrifol am wasanaethau cymdeithasol a thai. Mae Ken am weld y gorau i ward Talybolion.

Aled Morris Jones (Lib Dem, Twrcelyn) sy'n gyfrifol am ddatblygu'r economi a thwristiaeth. Ystyrir datblygu'r economi yn faes arbennig o addas i Lib Dem ar Ynys Mon gan bod y blaid honno yn cael cymaint o lwyddiant yn datblygu'r economi ar lefel Prydeinig ar hyn o bryd a chan eu bod yn gwrthwynebu gorsaf bwer niwclear ar Ynys Mon ac ym mhob man arall. Mae Aled am weld y gorau i ward Twrcelyn.
Hywel Eifion Jones (Annibynnol, Bro Rhosyr) sy'n ysgwyddo'r gyfrifoldeb am edrych ar ol holl bres y cyngor. Mae Eifion yn fwy nag atebol o wneud hyn. Mae hefyd am weld y gorau i ward Bro Rhosyr.
Yn anffodus 'does yna ddim digon o le ar y blog i restru holl gyfrifoldebau Alwyn Rowlands (Llafur, Seiriol). Nid yw'n rhyfedd iddo gael cymaint o gyfrifoldebau - mae ymysg cynghorwyr ieuengef a mwyaf deinamig y glymblaid. Mae am weld y gorau i ward Seiriol.

13 comments:

Anonymous said...

Neis gweld Blogmenai yn ol i normal.

Anonymous said...

Ie, ond mae nhw mewn pwer. Roedd gan Blaid Cymru cyfle i ddyrchafu'r Gymraeg ar Mon ond wnaethon nhw adael i Lafur chwarae gems efo nhw a penderfynny fod peidio rhannu'r grwp Annibynol a bod yn 'bur' ac egwyddorol yn bwysicach nac arddel grym a diogelu'r Gymraeg.

Cafodd Llafur etholiad gwael iawn ac eto efo jyst 3 cyngorydd mae nhe mewn sefyllfa o rym a PC ddim.

Bydd Llafur nawr yn gallu dweud mai nhw ydy llais 'anti Welsh nash' ynys Mon (fel gwnaeth y LD yng Ngheredigion).

Gwnaeth yr annibyns ennill 50% o'r seddi, dydy blogiad hunanfoddhaol fel hon ddim am ennill dim annibyn i ddod draw i BC ac felly, yn dilyn etholiad nesaf yr Ynys mae'n siwr gen i mai'r Annibyns gyda LLafur a'r LD fydd yn rheoli eto.

Amser i BC stopio bod mor 'egwyddorol' a rhoi'r Gymraeg ac arddel grym yn flaenllaw.

Dwi wir yn pryderi y gwneith PC sgrio own-goal arall yn dilyn etholiuad y Cynulliad nesa. Gallaf ddychmygu PC yn gwneud yn dda ond yn llwyddo i beidio bod mewn grym ... eto.

Wir angen i BC benderfynny beth yw ei bwrpas. Sgorio pwyntiau egwyddorol does neb yn poeni amdanno neu gwneud y gorau gyda beth sydd ar gael.


maen_tramgwydd said...

Beth bynnag, dal i chwerthin dw i. Da fod y Blaid ddim yn rhan o'r glymblaid.

Anonymous said...

Anodd credu nad ydy'r blog sinical hon wedi dysgu gwers bellach. Yr unig rai sy'n chwerthin go iawn yw'r glymblaid ym Mon sydd yn mynd i reoli'r Ynys am y 5 mlynedd nesaf, tra bydd cynghorwyr talentog PC yn eistedd yn yr wrthblaid.

Anodd mesur faint o ddrwg mae'r blog yma wedi wneud i'r Blaid. Yn amlwg mae'r blogiwr wedi diffod ei radar gwleidyddol ers blynyddoedd gan nad oes ganddo'r un amgyffred sut mae gwawdio, ffraeo a checru yn diflasu'r etholwr cyffredin.

Plaid Gwersyllt said...

Os faswn i yn Jackie Healy Ray faswn i wedi ypsetio'n lân hefo'r gymhariaeth.

Gweld fod LlG yn dal i stalkio chdi !

Cai Larsen said...

Paid a deud wrth Jackie Arfon -mae ganddo fo uffar o dempar.

O ran sylwadau Anon 9.34 petai'n cymryd munud i feddwl byddai'n gweld mai'r criw mae'n ypsetio cymaint eu bod yn cael eu dychanu sy'n gyfrifol am gadw criw talentog y Blaid yn eistedd fel gwrthblaid nid fi. Efallai ei fod am i mi ddiolch iddynt.

Anonymous said...

Clywch clywch Anon - mae eisiau i bawb fod yn neis efoi gilydd pawb bod yn ffeind neb yn deud gair cas am neb canmol canmol canmol yr hen ffordd Gymreig o neud pethau.

Anonymous said...

Er i bobol Mon dderbyn yn eu miloedd neges Plaid Cymru mai'r grwpiau mympwyol o Annibynnwyr oedd wrth wraidd problemau'r ynys,cafodd yr Annibynnwyr ddwy yn fwy o seddau na'r Blaid.Gyda Llafur yn neidio i'r gwely efo'r Annibynnwyr gan wrthod trafod efo'r Blaid - rhy radical, gormod o gynghorwyr ifanc, gormod o ferched - bod yn wrthblaid oedd y peth anrhydeddus i Blaid Cymru ei wneud. Gorau po leiaf ddywedir am wawd Blogmenai. Ddim help i neb. A ddim yn ddigri.

Anonymous said...

Ti yn neud yr un pwyntiau yn union na'r blog just bod chdi ddim yn eu neud nhw mewn ffordd mor ddigri na effeithiol.

Anonymous said...

Pwy ydi Jackie?

Plaid Gwersyllt said...

Jackie Healy Ray, Cyn TD Annibynnol dros Co Kerry, cymeriad bo iawn yn gwybod sut i chwarae y gêm wleidyddol. Edrych ar y diffiniad o 'pork barrell politics' i ddallt y ffordd roedd o yn gweithredu. Linc bacc subtle gan awdur y blog!

Anonymous said...

Mi wnes i chwerthin beth bynnag.

Anonymous said...

Edrych ymlaen am fy nghasgen o borc. Hang on, ydi 2 Sisters yn prosesu porc?