Tuesday, July 31, 2012

Y Gemau Olympaidd

Doeddwn i heb fwriadu son am y gemau a dweud y gwir, ond gan bod Team GB yn gwneud cystal (21fed - rhwng Colombia a Slofenia) mae'n debyg y dyliwn eu llongyfarch am wneud mor dda.

Felly da iawn chi bois - llongyfarchiadau.

5 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Wele'r diweddaraf gan y Telegraph:

"For the country, the hope is that enthusiasm for the Olympics will translate into some kind of economic renaissance, but to judge by the tumbleweed blowing down Oxford Street yesterday morning, the opposite is more likely. If a few days of Jubilee was enough to shrink the economy in the second quarter, what will a fortnight of watching archery and eventing in the office do in the third?"

http://blogs.telegraph.co.uk/news/benedictbrogan/100173707/boris-is-unstoppable-and-now-murdoch-wants-him-to-lead-the-tory-party/

Anonymous said...

Wele'r Guardian yn ddiweddar hefyd. Mae Gogledd Ffrainc wedi cael budd economaidd del iawn o'r Olympics ar ôl lwyddo i ddenu 50 wlad, gan gynnwys rhai mawr gyfoethog fel UDA, Tsiena, Siapan a Phrydain! yno i ymarfer ayb :

http://www.guardian.co.uk/sport/2012/jul/25/london-olympics-2012-training-camps-france

Tra yng Nghymru, mae'r Llywodraeth yn falch o wedi denu 21 wlad fach o'r gymanwlad : http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-18872244

Ioan said...

A mi wnaeth Portugal ddenu.... athletwyr Prydain!

Anonymous said...

Oh, does ddim angen deud pethau fel hyn. Dyma un ochr o WelshNash's dwi ddim yn hoffi.

Hyd yn oed petai Cymru yn annibynnol fe fyswn i dal i weiddi i rai o Loegr a'r Alban (fel dwi yn i'r Iwerddon nawr... er does ddim lawer o hynny yn digwydd ar hyn o bryd!).

Os da chin hoffi chwareon ddylsa bod pawb yn mwynhau y gemau a cael tu ol i Team GB (heb law am yn y ffwtbol).

Dyna dwi yn ei wneud, nid oherwydd dwi eisiau cadw'r Undeb ond oherwydd dwin hoffi chwareon, mwynhau gweld cymdogion yn gwneud yn dda ac ia dwi wedi llyncu yr 'Olympic Spirit'.

Donim isio fo yn Llundain, ond gan bod o yma - might as well mwynhau o!

Anonymous said...

7 medal aur ar hyn o bryd. Da iawn Prydain! Ardderchog! Ti yw'r hen rech flin go iawn BlogMenai.