Saturday, July 14, 2012

Y Gemau Olympaidd - pwy fydd yn elwa mewn gwirionedd?

Bydd darllenwyr rheolaidd y blog yma'n gwybod mai nid y Gemau Olympaidd ydi fy hoff ddigwyddiad. Mae dau reswm canolog am hyn - i ddechrau y gost i Gymru ac yn ail y defnydd a wneir o'r gemau i greu naratif Prydeinig a Phrydeinllyd.

Bydd cost y gemau o leiaf £10bn ar lefel Prydeinig, a bydd Cymru yn gorfod dod o hyd i o leiaf £500m ar gyfer hyn. Mae £500m yn llawer iawn o bres i wlad sydd mor dlawd a Chymru - a dydan ni yn cael y nesaf peth i ddim yn ol - ar ffurf contractau na digwyddiadau.

Ond yn ol rhifyn cyfredol Money Week gall economi'r DU yn gyffredinol ac un Llundain yn benodol ddisgwyl cryn dipyn o newyddion drwg gyda daw'r gemau i ben.

Arafodd GDP China yn sylweddol yn haf 2008. Digwyddodd rhywbeth tebyg yng Ngwlad Groeg yn 2005 ac yn Awstralia yn 2000.

Y rheswm mae'n debyg ydi hyn - mae'r blynyddoedd sy'n arwain at y gemau yn rhai lle buddsoddir yn sylweddol mewn is strwythur, adeiladau ac ati, ond gyda mae'r gemau trosodd does yna ddim byd llawer wedi newid. Mae'r buddsoddiad yn dod i ben, mae'r holl adeiladau drudfawr sydd wedi eu codi yn wag, mae'r is strwythur trafnidiaeth yn rhywle lle nad oes bellach ei angen.

Mae'r gemau wedi cynnal economi'r DU yn Llundain ar draul pob man arall am gyfnod, ond daw hynny i ben yn y man - a bydd hynny yn ei dro yn tynnu economi Llundain i lawr.

Felly bydd £500m Cymru wedi ei wario yn bennaf ar adeiladu is strwythur yn Llundain nad oes ei angen yn yr hir dymor, ac o ganlyniad nid yw wedi ei wario yng Nghymru lle mae angen gwirioneddol ar fuddsoddiad felly.

3 comments:

Anonymous said...

O ble yn union ddoth y £500m?

Cai Larsen said...

5% pro rata o £10bn. Wedi dod o wahanol lefydd - pres loteri + trethiant cyffredinol.

EmlynUwchCych said...

Bu rhaid aros tan 2006 cyn y talwyd holl ddyledion gemau Olympaidd Montreal ym 1976. Mae'r Stadiwm dal i aros am denant parhaol!