Wednesday, July 13, 2011

Y blaid mwyaf boncyrs yn Ewrop?

Felly mae Lib Dems Cymru wedi penderfynu cymryd camau yn erbyn un o'u haelodau yn dilyn llanast Aled Roberts a John Dixon.

Y person sydd am gael ei gwthio i fyny'r planc ydi Elinor Burnham - eu cyn Aelod Cynulliad  tros y Gogledd, a rhywun sydd ddim oll i'w wneud efo'r holl sefyllfa.  Dim ond ym myd bach rhyfedd Lib Dems Cymru y gallai trefn ddisgyblu gael ei defnyddio yn y ffordd yma.

2 comments:

Anonymous said...

Araith cyntaf Aled Roberts yn y Senedd heddiw... yn Saesneg.

Cai Larsen said...

Hwyrach ei fod wedi cael ei droi oddi wrth y Gymraeg yn dilyn ei broblem honedig efo gwefan yn yr iaith.