Friday, July 15, 2011

Annus horribilis Llais Gwynedd yn mynd o ddrwg i waeth

Mae'r  blog yma wedi nodi yn ddiweddar nad ydi eleni wedi bod yn arbennig o garedig efo Llais Gwynedd - gyda'u perfformiad trychinebus yn etholiadau'r Cynulliad, eu methiant i gael unrhywun i sefyll trostynt mewn dau is etholiad ac ymddiswyddiad trydydd cynghorydd ers etholiadau 2007. 

'Dydi'r wythnos diwethaf heb fod ddim gwell iddynt.  Yn gyntaf ymddangosodd y newyddion yn y wasg am y tro cyntaf i sylfaenydd y grwp gael ei ddyfarnu yn euog o gyflwyno gwybodaeth di sail gan Peter Tyndall, Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.



Ac yn ail, ac o bosibl yn bwysicach, pleidleisiodd rhai o'u cynghorwyr o blaid cau nifer o ysgolion cynradd yn ardal Dolgellau mewn cyfarfod o Gyngor Sir Gwynedd ddoe.  Mae ganddyn nhw pob hawl i wneud hynny wrth gwrs, ac mae'r eglurhad eu bod yn pleidleisio yn unol a dymuniadau lleol yn ddigon rhesymol.


Serch hynny gallai'r penderfyniad gael effaith hir dymor ar ffawd etholiadol y grwp.  Mae pob grwp neu blaid wleidyddol angen nodweddion penodol i'w ddiffinio ac i'w wahaniaethu oddi wrth pleidiau a grwpiau eraill.  Nodweddion unigryw Llais Gwynedd ydi ei wrthwynebiad i gau ysgolion gwledig a'i ddrwg deimlad tuag at Blaid Cymru.  Mae digwyddiadau ddoe yn gwanio'r proffeil unigryw yma.

3 comments:

Anonymous said...

"Mae pob grwp neu blaid wleidyddol angen nodweddion penodol i'w ddiffinio ac i'w wahaniaethu oddi wrth pleidiau a grwpiau eraill."

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur felly?

Cai Larsen said...

Dwi'n meddwl fy mod wedi nodi sawl gwaith nad oes gan y Blaid USP digon clir ar hyn o bryd - felly y canlyniad siomedig ym mis Mai.

Anonymous said...

Mae'n debyg fod tua chwarter o aelodau Llais Gwynedd heb drafferthu i fynychu'r cyfarfod hyd yn oed - heb son am bleidleisio. Gan gynnwys y dyn sydd wedi gwneud cymaint i amddiffyn ysgolion bach a chymunedau gwledig, Simon Glyn!