Tuesday, July 12, 2011

Addysg Gymraeg yn Nhreganna - y diweddaraf

Mae blogmenai wedi edrych ar droeon trwstan y frwydr i ddatblygu addysg Gymraeg yng ngorllewin Caerdydd ar sawl achlysur yn y gorffennol.  Mae'n dda felly deall gan flog Syniadau bod cynllun sylweddol i fynd rhagddo ar Sanetorium Road - cynllun mwy uchelgeisiol na'r un a ddifethwyd gan gynllwynio'r Blaid Lafur. 

Mae achos addysg cyfrwng Cymraeg wedi symud ymlaen yn y brifddinas yn rhyfeddol tros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.  Nid cyd ddigwyddiad ydi'r ffaith bod Plaid Cymru yn rhan o'r glymblaid sy'n rhedeg Cyngor Caerdydd.  Mae cynghorau lle mae gan y Blaid ddylanwad record clodwiw o ymateb i'r galw enfawr am addysg Gymraeg - Cyngor Wrecsam er enghraifft.  Mae hyn yn gyson a llwyddiant Cymru'n Un i sefydlu a chynnal hawliau ieithyddol ar hyd a lled Cymru.

Mae'r wers yn un eithaf syml.  Os ydi amddiffyn a hyrwyddo'r Gymraeg yn bwysig i chi, pleidleisiwch i Blaid Cymru. 

2 comments:

Anonymous said...

... ac os nad ydy 'amddiffyn yr iaith Saesneg' ac ysgolion Saesneg yn bwysig i chi, pleidleisiwch i ...?

Anonymous said...

^^ Beth?