Monday, February 14, 2011

Yr ymgyrch Na yn hollti



Ymddengys bod Len Gibbs wedi gadael True Wales a sefydlu ei ymgyrch ei hun - neu o leiaf ei wefan ei hun. O safbwynt cynllunio a diwyg mae'r wefan yn salach nag un True Wales, sy'n gryn gamp.

Felly mae gan yr ymgyrch Na bellach ddwy adain - un sy'n honni nad yw'n gwrthwynebu datganoli o dan arweiniad Rachel Banner, ac un arall sy'n cyfaddef ei bod yn wrthwynebus i ddatganoli o dan arweiniad medrus, rhesymol a chymedrol Len.

Arferai man fudiadau'r Chwith fod yn dipyn o joc oherwydd eu bod byth a hefyd yn hollti. Mae'r gwrth ddatganolwyr yn dioddef o'r un tueddiad mae gen i ofn. Wna i ddim postio sgets enwog - The People's Front, Monte Python sydd yn dychanu'r tueddiad ('dydi fideos YouTube ddim yn ffitio fy mlog yn dda, ac mae'n gwneud iddo edrych yn fler a di glem fel gwefan Len). Beth bynnag am hynny - gellir ei gweld yma.

Mae'r ffaith bod gelynion gwleidyddol wedi dod at ei gilydd ar yr ochr Ia, tra bod cyfeillion gwleidyddol ar yr ochr Na yn cael eu gwthio oddi wrth ei gilydd yn adrodd cyfrolau am natur yr ymgyrch.

5 comments:

Plaid Gwersyllt said...

Sgin ti gof o ryw foi o'r enw Max Stone yn sgwennu petha hiliol ar wefan facebook True Wales? Mi aeth Rachel Banner i lot o drafferth i ddatgysylltu True Wales o Max adeg yny. Mae Len Gibbs yn ffrindiau hefo Max Stone; mae nhw yn cyfathrebu ar yr un tudalennau Facebook e.e. tudalennau gwrth Gymreig.

Alwyn ap Huw said...

Felly mae gan yr ymgyrch Na bellach ddwy adain
Be ti'n meddwl DWY? Mae'r ffaith bod yr unig adain o'r ymgyrch na a oedd yn ddigon hyderus ei neges i wneud cais am statws swyddogol yn cael ei anwybyddu gan y BBC yn warthus, ond mae'r ffaith ei fod yn cael ei hanwybyddu gan FlogMenai yn brifo i'r asgwrn!

Cai Larsen said...

Na - dwi ddim yn cofio Plaid Gwersyllt - mi fydd yn ddiddorol mynd ar ol y peth.

Ymddiheuriadau fil Alwyn -mae yna bedair adain - Len, Rachel, ti a'r Lwnis.

Anonymous said...

Na Cai - tair adain sy - ti di cyfri'r lwnis ddwywaith...

Cai Larsen said...

Ah - cweit