Sunday, February 06, 2011

Treuliau aelodau seneddol Cymru

Wele'r manylion treuliau aelodau seneddol diweddaraf:

Aelod Plaid Cyfanswm
Hywel Francis Llaf £18,713.14
Guto Bebb Tori £28,419.96
Mark Tami Llaf £9,353.43
Hywel Williams PC £14,992.41
Nick Smith Llaf £9,334.10
Roger Williams Lib Dem £15,698.09
Madeleine Moon Llaf £8,203.16
Wayne David Llaf £17,824.63
Jenny Willot Lib Dem £10,319.10
Jonathan Evans Tori £14,014.95
Alun Michael Llafur £7,544.86
Kevin Brennan Llafur £14,937.04
Jonathan Edwards PC £12,610.68
Simon Hart Tori £35,256.26
Mark Williams Lib Dem £14,042.58
Susan Jones Llafur £15,256.23
David Jones Tori £11,112.83
Ann Clwyd Llafur £9,784.78
David Hanson Llafur £16,291.95
Elfyn Llwyd PC £8,329.64
Martin Caton Llafur £10,525.36
Chris Evans Llafur £4,724.52
Nia Griffith Llafur £7,784.82
Dai Havard Llafur £16,884.26
David Davies Tori £12,229.74
Glyn Davies Tori £19,083.29
Peter Hain Llafur £11,968.23
Jessica Morden Llafur £8,918.61
Paul Flynn Llafur £4,515. 98
Huw Irranca-Davies Llafur £10,022.12
Owen Smith Llafur £2,781.83
Stephen Crabb Tori £17,587.69
Chris Bryant Llafur £12,558.39
Sian James Llafur £10,002.12
Geraint Davies Llafur £8,107.75
Paul Murphy Llafur £16,467.56
Chris Ruane Llafur £9,828.89
Alun Cairns Llafur £12,718.67
Ian Lucas Llafur £4,229.10
Albert Owen Llafur £4,504.03


Mae Blogmenai yn cydymdeimlo efo Jessica Morden oherwydd i'w chais am £5.50 am groesi Pont Hafren gael ei wrthod, efo Stephen Crabb oherwydd i'w gais am £11.25 am fwyd a diod tra yn y senedd hefyd gael ei wrthod ac i Guto Bebb am beidio a chael £25.58 i dalu am ei bapurau newydd. Gan ei fod yn byw mor agos ataf, mae croeso iddo gael fy mhapurau newydd i ar ol i mi orffen efo nhw.

Data i gyd o western Mail, Chwefror 4 - tud 10.

6 comments:

the outsider said...

I think I got the gist of this.

Cai Larsen said...

That's good.

Anonymous said...

Alun Cairns wedi troi'i got? DYNA fuasai newyddion!

Anonymous said...

Ydi dy gymydog di wedi bod yn prynnu lot o win ? Mae gwariant cyfartalog y Toriaid i weld yn uwch na pawb arall. Wedi arfer a'r bywyd bras ac mae yn rhaid gwneud i fynu am y golled incwm sy'n deillio o'i polisiau yn does !!!!

Guto Bebb said...

O ran diddordeb cangymeriad IPSA oedd yn gyfrifol am wrthod y taliad am bapurau newydd. Yr oedd y taliad o fewn y rheolau ac fe gydnabyddwyd hyn gan IPSA ar yr 16eg o Dachwedd.

O ran dy gynnig caredig go brin y byddet yn buddsoddi mewn papurau sy'n berthnasol i waith swyddfa yng Nghonwy ond diolch am yr ystyriaeth garedig.

O ran diddordeb, mae'r holl fanylion ar gael o fewn safle IPSA ac yn anffodus Mr Dienw doedd yna ddim un gwydriad o win heb son am botel!

Os oes rhywun yn amheus o unrhyw agwedd o'r costau y mae croeso i chwi alw draw yn y Swyddfa i weld yr holl waith papur ynghyd a chyfrif banc nad yw'n gyfrif i mi. Y mae pob ceiniog dan sylw yn mynd i gyfrif banc fy swyddfa etholaeth heb gyffwrdd a fy nghyfrif personnol.

Diolch i Google alert y senedd am ddenu fy sylw i'r stori fach yma.

Cai Larsen said...

Damia - mae'n gas gen i'r busnes ailgylchu 'ma.

Mi fyddai'n well o lawer gen i roi'r Guardians, yr Economists, y Golwgs a'r Sunday Times mewn bag plastic a'u gollwng nhw tros y wal gefn.