Saturday, February 19, 2011

Penwythnos prysur i Roger Lewis

Bydd cadeirydd yr ymgyrch Ia, Roger Lewis yn ymweld a'r Gogledd a'r Gorllewin tros y penwythnos gan ymgyrchu yn Saltney ar y ffin, Wrecsam, Rhuthun, Llandudno, Llangefni, Caernarfon, Porthmadog, Machynlleth ac Aberystwyth.

Roedd y ffair stryd yng Nghaernarfon yn un digon llwyddiannus beth bynnag, gyda tua ugain o bobl yn cymryd rhan - oedd yn nifer dda ag ystyried bod yr actifyddion Llafur lleol yn mynychu eu jambori yn Llandudno.

Roger Lewis yn siarad efo'r Cynghorydd Charles Jones, Llanrug. Gallwn gymryd nad oedd yna fawr o waith perswadio iddo yn yr achos yma.

1 comment:

Dyfed said...

Cawsom gyfarfod da yn Llangefni. Synnu fod cynifer o'r dadleuon ar dir cenedlaetholgar - hyd yn oed gan RL a'r gwr busnes oedd yna.

Ar hyd ei d*n unig y rhoddodd y Derwydd gefnogaeth. Fawr o syndod efallai. Er ei fod wedi trio mynd i berorasiwn rhethregol efo'r llinell 'I believe' drosodd a throsodd.

Siaradwr hynod o wan ydi o - yn gyhoeddus ac wyneb yn wyneb. Byddai'r drychineb petai'n ennill - ond mae agn y Toriaid eu pleidlais graidd ym Môn.