Monday, February 21, 2011

Llais Gwynedd, etholiadau'r Cynulliad a'r refferendwm

Mae'r blog yma wedi darogan yn y gorffennol mai Seimon Glyn fydd ymgeisydd Llais Gwynedd ym Meirion Dwyfor yn etholiadau'r Cynulliad eleni, ond 'does yna ddim datganiad o unrhyw fath wedi ei ryddhau hyd yn hyn - er ei bod yn hwyr glas, mi fydd yr etholiad ar Fai 5.

Beth bynnag, y sibrydion diweddaraf ydi bod datganiad ar fin cael ei wneud mai'r Cynghorydd Louise Hughes fydd eu hymgeisydd yn yr etholaeth. Bydd rhai ohonoch yn cofio i Louise sefyll yn annibynnol yn etholiadau San Steffan - a cholli ei hernes.

Ar nodyn ychydig yn wahanol mae'n ddiddorol nodi nad ydi Llais Gwynedd wedi mynegi eu safbwynt ynglyn a'r refferendwm sydd i'w gynnal ar Fawrth y trydydd eto. Tra nad ydwyf yn ymwybodol i'r un o aelodau Llais ddatgan eu bod yn erbyn rhoi pwerau deddfu i'r Cynulliad, mae un wedi datgan ei gefnogaeth yn y modd mwyaf llugoer posibl, tra bod un arall wedi defnyddio peth o naratif True Wales wrth ofyn cwestiwn mewn rhaglen deledu holi ac ateb yn ddiweddar.

'Dwi'n gwybod bod rhai o gynghorwyr Llais Gwynedd yn darllen y blog yma'n rheolaidd - felly dyma gais gan flogmenai i Lais Gwynedd - gwnewch ddatganiad swyddogol yn gofyn i'ch cefnogwyr bleidleisio Ia ar Fawrth 3 plis.

'Dydi hynny ddim yn ormod i'w ofyn siawns?

6 comments:

Plaid Gwersyllt said...

Blydi 'ell newydd gofio fy mod heb glywed siw na miw o Llais Gwynedd ers amser maith. Fe fydd dewis Louise yn gic arall i gredineb LlG. Mae gan Seimon Glyn gefndir o genedlaetholdeb a mae na barch mawr tuag at am y gwaith da mae o wedi neud dros y blynyddoedd. Hefyd doesswn heb ddarllen blog Aeron M ers oes chwaith a da di gallu dweud ei fod heb newid dim; mae o'n dal i sgwennu rhwtsh lol.

Cai Larsen said...

Fel y dywedais - sibrydion yn unig ydi ymgeisyddiaeth Louise ar hyn o bryd.

Anonymous said...

Deall fod Louise wedi ei dadorchuddio fel ymgeisydd Llais mewn cynhadledd mawreddog yng Nghricieth bore heddiw (Llun)

Cai Larsen said...

Does yna ddim byd wedi bod yn y cyfryngau eto ynglyn a'r mater hyd y gwn i.

Anonymous said...

Oes yna unrhyw un wedi sbotio un o gynghorwyr Llais Gwynedd allan yn ymgyrchu eto o blaid neu yn erbyn? Mae cynghorwyr Gwynedd PC, Llafur a'r Lib Dems I weld yn gweithio dros bleidlais Ie ond dwi heb weld neb o gwbwl o LlG.

Cai Larsen said...

'Dwi wedi gweld Llafur, Pleidwyr a Lib Dems ond heb weld neb arall eto.