Wednesday, September 01, 2010

Problemau William Hague


Mae datganiad William Hague yn gwadu honiadau sydd wedi eu gwneud amdano ar y We tros y dyddiau diwethaf yn eithriadol i'r graddau eu bod yn dinoethi gwybodaeth am ei fywyd priodasol mewn ffordd nad ydi gwleidyddion yn ei wneud yn aml. Mae'r hyn sydd ganddo i'w ddweud yn ddigon i ennyn cydymdeimlad o'r galon galetaf, ond mae ganddo broblemau o hyd.

Mi fyddwch mae'n debyg gen i yn ymwybodol bod yr honiadau yn ymwneud a'r ffaith ei fod wedi rhannu ystafell o bryd i'w gilydd gyda chymhorthydd etholaethol o'r enw Christopher Myers a bod hwnnw wedi cael swydd yn y Swyddfa Dramor gan Hague fel ymgynghorydd polisi. Yr awgrym wrth gwrs ydi bod perthynas hoyw rhwng y ddau ddyn.

'Rwan mae yna ddwy broblem wleidyddol yn codi o'r sefyllfa, y naill yn ymwneud a hoywder honedig y berthynas honedig, a'r llall yn ddim oll i'w wneud efo hynny. Mi gychwynwn ni efo'r ail. Pe byddai gan Mr Hague berthynas rywiol efo dynas, a'i fod wedyn yn mynd ati, yn dilyn cael ei benodi i safle bwerus, yn defnyddio'r safle hwnnw i roi swydd iddi nad yw'n ymddangos yn gymwys i'w chyflawni, byddai hynny yn amhriodol. Efallai na fyddai'n gorfod ymddiswyddo - ond byddai ganddo gwestiynau i'w hateb. Byddai'r sefyllfa yr un peth yn union petai'r cariad honedig yn ddyn.

Yn ail mae yna broblem yn codi o hoywder honedig y berthynas. Petai Mr Hague yn hoyw, ond yn teimlo na allai gydnabod hynny yn gyhoeddus mae'r posibilrwydd o flacmel yn gryfach nag y byddai pe na byddai'r berthynas honedig yn un hoyw. Byddai hynny'n broblem mewn unrhyw swydd cabinet, ond mae'n arbennig o berthnasol ynglyn a dyn sy'n derbyn adroddiadau cyfrinachol gan MI6 yn ddyddiol. 'Dydi'r ffaith ei fod wedi gorfod gwadu honiadau ei fod yn hoyw yn y gorffennol ddim o llawer o gymorth yn hyn o beth. Roedd hynny yn ystod ei ymgeisyddiaeth i fod yn arweinydd y Blaid Geidwadol yn ol yn 1997.

Mi fedrwn fentro y bydd y wasg (neu elfennau o'r wasg o leiaf) yn mynd trwy fywyd personol Mr Hague efo crib man tros y dyddiau nesaf, ac mi fentra i na fyddant yn dod o hyd i fawr ddim. Y broblem ydi y byddant hefyd yn mynd ar ol bywyd personol Mr Meyers, ac mae'n fwy na phoibl na fydd yna ddim byd yn y fan honno chwaith. Ond os bydd rhywbeth sy'n berthnasol i'r stori yn codi mi fydd yn broblem sylweddol i'r Ysgrifennydd Tramor, hyd yn oed os yw'n hollol ddi euog o'r honiadau sy'n cael eu gwneud yn ei erbyn. Fel rydym wedi nodi yma, gall pethau fod yn sobor o anodd ar wleidydd pan mae straeon yn cerdded.

Un gair bach cyn gorffen. Mae'n dda nodi bod y blogiwr Toriaidd Iain Dale yn dwrdio Guido Fawkes am ddod a'r stori i'r agored. 'Dwi'n cytuno efo llawer o'r hyn mae Dale yn ei ddweud - ond byddai ei gwyno yn cario mwy o bwysau efo fi petai ef ei hun yn ymatal rhag cynnwys lincs i flog Guido pan mae hwnnw'n dod o hyd i sgandalau am wleidyddion Llafur.

4 comments:

Anonymous said...

Fyswn i ddim mor sicr na fydd y papurau yn dod o hyd i ddim byd ynghylch Hague.

Mae straeon amdano wedi bod yn mynd o amgylch San Steffan ers meityn.

Hwn oedd y tro cyntaf iddyn nhw fedru ddangos unrhyw fath o "dystiolaeth" o'r honiadau (gwadu ai peidio). Mae cyhoeddi'r straeon hyn felly ond yn mynd i roi fwy o hygrededd i'r straeon eraill ac yn anffodus iddo ef ac yn anffodus i'r 'public interest' am roi rhydd hynt iddyn nhw argraffu honiadau eraill - mae am ddod ag eraill allan o'r tywyllwch fydd am gael tal am eu straeon.

Dim dyma fydd diwedd y stori.

Cai Larsen said...

Dwi'n meddwl fy mod yn nodi nad ydi'r papurau yn debygol o ddod o hyd i unrhyw beth am Hague ei hun.

Anonymous said...
This comment has been removed by a blog administrator.
Blin o Fon said...

It must be one of the cruelest things to do to a man and his family (or a woman), to suggest such things publicly, if they are simply not true. Shame ?