Thursday, September 02, 2010

Netanyahu, Abbas, Faulkner, a Fitt, - gwers fach ynglyn a sicrhau heddwch

Os ydym i gredu'r cyfryngau mae peth optimistiaeth ynglyn a'r trafodaethau rhwng llywodraeth Israel a gweinyddiaeth Glan Orllewinol yr Iorddonen. Mae gen i ofn bod yr optimistiaeth hwnnw yn ol pob tebyg wedi ei seilio ar dywod ac yn ei dro mae hynny oherwydd bod problem sylfaenol ynghlwn a strwythur y trafodaethau. Mae'r gwendid yma wedi tanseilio ymgeisiadau yn y gorffennol i ddod a heddwch i'r Dwyrain Canol - ac yn nes at adref na hynny.

Mae'n hawdd anghofio heddiw bod sawl ymgais wedi ei wneud i ddod a'r rhyfel yng Ngogledd Iwerddon i ben cyn y cafwyd llwyddiant cymharol gyda chytundeb Dydd Gwener y Groglith. Un o'r methiannau cynnar oedd Cytundeb Sunningdale yn 1973. Ceir dyfyniad eithaf enwog gan gyn ddirprwy arweinydd yr SDLP (y blaid genedlaetholgar gymhedrol yn y Gogledd), Seamus Mallon mai Sunningdale i bobl ag anhawsterau dysgu oedd cytundeb dydd Gwener y Groglith. Y pwynt roedd yn ei wneud oedd bod y ddau gytundeb yn debyg, ond bod amser maith rhwng gwrthod un a derbyn y llall. Roedd wedi cymryd chwarter canrif i'w elynion ar ddwy ochr y ffens wleidyddol i'w 'gweld hi'. Roedd y sylw yn or symleiddiad o ran sylwedd y ddau gytundeb - roedd gwahaniaethau eithaf sylweddol. Roedd gwahaniaeth arall pwysicach fodd bynnag - un nad oedd yn ymwneud a manylion y cytundebau.

Ym mis Mawrth 1973, bedair blynedd wedi i'r wladwriaeth Brydeinig golli eu gafael ar rannau helaeth o'r dalaith cyhoeddwyd Papur Gwyn ynglyn a llywodraethiant Gogledd Iwerddon yn San Steffan. Y syniad oedd i sefydlu senedd o 78 aelod i'w hethol trwy dref gyfrannol, i rannu grym rhwng y ddwy gymuned oedd i gael rheolaeth ar amrediad o feysydd oedd yn ymwneud a bywyd pob dydd yng Ngogledd Iwerddon - ond nid diogelwch wrth gwrs. Roedd yna hefyd fwriad i sefydlu Cyngor Iwerddon er mwyn trafod materion oedd yn ymwneud a'r ddwy wladwriaeth Wyddelig. Y farn gyffredinol ar y pryd oedd bod y camau hyn yn delio efo'r canfyddiad o anhegwch sefydliadol gan Babyddion, ac mai hynny oedd wrth wraidd y gwrthdaro.

Roedd holl bleidiau 'parchus' y Gogledd yn bleidiol i'r syniad, yn ol y polau piniwn roedd 75% o'r boblogaeth o blaid y cytundeb a 8% arall yn fodlon rhoi cyfle iddo weithio.

Cafwyd cynhadledd fawreddog yn Berkshire ym mis Tachwedd i ffurfioli'r cytundeb. Yn union wedi cyrraedd roedd hwyliau ardderchog ar bawb - canodd arweinydd yr SDLP, Gerry Fitt y Sash i ddiddanu'r cynadleddwyr, ac aeth arweinwyr yr Unoliaethwyr, Brian Faulkner ati i ganu Galway Bay. Wedi pedwar diwrnod o drafod digon cyfeillgar cafwyd cytundeb. Y ddau ganwr oedd i arwain y weinyddiaeth newydd. Cafwyd naw swydd cabinet arall i'w rhannu rhwng y pleidiau a sefydlwyd Cyngor Iwerddon. Roedd pawb wrth eu bodd - Esgob Conway, arweinydd yr Eglwys Babyddol yn Iwerddon, Teddy Kennedy, pob un papur newydd o bwys yn yr Iwerddon a Phrydain, holl bleidiau San Steffan, yr holl gyfryngau torfol eraill, ac ati, ac ati. Ac roedd optimistiaeth cyffredinol yn y gwynt.

Oddi mewn i chwe mis roedd yr holl sioe yn deilchion ar y llawr ynghanol trais sylweddol, anhrefn sifig, streic 'gyffredinol', blacowts deuddeg awr, dim nwy na phetrol mewn ardaloedd helaeth, prinder bwyd, ffyrdd ar hyd a lled y dalaith wedi eu cau a ffrwydradau yn Nulyn a Monaghan a arweiniodd at farwolaeth dau ddeg wyth o ddinasyddion y Weriniaeth.

Y cwestiwn sy'n berthnasol i'r ddadl yma ydi beth oedd y gwahaniaeth rhwng Sunningdale a Chytundeb Dydd Gwener y Groglith? Yr ateb ydi bod ymdrech wedi ei gwneud yn y naill achos i gynnwys yr elfennau mwy eithafol (yn aml iawn y sawl oedd yn gyfrifol am yr ymladd) ac na wnaed ymdrech felly yn yr achos arall.

Roedd y broses a arweiniodd ddistryw y sefydliadau datganoledig yn eithaf syml. Ymateb yr IRA i'r broses oedd cynyddu lefel y trais o'u hochr nhw yn sylweddol, roedd hyn yn arwain at gynnydd mewn trais gan eithafwyr teyrngarol oedd yn arwain at gynyddu'r gefnogaeth i'r IRA, oedd yn arwain at ganfyddiad ymysg Unoliaethwyr 'cymhedrol' bod y cytundeb wedi methu, oedd yn arwain at wrthwynebiad i'r cytundeb, oedd yn arwain i wrthdaro ar y strydoedd, oedd yn arwain at gynnydd yn y gefnogaeth i'r IRA, oedd hyn yn arwain at gynnydd mewn trais _ _a rownd a rownd a ni eto.

Rwan 'dydi hi ddim yn anhepgor bod cylch dieflig fel hyn yn cael ei greu pob tro y ceir ymgais i greu heddwch trwy lunio cytundeb rhwng elfennau sy'n cadw'r heddwch tra'n anwybyddu'r sawl nad ydynt yn cadw'r heddwch. Ond fedra i ddim yn fy myw gredu bod cytundeb di Hamas am fod yn fwy llwyddiannus na Suningdale - yn arbennig o ystyried bod gan Hamas fwy o gefnogaeth nag oedd gan elfennau milwriaethus yng Ngogledd Iwerddon 1973 - 1974.

Mi fydd llawer ohonoch yn gyfarwydd a'r gofgolofn isod, mae wedi ei lleoli ar ben Talbot Street, gyferbyn a Connolly Station yn Nulyn. Fe'i codwyd i gofio am y sawl a laddwyd gan fomiau Teyrngarol yn y ddinas honno a Monaghan ar ddiwrnod mwyaf marwol y rhyfel hir yn y Gogledd. Proses heddwch ddiffygiol a greodd y cyd destun gwleidyddol a milwrol a arweiniodd at y ffrwydriadau hynny.

No comments: