Wednesday, September 15, 2010

Goblygiadau newid y drefn cofrestru etholwyr

Yn ol Politicalbetting.com mae cynlluniau ar y gweill i orfodi pawb i gofrestru yn unigol (yn hytrach na gadael i'r penteulu gofrestry pawb) ar gyfer pleidleisio mewn etholiadau - er na fydd disgwyl i'r sawl sydd eisoes ar y gofrestr i wneud hynny tan ar ol etholiad San Steffan 2010. Mae'r stori yn un ddiddorol, ac mae arwyddocad pell gyrhaeddol i'r penderfyniad.

Yr hyn nad yw'n hysbys i lawer ydi bod ymarferiad tebyg wedi digwydd yn y DU yn y gorffennol cymharol agos. Tra roedd y Blaid Lafur yn ei gwneud yn chwerthinllyd o hawdd i gael pleidleisiau post (a thrwy hynny ei gwneud yn hawdd i dwyllo) yn y rhan fwyaf o'r DU, roedd twyll etholiadol yn stwmp ar eu stumogau bach yng Ngogledd Iwerddon, felly aethant ati i drefnu ymarferiad tebyg i'r un mae'r Toriaid yn ei threfnu ar hyn o bryd. Ychydig iawn, iawn o dystiolaeth o dwyll oedd yna yn y dalaith (llai na sydd yng ngweddill y DU gyda llaw), ond dyna'r unig eglurhad y gallai'r llywodraeth feddwl amdano am dwf y pleidiau mwy 'eithafol' - Sinn Fein a'r DUP. Felly gorfodwyd pawb i gofrestru yn unigol o 2002 ymlaen. Bu cwymp sylweddol yn y niferoedd o bobl ar y gofrestr etholiadol - ond y gwahaniaeth rhwng ardaloedd a chydrannau o'r boblogaeth oedd yr elfen fwyaf arwyddocaol. Collwyd mwy o bobl dlawd, a chollwyd mwy o Babyddion. Ond y gwahaniaeth rhwng ardaloedd gwledig a threfol oedd y gwahaniaeth mwyaf trawiadol. Collwyd llawer mwy o etholwyr trefol na rhai gwledig.

Er enghraifft yr etholaeth fwyaf trefol (a dosbarth gweithiol) yng Ngogledd Iwerddon ydi West Belfast. Collwyd 18.56% oddi ar y gofrestr bleidleisio rhwng 2001 a 2003, gyda 25.14% o golled yn y Lower Falls - yr ardal dlotaf a mwyaf trefol. Roedd y colledion yn North Belfast a South Belfast yn ddigon tebyg. Ar y llaw arall 7.26% yn unig o'r etholwyr a gollwyd ym Mid Ulster wledig gyda 3.29% yn unig yn cael eu colli yn ward hynod anghysbell Upperlands wrth Magharafelt. Roedd y colledion yn y ddwy etholaeth wledig fawr gyfagos, Fermanagh South Tyrone a West Tyrone yn debyg iawn i rhai Mid Ulster. Mae'r gwahaniaethau hyn yn rhai arwyddocaol iawn o safbwynt ystadegol.

Canlyniad hyn ydi bod bwlch sylweddol yng Ngogledd Iwerddon rhwng y nifer sydd a'r hawl i bleidleisio a'r nifer sydd ar y gofrestr - mae'r gwahaniaeth yn fwy nag ydyw yn unrhyw le arall yn y DU. Mae cyfran uchel o'r boblogaeth wedi colli'r hawl i bleidleisio i bob pwrpas.

Rwan, ag ystyried hyn dylai cip ar fap etholiadol Prydain ddangos beth sy'n debygol o ddigwydd - mae cefnogwyr Llafur yn tueddu i fyw mewn trefi a rhai'r Toriaid mewn llefydd mwy gwledig. Yn wir gallai'r gwahaniaeth rhwng ardaloedd o ran gostyngiad mewn etholwyr fod yn fwy yn y DU nag oedd yng Ngogledd Iwerddon. Mae gwleidyddiaeth o fwy o ddiddordeb i bobl dosbarth gweithiol yng Ngogledd Iwerddon nag yw i'r dosbarth canol. Mae'r sefyllfa yn gwbl groes yn y DU. O ganlyniad, mae'n rhesymol cymryd y bydd y dosbarth gweithiol trefol yn llai tebygol i drafferthu i gofrestru na'u tebyg yng Ngogledd Iwerddon. Pe byddwn i yn strategydd etholiadol Llafur byddwn yn poeni llawer mwy am yr ymarferiad yma nag am y cynlluniau i newid ffiniau etholaethau.

Gyda llaw, yn anisgwyl braidd (i'r llywodraeth o leiaf) y prif wahaniaeth yng Ngogledd Iwerddon rhwng etholiadau Cynulliad 2003 a rhai San Steffan 2001 oedd i'r tir canol gwleidyddol chwalu yn yr ail etholiad. 'Doedd hyn ddim yn anisgwyl i'r DUP a Sinn Fein - roedd y rheiny yn gwybod o'r gorau y byddai eu peiriannau etholiadol sylweddol yn gallu delio efo'r sefyllfa newydd. Os oedd yr holl ymareferiad wedi gwneud unrhyw beth o safbwynt etholiadol, roedd wedi cryfhau'r eithafion a thanseilio'r canol.

No comments: