Saturday, September 11, 2010

Argraffiadau brysiog o'r gynhadledd

Ar ddydd Sadwrn yn unig y byddaf yn mynychu Cynhadledd Flynyddol y Blaid gan amlaf, a 'doedd eleni ddim yn eithriad.

Roedd Vaughan yn awgrymu draw ar ei flog bod awyrgylch digon cadarnhaol yna, a gallaf ddweud i mi gael yr un argraff yn union. Roedd cryn dipyn o bobl yn mynychu'r digwyddiad ac roedd yr hwyliau'n hynod o dda, yn arbennig ag ystyried bod llawer o Bleidwyr yn ystyried etholiad cyffredinol mis Mai yn un siomedig.

Yn wahanol i 'gynadleddau'r' pleidiau unoliaethol sydd yn fawr mwy na raliau estynedig mewn gwirionedd, mae cynhadledd y Blaid yn un go iawn lle mae polisi yn cael ei greu, a gwelwyd hynny yn ystod y bore gyda dadleuon digon tanbaid a phleidleisio agos iawn ar wahanol agweddau ar bolisi ynni'r Blaid.

'Roedd yna nifer o areithiau clodwiw iawn hefyd - gan y cyn lywydd, a'r un newydd, Elfyn Llwyd, Sera Evans-Fear, Dafydd Trystan a Jocelyn Davies, Y ddwy araith mwyaf tanbaid a lliwgar oedd rhai Mabon ap Gwynfor a Helen Mary - roedd un Mabon yn arbennig o gaboledig.



Yr araith a wnaeth y mwyaf o argraff arnaf fi fodd bynnag oedd un Ron Davies. 'Dydi Ron ddim yn areithiwr mor naturiol a hyderus a rhai o'r lleill, ond roedd ei ymysodiad ar y Blaid Lafur Gymreig yn un o'r ymysodiadau mwyaf clinigol a thrylwyr ar blaid wleidyddol 'dwi wedi ei chlywed ers tro byd. Mae'r cwbl o'r hyn sydd ei angen ar gyfer naratif etholiadol effeithiol gwrth Lafur yn yr araith a draddodwyd ganddo heddiw - ac os ydi'r Blaid byth i wthio Llafur o'r neilltu, rydym ddifrawr angen naratif felly.

3 comments:

Anonymous said...

Beth ddywedodd Ron felly?! Paid a'n gadael ni heb o leiaf dalfyriad!

Cai Larsen said...

Amlinellodd hyd a lled methiant llwyr Llafur i fynd i'r afael a thlodi a thanberfformiad economaidd yng Nghymru.

Priodolodd y methiant hwnnw i'r llyfdra sydd wrth galon y feddylfryd Llafur yng Nghymru - llyfdra sy'n eu harwain i ddod i gasgliadau cwbl afresymegol, megis y gred y gellir codi cymoedd De Cymru allan o dlodi trwy eu hualu i'r un polisiau economaidd sydd wedi eu cynllunio ar gyfer un o ddinasoedd cyfoethocaf y Byd - dinas Llundain.

Anonymous said...

mae araith Ron, mewn dwy ran, ar You Tube diolch i Simon Dyda.

http://www.youtube.com/watch?v=ZabZYvewRE0