Monday, June 28, 2010

Crachach

Mae rhai geiriau'n rhyfedd i'r graddau eu bod yn magu bywyd eu hunain, ac yn dechrau mynegi ystyron gwahanol mewn gwahanol rannau o'r wlad. Cymerer y gair crachach er enghraifft. Yn y Gogledd byddwn yn ei ddefnyddio i gyfeirio at bobl fawr neu bobl snobyddlyd. 'Dydi'r gair ddim yn cyfleu dim am iaith y sawl mae'n gyfeirio ato.



Yn Ne Ddwyrain Cymru mae iddo ystyr arall, ac mae'n cael ei ddefnyddio yn bennaf gan bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg. Yn wir, mae'n ddigon posibl mai crachach ydi'r unig air Cymraeg mae Don Touig yn ei ddeall.

Blog o'r De Ddwyrain ydi Syniadau, ac mae'n cynnig diffiniad da iawn o'r gair fel mae'n cael ei ddefnyddio gan y di Gymraeg yn y gornel honno o Gymru - My definition is that they are those who speak Welsh, make sure their own children are educated in Welsh ... but want to make it difficult for others to join their exclusive circle.

Cweit. Mi fyddai'n drist o beth petai clwb bach egsgliwsif Carwyn Jones yn cael ei wenwyno gan ddosbarth gweithiol Treganna.

Diweddariad - mae MH (awdur Syniadau) wedi fy ngheryddu am awgrymu bod y De Ddwyrain yn ei gyfanrwydd yn defnyddio'r term crachach i ddilorni siaradwyr Cymraeg. Ymddengys mai term sy'n cael ei ddefnyddio gan elit Llafuraidd gwrth Gymreig ydyw. Fel rhywun sydd a chysylltiadau llai uniongyrchol a'r De Ddwyrain na MH 'dwi'n cyffwrdd fy nghap i gydnabod ei ddealltwriaeth ehangach o arferion a geirfa y gwrth Gymreig yn y De Ddwyrain na fy un i.

7 comments:

MH said...

O dde ddwyrain Cymru? Bydd rhaid i ti ailfeddwl!

Mae diddordeb 'da fi ym mhob rhan o'r wlad, gan gynnwys y de ddwyrain. Ond ble dwi'n byw? Dim ond clwb egsgliwsif bach, bach sy'n gwybod ... ac maen nhw'n bobl fawr i gyd ;-)

Cai Larsen said...

A - mi wna i ddiweddaru'r blogiad 'ta.

Gyda llaw, 'doeddwn i ddim yn awgrymu nad oes gan Syniadau ddiddordeb yn y Gymru y tu hwnt i'r De Ddwyrain wrth gwrs. Nodi oeddwn i nad oes goblygiadau ieithyddol i'r gair yn y Gogledd.

Simon Brooks said...

Swn i'n mynd ymhellach na thi, Cai. Dydw i erioed wedi clywed y gair "crachach" yn cael ei ddefnyddio gan siaradwr Cymraeg mewn sgwrs naturiol Gymraeg. (OK. Gorddweud o bosib, ond beth bynnag dydi o ddim yn air cyffredin.) Mae "crach" yn fwy cyffredin - ond pwy di'r crach? Byddigions fel Carlo o Windsor?

Gair Saesneg ydi "crachach" erbyn hyn - gair benthyg o'r Gymraeg, wrth gwrs, ond gair Saesneg er hynny.

Term diystyr wrth gwrs. Mae rhywun sy'n ennill £35K yn gweithio i S4C ac yn byw mewn ty 3 stafell yn un o'r crachach wrth gwrs. Ond mae gwr sy'n fab i Athro Cymraeg Caerdydd, addysg yn Rhydychen/Harvard, prif gwas sifil yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru, AS ac AC, yn briod i AS arall, yn Brif Weinidog ac yn byw yn un o bentrefi mwyaf ecsliwsif Cymru gyfan yn un o'r "werin".

Cai Larsen said...

Diddorol Simon.

Mi fydd y gair yn cael ei ddefnyddio ochrau 'fama gan Gymry Cymraeg - ond fel y dywedais does yna ddim cysylltiadau ieithyddol i'r gair.

Simon Brooks said...

Mae'r gair "crachach" yn darfod amdani fel gair ar lafar gwlad ymhlith Cymry Cymraeg ifainc. Does dim tystiolaeth wyddonol ar gyfer y sylw yma, cofia, ond dwi'n meddwl fod hyn yn gyffredinol wir. Pam? Ai'r cynodiadau Llafur Newydd?

Weithiau dwi'n amau fod geiriau eraill yn y Gymraeg yn mynd yn llai cyffredin am iddyn nhw fagu ystyr ychydig yn wahanol yn Saesneg. Faint o bobl 17 oed sy'n son am "hiraeth" y dyddiau hyn?

Cai Larsen said...

Mi wnes i gynnal arbrawf bach Simon - sydd eto ddim yn wyddonol. Mi ofynais i gyd weithwyr (ychydig yn ieuengach na fi) os oeddynt yn defnyddio'r gair, roedd yr ateb yn gadarnhaol (yn yr ystyr nad yw'n cyfeirio at iaith rhywun).

Wedyn gofynais i griw o blant ysgol gynradd beth oedd ystyr y gair - nid oedd neb yn gwybod, er bod y Gymraeg yn famiaith i'r cwbl bron.

Wedyn mi ofynais i'r ferch ieuengaf acw (mae hi'n 17), ac roedd rhaid iddi hi feddwl cryn dipyn cyn ateb. Wedi dweud hynny mae hi (yn wahanol i mi) yn siarad mewn tafodiaeth C'narfon.

Felly efallai dy fod yn gywir - term sy'n cael ei anwybyddu gan yr ifanc ydi o. Mi fyddai, serch hynny yn gryn sioc i mi petai llawer o bobl yn y Gogledd Orllewin yn deall ei fod yn derm sy'n cael ei ddefnyddio i ddilorni Cymry Cymraeg yn y De Ddwyrain.

Huw said...

Cofnod diddorol yma am y 'crachach'.

http://telescoper.wordpress.com/2010/06/06/among-the-crachach/