Mae'n rhyfedd o beth fel mae rhyw stori fawr newyddiadurol yn cydio tros dro gyda phob cyfrwng newyddion yn chwilio am rhyw ongl newydd ar y stori honno nes bod dyn yn mynd i feddwl bod newid sylfaenol yn y ffordd yr ydym yn edrych ar bethau ar droed. Mae'n rhyfedd hefyd mor aml mai tipyn o dan eithin ydi'r holl helynt yn y pen draw.
Chwi gofiwch mai stori wleidyddol fawr y llynedd oedd treuliau aelodau seneddol. Arweiniodd hyn at ganfyddiad bod gwleidyddion yn greaduriaid hunanol, trahaus, barus sydd a dirmyg llwyr tuag at y sawl sydd yn eu hethol. Roedd y canfyddiad hwnnw'n OTT chwadl y Sais, ond mi losgodd tan eithin yn chwyrn ac yn swnllyd am gyfnod gyda phob math o agweddau newydd ar draha canfyddiedig y dosbarth gwleidyddol yn cael eu darganfod a'u gwthio ger ein bron i gyfeiliant clecian yr eithin newyddiadurol ac udo a rhincian dannedd torfol ar ein rhan ni.
Yr wythnos diwethaf roedd yna esiampl o draha rhyfeddol ar ran cydadran o'r dosbarth gwleidyddol yng Nghymru nad ydi'r cyfryngau newyddion hyd yn oed wedi trafferthu i gyfeirio ato prin. Son ydw i wrth gwrs am benderfyniad gan bwyllgor rheoli y Toriaid yng Nghymru i ganiatau i'w haelodau rhestr gadw eu safle ar y rhestr heb fynd i'r anghyfleustra o wynebu etholiad mewnol. Mewn geiriau eraill hen gojars pwyllgor rheoli y Toriaid yng Nghymru yn rhoi seddi cwbl saff i'r criw o hen gojars sydd ar ben eu rhestrau Cymreig - no applications required from the public thank you - no job like a job for life eh Nick?
Mae'r blog yma wedi mynegi gwrthwynebiad i'r drefn rhestr yn y gorffennol oherwydd ei fod yn anghynwysol ac yn wrth ddemocrataidd. Mae'n drefn sydd yn gwobreuo methiant ar lefel etholaethol, ac mae hefyd yn cryfhau gallu peiriannau etholiadol i ddewis aelodau sy'n eu siwtio nhw yn hytrach na phobl sy'n siwtio'r etholwyr (STV etholaethau aml aelod ydi'r dull 'dwi'n ei ffafrio gyda llaw). Mae'r drefn hefyd yn creu seddi hollol saff i bobl sydd ddim yn gorfod wynebu'r etholwyr yn eu henwau eu hunain.
Mae'r Toriaid yng Nghymru wedi llwyddo i droi cyfundrefn sydd yn sylfaenol lwgr yn y lle cyntaf i astudiaeth achos gwych o'r feddylfryd drahaus a gwrth ddemocrataidd oedd yn destun cymaint o feirniadaeth a dirmyg y llynedd.
A beth oedd ymateb y cyfryngau yng Nghymru? - wel mynd yn ol i edrych ar bethau trwy'r prism oedd yn gyfarwydd iawn iddyn nhw cyn y miri treuliau - ystyried ar y newid meicroscopig o fach y byddai'r trefniant yn debygol o'i gael ar faint o ferched fyddai'n cael eu hethol ar ran y Toriaid, a rhyw led edmygu'r clyfrwch o sut y cafodd y sefydliad gwleidyddol Ceidwadol wared o'r broblem Chris Smart.
Son am dan eithin wir Dduw.
No comments:
Post a Comment