Wednesday, June 09, 2010

Cwis bach arall - eto fyth





























Peidiwch a phoeni - 'dwi ddim yn mynd i ofyn i chi pwy ydyn nhw. Y cwestiwn ydi hwn - Pa un sydd efo'r sedd saffaf? Gan fy mod i'n weithgar a chithau'n ddiog, 'dwi wedi gwneud peth o'r gwaith ymchwil ar eich rhan.

Llun o Steward Stevenson ydi'r cyntaf, Aelod Senedd yr Alban tros Banff & Buchan ydi'r cyntaf. Cafodd bron i 59% o'r bleidlais yn 2007 a 38.6% o fwyafrif. Mae Stewart yn perthyn i'r SNP.

Hywel Francis, Aelod Seneddol Llafur Aberafan ydi'r ail wrth gwrs. Cafodd Hywel 51.9% o'r bleidlais eleni - o gymharu a'r 16.3% a gafodd y Lib Dem oedd yn ail.

Mi fydd pawb nad yw'n ynfytyn llwyr yn gwybod mai TD Limerick East, Willie O'Dea ydi'r trydydd. 'Dydi'n cyfundrefn etholiadol ni ddim fel un Iwerddon, ond mae'n debyg y byddai Willie wedi cael ei ethol gyda llai na thraean o'r pleidleisiau cyntaf a gafodd (er iddo fynd i helynt am gwffio mewn tafarn ychydig cyn yr etholiad).

Gwleidydd Cymreig llai adnabyddus o lawer o'r enw'r Arglwydd Elis Thomas ydi'r nesaf. Mi gafodd o bron i 60% o'r bleidlais yn etholiadau'r Cynulliad yn 2007, o gymharu a llai nag 20% y Tori a ddaeth yn ail.

'Dydi hynny'n ddim wrth ymyl llwyddiant rhyfeddol Stephen Timms (dyna chi, y boi a gafodd ei drywanu) yn East Ham. Mi gafodd 35,471 o bleidleisiau, neu 70.4% o'r bleidlais.

Chafodd llywydd Sinn Fein ddim cymaint o bleidleisiau yng Ngorllewin Belfast, ond mae 22,840 o bleidleisiau a 71.1% o'r bleidlais yn eithaf perfformiad, yn arbennig cyn ei fod yn ymladd yr etholiad yng nghanol dwy storm newyddiadurol - y naill yn ymwneud a'i fywyd teuluol a'r llall yn ymwneud a'i gefndir milwrol.

Mi lwyddodd y nesaf (pwy bynnag ydyw) i gael 33,973 o bleidleisiau neu 58.8% yn Witney, oedd yn berfformiad da iawn i rhywun a gafodd cyn lleied o sylw gan y cyfryngau tros yr etholiad.

Mi fydd pawb yn ymwybodol mai William Graham ydi'r olaf, un o aelodau'r Toriaid yn Nwyrain De Cymru (Oscar ydi'r llall). Er nad oedd enw Wil ar y papur pleidleisio ar ei ben ei hun (roedd yna enw tri Thori arall efo fo) mi lwyddodd y pedwar i sicrhau 20% o'r bleidlais o gymharu a 35.8% Llafur.

Mi gewch yr ateb 'fory.

1 comment:

Alwyn ap Huw said...

Rwy'n ansicr os ydyw'r un fath a mwyafrif mwyaf ond yr un anoddaf i'w disodli dan y drefn etholiadol byddai Mr Graham.

Er mwyn cael Wil o'i wely byddai angen i'r Ceidwadwyr ennill dwy sedd ychwanegol yn y rhanbarth - rhywbeth sy'n hynod annhebygol. Hwyrach bod gobaith ennill yng Ngorllewin Casnewydd ond mae'r ail obaith gorau, Dwyrain Casnewydd, yn ormod o ofyn.

Pe bai Dafydd Êl neu Stephen Timms yn cael andros o etholiad gwael ac yn colli hanner eu pleidlais i'r gwrthwynebydd agosaf mi fyddai'n Amen ar eu gyrfaoedd gwleidyddol. Ond roedd "gwerth" y bleidlais i'r pedwerydd safle rhestr (Plaid Cymru/ Oscar) yn y rhanbarth tua 7%.
Gan hynny pe bai Mr Graham yn colli dwy ran o dair o'i bleidlais mi fyddai'n llithro lawr o frig y rhestr i'r bedwerydd safle ac yn dal gafael ar ei sedd. Pe bai'r Ceidwadwyr yn colli Mynwy o drwch blewyn gallasai Wil gadw gafael ar y sedd efo hyd yn oed llai na 7% o'r bleidlais.