Wednesday, June 16, 2010

Diolch WalesHome.org

Diolch i WalesHome.org am wneud pethau'n anodd i mi tros y bwrdd swper.

Mae'n ymddangos bod y wefan wedi cael y syniad gwirioneddol wych o gyhoeddi un o'r darnau mwyaf chwydlyd o grafllyd i ymddangos ar y blogosffer Cymreig (neu yn wir unrhyw flogosffer arall) erioed. Gwrthrych yr eilyn addoliad di chwaeth oedd Lynne Neagle, Aelod Cynulliad Llafur Torfaen. Mae hyd yn oed y teitl - The Real Valleys Mam yn feistrolgar yn ei sentimentaleiddiwch gwirion cwbl amhriodol.

Chwi gofiwch i'r arch sosialwraig a'i gwr (partner?) Huw Lewis hawlio mater bach o £22,298 mewn un flwyddyn i gynnal eu cartref bach llwm ym Mhenarth, £1,700 i brynu lleni, £560 i brynu matras ac ati. Duw yn unig a wyr beth maen nhw'n ei wneud ar y matras i fod angen un mor ddrud _ _.

Ta waeth, 'dwi'n crwydro. Un o fy ngwendidau (mae gen i ddigon o rai eraill) ydi fy mod yn edrych ar wahanol flogiau cyn cychwyn am y gwaith yn y bore gan nad oes gen i fynediad i wefannau felly yn fy man gwaith. Yn anffodus hagiograffi erchyll WelshHome.org oedd y peth olaf i mi ei ddarllen cyn gorfod cychwyn allan, ac yn naturiol ddigon mi chwydais tros y cyfrifiadur a'r gwahanol bapurau, llyfrau cyfeiriadau, cardiau banc, lipstig, offer torri ewinedd ac ati o eiddo Nacw sydd pob amser yn gorwedd o gwmpas gwmpas y cyfrifiadur am rhyw reswm neu'i gilydd. Ches i fawr o amser i lanhau pethau, nid fy mod yn un da iawn am lanhau pan mae gen i ddigonedd o amser i wneud hynny.

Mi ddes i adref gael fy wynebu gan gyfrifiadur rhyfeddol o lan yr olwg sydd yn drewi o ddisinffectant. Mae'r geiriach sydd o'i gwmpas wedi diflanu i rhywle. 'Dydw i ddim yn un am gychwyn sgwrs ar yr amser gorau, ond roedd rhaid i fi drio gwneud rhywbeth i dorri ar y distawrydd llethol amser swper. Arwain at ddistawrydd llethol arall oedd pob ateb unsill i fy ymdrechion wrth gwrs, oedd yn ei dro yn arwain at ymgais mwy trwsgl gen innau i gychwyn sgwrs, oedd yn arwain at ateb unsill _ _ _. Gorffenwyd y pryd i gyfeiliant y cloc.

Diolch bois, diolch. Mi gofia i.

No comments: