Wednesday, June 16, 2010

Ulster's Doomed

'Dydi blogmenai ddim yn nodi marwolaethau, genidigaethau na dim byd o'r fath fel rheol, ond mi wnawn eithriad yn achos Ian Livingstone, awdur y blog ecsentrig braidd Ulster's Doomed. Bu farw'n anisgwyl tros y dyddiau diwethaf.

Roedd y blog yn un rhyfedd ar sawl cyfri - un o gefndir Protestanaidd oedd Ian, ond roedd yn casau'r endid a elwir yn Gogledd Iwerddon gyda chasineb perffaith. Ei brif ddileit oedd tyrchu tystiolaeth i fyny bod dyddiau'r endid hwnnw wedi eu rhifo. Doedd yna ddim llawer o hiwmor yn agos at y blog. Roedd ymdeimlad o chwerder yn torri trwy'r naratif ,oedd fel rheol yn detatched, o bryd i'w gilydd. Roedd hyn yn tarro'n groes i naratifau mwy cymodlon pleidiau Gogledd Iwerddon yn y dyddiau ol Gytundeb Dydd Gwener y Groglith. Roedd daliadau gwleidyddol Ian, er yn sylfaenol Weriniaethol yn anarferol i'r graddau eu bod bron yn unigryw. Roedd hefyd yn anfodlon dweud pwy oedd mewn gwirionedd - sy'n duedd llai na dewr i flogiwr gwleidyddol.

Ond wedi dweud hynny, roedd hefyd yn cynnal safonau rhyfeddol o uchel wrth flogio. Roedd pob blogiad, yn ddi eithriad, yn ddeallus ac wedi ei ystyried yn ofalus. Roedd y ddawn i fewnoli a gwneud synnwyr o ystadegau cymhleth, moel, a chyflwyno ei ganfyddiadau mewn ffurf dealladwy a darllenadwy i bawb yn ddawn hynod anarferol. Ond y peth pwysicaf efallai oedd y ffaith bod pob blogiad wedi ei ymchwilio'n fanwl iawn, ac roedd y blog yn rhydd o'r ffeithiau amheus a'r gau ffeithiau ac ystadegau dethol sy'n britho llawer o ddefnydd ar y We sy'n ymwneud a Gogledd Iwerddon. Mi fydd y blogosffer yn lle llai deallus ac yn lle a llai o hygrededd ystadegol yn perthyn iddo yn ei absenoldeb.

Mae son y bydd y blog yn cael ei 'dynnu i lawr' maes o law. Felly os ydych am bori yno cyn i hynny ddigwydd, gallwch ganfod Ulster's Doomed yma.

No comments: