Wel dyna ni'n gwybod manylion y Gyllideb, ac er nad ydi rhai o'r ofnau gwaethaf wedi eu gwireddu mae'n gyllideb pell gyrhaeddol ac yn un ideolegol. Un o'i phrif ddeilliannau fydd lleihau'r sector cyhoeddus o tua 15%. 'Dwi ddim yn credu i neb geisio gwneud hyn o'r blaen. Y gobaith ydi wrth gwrs y bydd y sector preifat yn tyfu i raddau digonol i wneud iawn - a mwy - am y cwtogi yn y sector cyhoeddus.
A dyma'r broblem i Gymru, mae'r sector preifat yn wan yma - yn hynod o wan, ac mae'r sector cyhoeddus o ganlyniad yn bwysicach nag yw yn y rhan fwyaf o Brydain. Felly bydd effaith y toriadau mewn gwariant cyhoeddus yn waeth yma a bydd gallu'r sector preifat i wneud iawn am y crebachu yn gyfyng. Mae yna elfen o risg i'r Gyllideb ar lefel Prydeinig - os nad yw'r sector preifat yn ymateb i'r torri fel mae Osborne yn disgwyl, mi fydd yna lanast. Mae'r risg yn uwch o lawer ar lefel Cymreig.
A bod yn deg a'r llywodraeth mae'r cyhoeddiad bod Llundain a De-ddwyrain Lloegr yn cael eu heithrio o'r newidiadau yn y system yswiriant cenedlaethol sydd wedi eu cynllunio i helpu busnesau bach newydd yn gam pwysig. Roedd hyn yn gydnabyddiaeth bod anghenion economaidd gwahanol rannau'r DU yn wahanol iawn, a'i bod yn briodol ymateb i hynny trwy lunio polisiau economaidd sy'n wahanol mewn gwahanol 'ranbarthau' Prydeinig.
Ond pam stopio yn y fan yna? Mae'r blog hwn wedi tynnu sylw sawl gwaith at bwysigrwydd cyfradd treth corfforaethol isel i'r trawsnewidiad yn economi'r Weriniaeth Wyddelig yn yr wythdegau hwyr a'r nawdegau. Mae'n fwriad gan y llywodraeth i ostwng trethi corfforaethol tros Brydain. Byddai gosod trethi corfforaethol 'rhanbarthol' lle byddai'r trethi mae'n rhaid i gwmniau eu talu i'r wladwriaeth, mewn ardaloedd tlawd megis Cymru a Gogledd Ddwyrain Lloegr, yn is na mewn ardaloedd mwy cyfoethog yn gwneud llawer mwy i sicrhau datblygiad economaidd cytbwys ar draws y DU na'r holl bolisiau 'rhanbarthol' sydd wedi eu cyflwyno ar hyd y degawdau.
No comments:
Post a Comment