Tuesday, January 19, 2010

Cyfle i ennill £10

Mi glywais i rhywun yn disgrifio Llais Gwynedd fel chwaer blaid y Toris yng Ngwynedd y diwrnod o'r blaen. 'Dwi'n meddwl bod y disgrifiad yn un amhriodol a dweud y gwir yn ogystal a bod yn anheg iawn efo'r Toriaid.

Beth bynnag, fedrwn i ddim peidio meddwl am y sylw ddoe pan welais Geidwadwyr Aberconwy a Gwylym Euros Roberts yn uno i ymosod ar gynlluniau'r Blaid i gynnig pensiynau teg i'r henoed.

Mi fydd Guto yn dod allan i fatio i Lais Gwynedd o bryd i'w gilydd - fel y gellir gweld yma. Mae un o gynghorwyr Llais Gwynedd yn disgrifio 'troedigaeth' Pleidiwr tuag at y Toriaid mewn termau Pawlaidd bron - gwelodd y goleuni, gwelodd y goleuni! Haleliwia!

Mae Gwilym yn rhuo yn ddyddiol bron am Blaid Cymru wrth gwrs, a dydi o ddim yn swil i ddatgan ei farn na ddylai Llafur fod mewn llywodraeth a dydi o ddim yn or hoff o'r Lib Dems chwaith. Mi fydd o hefyd yn cymryd ymysodiadau ar y Toriaid braidd yn galed.

Am rhyw reswm fedra i ddim cofio unrhyw feirniadaeth gan Lais Gwynedd o'r Toriaid, nag unrhyw feirniadaeth wedi ei chyfeirio at Lais Gwynedd gan y Toriaid chwaith. Efallai mai fy nghof i sy'n methu.

Felly £10 i'r cyntaf i ddod o hyd i feirniadaeth Toriaidd o Lais Gwynedd, neu'r ffordd arall - darparwch linc priodol os gwelwch yn dda.

10 comments:

Anonymous said...

Y gwir ydi ei bod yn anodd iawn gweld unrhyw blaid arall sy'n cydweld a phlaid cymru yng ngwynedd -

gellir dadlau bod canghenau plaid cymru ei hun mewn llefydd fel wrecsam a'r hen glwyd yn ochri, o ran polisi cefn gwlad, efo llais gwynedd.

Mae dy £10 yn saff.

Anonymous said...

Helo David Cameron sydd yma.
Dwi yn meddwl bod safbwynt Llais Gwynedd am gadw toiledau ar agor ar draul bron popeth arall yn hurt.

Ond - dwi'n cytuno gyda'r rhan fwyaf o'r pethau eraill y mae Gwilym Euros yn ei ddweud!

Ydi hyn werth £10?
Anfona fo ataf c/o 10 Downing St
(ond paid a'i yrru cyn diwedd mis Mai)

Cai Larsen said...

Mae'n dda gen i'ch cael chi yma Mr Cameron. Mae'n fraint ac anrhydedd.

Mae'n rhaid i'r feirniadaeth gyn ddyddio'r blogiad mae gen i ofn - neu mi fyddai pethau'n rhy hawdd braidd.

Sori.

Dyfrig said...

"Y gwir ydi ei bod yn anodd iawn gweld unrhyw blaid arall sy'n cydweld a phlaid cymru yng ngwynedd"

Anghywir. Mae Plaid Cymru yn cydweithio yn gyson gyda phob grŵp arall ar y Cyngor, ac eithrio un. Llais Gwynedd yw'r rhai sydd ar du allan i wleidyddiaeth Gwynedd, nid Plaid Cymru.

Cai Larsen said...

Yn wir Dyfrig - mae ein cyfaill di enw yn methu'r pwynt beth bynnag - methu ffeindio unrhyw esiampl o LlG a' Toriaid yn anghytuno 'dwi - 'dydi o ddim i'w wneud efo Plaid Cymru a phleidiau eraill mewn gwirionedd.

Anonymous said...

Beth am Llais Gwynedd ac UKIP? Dwi'n trio cofio be oedd 'lein' Llais Gwynedd adeg etholiad Ewrop.

Cigfran said...

Mae ychydig mwy iddi na hyn.

Yma yn Llyn,mae'r "voice of Gwynedd" wedi llwyddo i feithrin nifer sylweddol o bleidleisiau saeson gwrth gymreig drwy,yn bennaf fod yn ymosodol ar y "seperatists"

Mae rhain yn tueddu fod yn bleidleiswyr adain dde ac yn hwb i Llais gael dros yr hanner mewn ffeit ddwy ffordd yn erbyn y Blaid.

Dyna pam,mi dybiaf fod cyn lleiad yn cael ei ddweud am hunaniaeth gymreig a'r iaith gan eu aelodau etholedig.

Mae'r glymblaid yma o Adferwyr,cenhedlaetholwyr chwerw a saeson gwrth gymreig yn eitha rhyfeddol ac yn rhannol egluro eu polisiau negyddol a personnol,ac am fod yn sail chwalfa enfawr yn eu mysg yn y dyfodol

Cai Larsen said...

hmm - neb ond Cameron isiau £10.

Dienw - 'Beth am Llais Gwynedd ac UKIP? Dwi'n trio cofio be oedd 'lein' Llais Gwynedd adeg etholiad Ewrop'.

A bod yn gwbl deg efo Llais Gwynedd 'dwi'n meddwl fy mod yn gywir i ddweud fod ei hymgeisydd ym Meirion Dwyfor wedi argymell ar y blog yma na ddylai pobl bleidleisio i dair plaid - y BNP, UKIP a Phlaid Cymru os 'dwi'n cofio'n iawn.

Mi fydd hefyd wrth gwrs yn galw ar y llywodraeth Lafur yn San Steffan i ymddiswyddo pob hyn a hyn, ac mae wedi mynegi'r gobaith y bydd y Lib Dems yn colli eu holl seddau yng Nghymru.

Anonymous said...

Pa bryd ydach chi am dyfu i fyny a'i gweld fel mae hi yn y byd go iawn? Da chi mor 'blinkered' ac yn coelio popeth mae propaganda y blaid yn ei ddweud. Anhygoel fod oedolion mor 'gullible' yn 2010.

Cai Larsen said...

Di enw:

Pa bryd ydach chi am dyfu i fyny a'i gweld fel mae hi yn y byd go iawn? Da chi mor 'blinkered' ac yn coelio popeth mae propaganda y blaid yn ei ddweud. Anhygoel fod oedolion mor 'gullible' yn 2010.

Eh? Ydi hynna'n rhyw fath o ymgais i hawlio'r £10?