Saturday, January 16, 2010

Y wers i'w chymryd o drychineb Bosch


LG Phillips, Welsh Country Foods, Aliminiwm Mon, Indesit, a rwan Bosch. Mae'r rhestr o ffatrioedd sy'n cau yng Nghymru yn ymddangos yn ddi ddiwedd. Efallai ei bod yn swnio'n galed i ddweud hyn - ond nid oes yna unrhyw beth annisgwyl am yr holl gau - mae busnesau yn mynd yn llai ac yn ail strwythuro yn ystod pob dirwasgiad, ac mae Cymru'n dioddef yn waeth na'r unman arall yn y DU yn bron i pob dirwasgiad. 'Dydi hi erioed wedi gwneud llawer iawn o synnwyr i adeiladu ffatri mewn gwlad sydd ag is strwythur trafnidiaeth israddol, a sy'n gymharol bell oddi wrth canolfannau poblogaeth. 'Dydi lefelau cymharol uchel cyflogau yng Nghymru o gymharu a gwledydd Dwyrain Ewrop ddim wedi gwneud llawer i wneud Cymru yn atyniadol i leoli ffatrioedd chwaith.

'Dydi o ddim yn ormodiaeth i ddweud bod llawer o Gymru yn gwbl ddiffrwyth yn nhermau cynhyrchu - gyda'r rhan fwyaf o'r wlad yn cynhyrchu dim neu nesaf peth i ddim. Ac eto mae yna ddigonedd o nwyddau sydd wedi eu cynhyrchu yn croesi Cymru yn ddyddiol. Nwyddau ydi'r rhain sy'n cael eu cludo o'r Iwerddon, ar hyd yr A55 a'r M4 trwy ddiffeithwch cynhyrchu Cymru tuag at eu marchnadoedd yn Lloegr ac ar dir mawr Ewrop.

Mae nifer o'r problemau sydd gan Iwerddon - is strwythur gwael, pellter o'i marchnadoedd a chostau llafur uchel - yn waeth nag ydynt yng Nghymru, ac eto dydyn nhw ddim yn y cyflwr treuenus yr ydym ni. Ystyrier y proffeil isol o allu'r wlad i gynhyrchu cyfoeth:

GDP - $267.6 biliwn
GDP y pen - $60,510 (DU - $43,734)
Allforion - $126.5 biliwn
Mewnforion - $84.3 biliwn (Mae'r DU yn mewnforio gwerth tua $170 biliwn o nwyddau yn fwy na mae'n ei allforio yn flynyddol).

Mae'r ffigyrau uchod ar gyfer 2008 (y flwyddyn olaf lle mae ffigyrau cyflawn ar gael), ac mi fydd GDP yn sicr o fod wedi syrthio erbyn hyn - mae Iwerddon mewn dirwasgiad, a hynny am yr un rheswm a ni - gor ddibyniaeth ar sector bancio llwgr. Mae dirwasgiad Iwerddon wedi bod yn un twfn iawn sydd wedi arwain at doriadau anferth mewn gwariant cyhoeddus, a chwmniau eiconig megis Waterford Chrystal, yn cael eu hunain mewn trafferthion dybryd. Ond yn anhygoel yng nghanol dirwasgiad roedd gwerth allforion ond 1% yn is yn 2009 nag oedd yn 2008, gyda'r sector cynnyrch meddygol yn unig yn allforio gwerth €53 biliwn o nwyddau. Disgwylir 3% o gynnydd eleni.

Mae'r rhesymau tros berfformiad economaidd Iwerddon yn ddigon adnabyddus - mae cwmniau o'r Unol Daleithiau ac o lawer o wledydd eraill wedi buddsoddi'n drwm yno - mae'r ffaith bod pawb yn siarad Saesneg yno yn atyniadol, y ffaith ei fod oddi mewn i gyfundrefn dollau'r Undeb Ewropiaidd ac yn defnyddio'r Ewro, gyda treth corfforiaethol o 12.5% (o gymharu a 28% yn y DU), perthynas dda rhwng cyflogwyr, gweithwyr a'r llywodraeth, cyfundrefn addysg effeithiol, trefn gyfreithiol effeithiol a thryloyw a pholisiau addas gan y llywodraeth i hybu busnes.

Rwan mae rhywfaint o hyn yn wir amdanom ni, ond 'dydi llawer ohono ddim. Y gwahaniaeth sylfaenol ydi bod llywodraeth Iwerddon efo grym tros eu cyfundrefnau economaidd a threthiannol eu hunain, ac o ganlyniad gallant amrywio polisiau trethiannol ac economaidd mewn modd sy'n caniatau iddynt wneud iawn am eu hanfanteision daearyddol a strwythurol. 'Does gennym ni ddim o'r pwerau yna - a hyd y bydd gennym bwerau felly mi fyddwn ni'n parhau i edrych yn ddiymadferth ar drychinebau megis un yr wythnos diwethaf pob tro mae'r tirlun economaidd yn duo - ac ar y rhesi o dryciau yn cario nwyddau ar draws y wlad.

Y wers i'w chymryd o Bosch a'r holl Bosches eraill ydi nad ydi'r trefniant cyfansoddiadol sydd gennym ar hyn o bryd yn caniatau i ni berfformio yn agos at ein potensial economaidd.

No comments: