Friday, January 29, 2010

Clec i Geidwadwyr Aberconwy

Mae Alwyn yn adrodd bod Dennis Tew - un o gynghorwyr y Toriaid, yn Aberconwy wedi gadael y grwp a'r blaid. Gadawodd aelod arall o dan gwmwl yn y gorffennol agos - Hazel Meredith.

Mae yna si ar led bod Mr Tew wedi gwneud cais i ymuno a Phlaid Cymru. 'Dwi ddim yn gwybod i sicrwydd os ydi hynny'n wir - daw pethau'n gliriach tros y diwrnod neu ddau nesaf.

Diweddariad 30/1/10 : Roedd y Blaid yn Arfon yn cynnal drop yn ninas Bangor heddiw (dwsinau o weithwyr allan gyda llaw). Roedd sawl un yn dweud bod Mr Tew wedi gwneud cais i ymuno a'r Blaid - er nad oes datganiad swyddogol wedi ei wneud gan Mr Tew na'r Blaid hyd y gwn i.

1 comment:

Anonymous said...

Mae o yn mynd i ymuno hefo Plaid Cymru wythnos nesaf, hwyrach mae ddim y fo fydd yr unig Dori amlwg beth am David Hills a gollodd i Jason Weyman, mae o yn agos at y Blaid hefyd.