Wednesday, January 20, 2010

Plaid Cymru a'r codiad mewn pensiynau

Mi fedra i ddeall pam bod y Blaid wedi dweud bod 30% o godiad mewn pensiynau yn rhywbeth y byddem yn ceisio ei wireddu petaem mewn sefyllfa i ddylanwadu ar bethau ar ol etholiad cyffredinol eleni. Mae cymryd cam o'r fath yn dangos yn lled glir y gwahaniaeth yn ein blaenoriaethau ni a rhai Llafur a'r Toriaid.

Wedi dweud hynny 'dwi hefyd yn cytuno efo Guto Dafydd pan mae yntau'n dadlau mai diwigio'r gyfundrefn gyllido sydd gennym ddylai fod canolbwynt yr ymgyrch ac unrhyw drafodaethau sy'n dilyn yr etholiad. Mae'r blog yma wedi edrych ar y mater yn weddol fanwl eisoes. Mae Guto'n gywir pan mae'n awgrymu na fydd y pleidiau mawr yn fodlon ildio ar y mater pensiynau oherwydd y gost sylweddol - wedi'r cwbl mae ganddynt eu blaenoriaethau drud iawn eu hunain - Trident a chardiau adnabod yn achos Llafur, a Trident a thorri trethi pobl gyfoethog yn achos y Toriaid. Mi fyddai codi pensiynau yn gwbl bosibl wrth gwrs, ond byddai hynny'n golygu newid rhy fawr ym mlaenoriaethau'r prif bleidiau. Mae diwigio'r ffordd y cyllidir Cymru yn fwy fforddiadwy o safbwynt y pleidiau unoliaethol.

Diwigio'r ffordd mae Cymru'n cael ei chyllido ddylai fod prif ffocws y Blaid yn ystod yr ymgyrch etholiad a thu hwnt. Mae'n gwneud synnwyr economaidd i Gymru, ac mae'n gwneud synnwyr etholiadol - dyma'r unig dro yn ein hanes i ni fod mewn sefyllfa i gynnig gwelliant tymor byr yn ansawdd bywyd pobl tra bod y pleidiau eraill ond yn gallu cynnig toriadau.

No comments: