Tuesday, January 12, 2010

Y polau diweddaraf

Populus:

Toris 41 % (38)
Llaf 28 % (30)
LD 19 %(20)

Alex Reid:

Tori 40% (40)
Llafur 24% (24)
LD 20% (20)


YouGov:

Toris 42% (42)
Llafur 30% (30)
Lib Dems 16% (16)


ICM:
CON 40% (40)
LAB 30% (31)
LD 18%(18)


Canfyddiadau diweddaraf y cwmniau polio ydi'r uchod. ar un olwg maent yn weddol gyson gyda'r dair blaid brydeinig yn yr un drefn o leiaf. Ond mae yna rhywbeth arall i'w ystyried - mae'n gwneud byd o wahaniaeth yn etholiadol os ydi Llafur yn sgorio 30% Populus neu ICM yn hytrach na 24% Alex Reid.

O edrych
ar bethau o berspectif hollol Gymreig am eiliad, pe gwireddid y pol ICM a phe bai'r gogwydd mae'n ei awgrymu yn cael ei adlewyrchu yng Nghymru yna byddai Llafur yn colli Aberconwy, Arfon, Ynys Mon, Bro Morgannwg, Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro a Gogledd Caerdydd. Byddai'r Lib Dems hefyd yn colli Brycheiniog a Maesyfed a Cheredigion. Tros y DU mi fyddai gan y Toriaid 333 o seddi, Llafur 245, Lib Dems 41, Cenedlaetholwyr 10 ac eraill 3. Canlyniadau gwael yn wir i Lafur (a'r Lib Dems) yng Nghymru a thu hwnt, ond mae modd gweld ffordd yn ol.

Ond o ystyried ffigyrau Alex Reid, yna byddai pethau'n edrych cryn dipyn yn waeth. Yng Nghymru byddai Llafur hefyd yn debygol o golli Delyn, Gwyr, Llanelli, Penybont, Gorllewin Casnewydd, Dyffryn Clwyd ac mi fyddai pethau yn hynod o agos yng Ngorllewin a De Caerdydd, De Clwyd a Dwyrain Caerfyrddin. Seddi'r Cymoedd yn unig fyddai'n saff. Mi fyddai gan y Toriaid tros Brydain 367 o seddi, Llafur 197, Lib Dems 54, Cenedlaetholwyr 10 ac eraill 3. Does yna ddim ffordd amlwg yn ol yn y tymor canolig o'r fan yna - ar lefel Brydeinig nag ar un Gymreig.

Mi fydd rhyw bol neu'i gilydd yn gywir cyn pob etholiad wrth gwrs, ond mae'n anodd dweud pa un. Y temtasiwn ydi edrych ar y ffigyrau mwyaf cyffredin, y rhai sy'n codi amlaf, ond byddai hynny'n gamgymeriad. Y tueddiad hanesyddol ydi i un o'r polau mwy eithafol a gwahanol i'r lleill gael ei brofi'n gywir. Mae werth nodi bod yna dueddiad hefyd i'r polau sy'n rhoi'r canrannau isaf i Lafur fod yn nes ati na'r un arall.

6 comments:

Alwyn ap Huw said...

Mae gwerth nodi bod yna dueddiad hefyd i'r polau sy'n rhoi'r canrannau isaf i Lafur fod yn nes ati na'r un arall.

Yr wyt yn llygad dy le, wrth gwrs, i nodi bod y polau, ar y cyfan wedi tan gyfrif y bleidlais Geidwadol ac wedi or gyfrif y bleidlais Llafur yn ystod y 35 mlynedd diwethaf. Mae'r system "pwyso" polau, bellach yn ceisio gwirio hyn. Rwy'n credu bod y polau yn or bwyso o blaid y Ceidwadwyr bellach.

Rhaid nodi, mae eleni bydd y tro cyntaf ers 1979 inni weld y posibilrwydd o'r Blaid Ceidwadol yn disodli'r Blaid Lafur fel plaid Llywodraeth San Steffan!

Ers deng mlynedd ar hugain mae'r polau wedi canfod pobl sydd yn gyndyn o gydnabod eu bod am gefnogi'r Ceidwadwyr. Bu rhesymau dechau am hyn. Y ffaith mae benyw oedd yn arwain plaid wleidyddol am y tro cyntaf yn yr ynysoedd hyn cyn 1979. Y ffaith bod y fenyw arbennig yn un i bolareiddio pobl, rhai yn meddwl mai hi yw'r prif weinidog gorau erioed, eraill yn casáu'r ast a'r cas perffaith.

Yna cafwyd cyfnod o farwolaeth araf y Blaid Geidwadol, yn cael ei ddilyn gan Llywodraeth Lafur poblogaidd.

Am dros ddeng mlynedd ar hugain mae cefnogi'r Ceidwadwyr wedi bod yn "gontrofersial".

Efo Llafur ar ei lawr a chenhedlaeth o bleidleiswyr sy dim yn cofio'r gaeaf o aflonyddwch na dinoethi'r ardaloedd glofaol, does dim rheswm i Geidwadwyr dweud celwydd wrth y polwyr mwyach! Bydd y pwyso o blaid y Ceidwadwyr yn cael ei brofi yn ormodaeth eleni!

Bydd pethau yn agosach o lawer na mae'r polau yn proffwydo!

menaiblog said...

Efallai dy fod yn gywir - ond mi ddaru'r polau roi gormod i Lafur cyn etholiadau Ewrop y llynedd.

Anonymous said...

Oes angen cydnabod elfen o 'danbwyso' o Blaid Llafur - h.y. pobl yn gyndyn o ddweud eu bod am fotio Llafur (fel fyddent yn gyndyn o ddweud eu bod am fotio Tori yn y gorffennol)? Ti'n nabod y teip, lladd ar Lafur, anghytuno a phopeth mae nhw'n eu wneud .... ac eto, pleidleisio drostynt.

Gall fod elfen o'r rhai sy'n dweud eu bod am bleidleisio i rai o'r pleidiau llai (gwyrdd, BNP) bleidleisio Llafur ar y dydd hefyd?

M

Aled G J said...

Yn reddfol, senedd grog fyddai fy ngobaith i am ddau reswm:i) dwi ddim yn credu bod llywodraethau hefo mwyafrifoedd mawr yn lywodraethau da nac yn llesol i ddemocratiaeth a ii) dwi'n ofni'r ymchwydd o Brydeindod fyddai'n digwydd yn sgil buddugoliaeth Geidwadol fawr.

Yn anffodus, dwi'n ryw amau erbyn hyn mai dyna'r hyn a gawn ni.Dwi'n meddwl y bydd awydd Gordon Brown i'w gadael hi tan y funud dwytha un yn gwneud i bobl deimlo mai dim ond glynu wrth rym sy'n bwysig iddo a hynny yn ei dro yn perswadio mwy o bobl i droi allan i bleidleisio- fydd yn ffafrio'r Toriaid. Mae'n bosib hefyd y bydd Rhyfel Iraq yn ail-ymddangos fel sumbol o bopeth y mae pobl yn ei gasau am Lafur Newydd( gweler yr ymateb i berfformiad wynebgaled a digywilydd Alastair Campbell yn Ymchwiliad Chilcott ddoe). Gyda Tony Blair hefyd i ymddangos o flaen yr ymchwiliad o fewn yr wythnosau nesaf mi fydd y meta-narratif hon am dwyll a llygredd moesol Llafur Newydd yn flaenllaw ym meddyliau pobl yn y cyfnod yn arwain at yr etholiad.

Anonymous said...

Aled: "ii) dwi'n ofni'r ymchwydd o Brydeindod fyddai'n digwydd yn sgil buddugoliaeth Geidwadol fawr."


... be, a dydy'r Blaid Lafur a Gordon Brown heb wneud digon o hynny eisoes. Llafur ydy'r gwir blaid o blaid cenedlaetholdeb Brydeinig.

Dwi methu gweld sut fyddai'r Toriaid yn llai Brydeinllyd na Llafur!

M

Aled G J said...

Roedd y darn isod hefyd i fod yn rhan o'r post gwreiddiol:

Yr unig beth all newid y drifft hwn tuag at fuddugoliaeth gyffyrddus i'r Toriaid yn fy meddwl i ydi "game-changer" llwyr megis Gordon Brown yn dewis sefyll i lawr cyn yr etholiad. Fyddwn i ddim yn distyru'r posibilrwydd hwn yn llwyr- mae ganddo "form" o ran tynnu allan o ornestau etholiadol y mae'n debyg o'u colli, fel y dangosodd Tom Bower yn ei fywgraffiad ohono.