Saturday, January 23, 2010
Y Toriaid a gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon
Mi fydd yr ychydig yn eich plith sy'n dilyn gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon yn fanwl yn gwybod bod yna rhyw hanner priodas rhwng y Blaid Doriaidd Brydeinig a'r blaid unoliaethol o Ogledd Iwerddon. Bwriedir cyflwyno ymgeiswyr ar y cyd o dan faner yr Ulster Conservatives and Unionists - New Force. Un o fwriadau'r trefniant yma oedd symud tuag at ffurf ar wleidyddiaeth mwy cynhwysol a llai secteraidd - ffurf fyddai'n denu o leiaf rhai pobl sydd wedi eu magu yn y traddodiad Pabyddol Gwyddelig. Mi fydd mwyafrif llethol Pabyddion Gogledd Iwerddon naill ai'n pleidleisio i Sinn Fein neu'r SDLP wrth gwrs. Mae hi'n bwysig o safbwynt yr unoliaethwyr eu bod yn llwyddo i ddenu pobl felly - mae'n fwy na phosibl y bydd mwyafrif etholwyr Gogledd Iwerddon o gefndir Pabyddol oddi mewn i tua 15 mlynedd.
Felly beth mae dyn i'w wneud o adroddiadau bod yr UUP a'r DUP yn ystyried uno?
Rwan, mae'n bosibl dychmygu (jyst) y bydd rhai Pabyddion yn pleidleisio i blaid gymhedrol Adain Dde sy'n cefnogi'r undeb, ond dydi hi'n sicr ddim yn bosibl dychmygu pobl felly yn cefnogi plaid sy'n cael ei harwain gan bobl fel y Paisleys. a McCrees neu Gregory Campell. Felly pam mae'r UUP yn ystyried mynd i lawr y llwybr hwn - a chymryd bod Robinson yn dweud y gwir wrth gwrs? Mae'r ateb yn syml - i ateb problemau etholiadol tymor byr.
Un o broblemau'r pleidiau unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon ydi bod eu pleidlais ar hyn o bryd wedi hollti dair ffordd (ers dyfodiad y TUV), tra bod y bleidlais genedlaetholgar ond yn hollti ddwy ffordd. Golyga hyn yn ol pob tebyg mai cenedlaetholwr fydd Gweinidog Cyntaf Gogledd Iwerddon am ol yr etholiadau Stormont nesaf. Os mai ond i ddau gyfeiriad y bydd y bleidlais unoliaethol yn hollti, yna unoliaethwr fydd y Gweinidog Cyntaf. Byddai i drefniant o'r fath hefyd y fantais o'i gwneud yn llawer mwy tebygol i'r unoliaethwyr gymryd dwy sedd San Steffan gan y cenedlaetholwyr (Fermanagh South Tyrone a South Belfast) ac amddiffyn un arall (North Belfast) sydd wedi bod o dan fygythiad cynyddol mewn etholiadau diweddar.
Mi fyddai uno yn ei gwneud yn haws i'r ddwy blaid unoliaethol yn y byr dymor - ond byddai hefyd yn ei gwneud yn llawer llai tebygol y byddai Pabyddion yn pleidleisio tros bleidiau unoliaethol yn y tymor canolig.
Mae hefyd yn codi'r cwestiwn beth yn union ydi agwedd Toriaid Cameron at hyn oll?
Mi fyddai rhywun yn meddwl na fyddant yn awyddus i gael eu cysylltu'n rhy agos efo pobl sydd ag agweddau at faterion cymdeithasol sydd mor wahanol i'r norm Prydeinig a phobl sydd a'u dealltwriaeth o wleidyddiaeth gyfoes wedi ei wreiddio yn yr ail ganrif ar bymtheg.
Ond mae'r ffaith bod y Toriaid wedi cyfarfod a'r ddwy blaid yn gyfrinachol yr wythnos diwethaf yn awgrymu nad dyna yw eu hagwedd. Bydd yn ddiddorol iawn gweld beth ddaw o hyn oll.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
2 comments:
Tri ymgeisydd tori (yn cynnwys 2 o gefnder Catholig) yn ymddiswyddo. Dwi erioed di profi mis fel hwn yng nghlweidyddiaeth y Gogledd erioed!!!
fk ti'n foi boring
Post a Comment