Thursday, January 07, 2010
Gwers hanes bach arall gan fwnci
Fel y byddwch yn gwybod wrth gwrs llun ydi'r uchod o Guto Dafydd, Dyfrig Jones a minnau. Fi ydi'r un yn y canol, mae Dyfrig ar y chwith i mi a Guto ydi'r llall - i'r rhai ohonoch nad ydych yn ein hadnabod yn y cnawd fel petai. Wel rhywbeth felly mae blog Gwilym Euros Roberts, darpar ymgeisydd Llais Gwynedd ym Meirion Dwyfor ar gyfer y Cynulliad yn ei awgrymu.
Ymateb oedd Gwilym i sylwadau gen i, Guto a Dyfrig i 'neges' blwyddyn newydd Llais Gwynedd oedd yn cyhuddo Plaid Cymru a Llafur o ddilyn yr un polisiau a'r rhai a ganiataodd i wagio Ucheldiroedd yr Alban ddigwydd yng nghanol y bedwerydd ganrif ar bymtheg. Roeddwn i a Guto yn tynnu sylw at anaddasrwydd y gymhariaeth, tra bod Dyfrig yn gosod y gymhariaeth yng nghyd destun naratif gwleidyddol cyfredol Llais Gwynedd.
Ymateb Gwilym oedd y llun a'r sylwadau treiddgar canlynol:
Mae neges Flwyddyn Newydd gan Arweinydd Llais Gwynedd, Owain Williams wedi derbyn ymateb arferol gan flogwyr Plaid Cymru.
O ddarllen ymatebion Cai, Guto a Dyfrig fyddech chi'n meddwl fod Plaid yn wych ac nad oes unrhyw argyfwng yn gwynebu cymunedau gwledig Gwynedd.
Fedr rhywun mond gobeithio y wneith y tri cyfaill ddeffro fel ddaw y Gwanwyn yn nes!?
Yn y cyfamser, nid ydynt yn barod i glywed, gweld na siarad unrhyw feirniadaeth o'u Plaid fach perffaith.
Hynny yw mae'n cynhyrchu ymateb nad yw'n mynd i'r afael efo'r pwyntiau sy'n cael eu codi o gwbl. Mae'r cyfuniad o'r lluniau a'r diffyg gallu i ymateb yn ystyrlon yn ddiddorol ac (yn fy marn bach i) yn mynd a ni yn ol unwaith eto i Oes Fictoria.
Mae'n debyg nad yw Gwilym yn ymwybodol o'r ffaith, ond pan mae'n cynrychioli'r tri ohonom fel mwnciod mae'n dilyn hen draddodiad o gynrychioli cenedlaetholwyr Celtaidd (Gwyddelig fel rheol, ond nid pob tro) ar ffurf mwnci, lled fwnci neu epa arall. Mae'r isod yn bump esiampl o'r miloedd o gartwnau ar y thema sydd ar gael o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Fe oroesodd yr arfer hyd at gyfnod cymharol ddiweddar. Er enghraifft cartwn o'r Sun yn dilyn digwyddiad treisgar yn ystod cynhebrwng aelod o'r IRA yn Belfast yn 1988 a arweiniodd ychydig yn ddiweddarach at lofruddiaeth dau filwr Prydeinig ydi'r isod.
Rwan, ar un olwg mae cynrychioli pobl o gefndir arbennig yn gyson ar ffurf mwnci yn beth rhyfedd braidd i'w wneud - ond mae'n gwneud synnwyr os ydym yn edrych ar y Byd o safbwynt Saeson yn Oes Fictoria - roedden nhw yn deall pethau mewn ffordd wahanol iawn i ni, a'r rheswm am hynny oedd bod syniadaethau'r cyfnod hefyd yn wahanol iawn i'n rhai ni.
Roedd eu dealltwriaeth o Ddarwiniaeth (neu eu cam ddealltwriaeth efallai) yn cael ei ddefnyddio i gyfiawnhau'r Ymerodraeth Brydeinig. Roedd dwsinau o wahanol 'raddau' esblygiadol dynol (yn eu tyb nhw) gyda'r Hotentot ar y gwaelod a'r Eingl Sacsoniaid ar y brig wrth gwrs. Roedd Celtiaid rhywle yn y canol ac roedd mwnciod yn is na'r Hotentot. Felly roedd gor wneud is raddoldeb hiliol (dychmygol) gelynion gwleidyddol yn apelio at gartwnwyr.
Ond roedd rheswm arall pwysicach - roedd syniadaethau sylfaenol cenedlaetholdeb Gwyddelig yn fwy soffistigedig (ac yn amlwg yn llawer mwy blaengar) na'r syniadaethau oedd yn gysylltiedig a'r Ymerodraeth Brydeinig. Roedd cenedlaetholdeb Gwyddelig yn tynnu yn sylweddol ar syniadaethau'r Chwyldro Ffrengig erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, tra bod llawer o'r syniadaethau oedd yn gysylltiedig a'r Ymerodraeth wedi eu gwreiddio mewn cyfnodau cynharach - rhai oedd yn syniadaethol gyntefig.
Mewn geiriau eraill roedd yn anodd i'r sefydliad gwleidyddol Prydeinig ymgodymu yn rhesymol efo cenedlaetholdeb Gwyddelig oherwydd bod cenedlaetholwyr Gwyddelig wedi eu harfogi'n well ar lefel deallusol gan bod cyd destun eu gwleidyddiaeth yn fwy soffistigedig a chyfoes. Yr unig ateb oedd syrthio'n ol ar y stereoteip o'r Gwyddel fel mwnci di ddeall. Roedd yn ffordd o gau ac anwybyddu dadleuon na ellid eu hennill na hyd yn oed eu hateb - wedi'r cwbl faint haws ydi dyn a cheisio rhesymu efo mwnci?
Yn y cyd destun hwnnw - un o dlodi syniadaethol sylfaenol na all arfogi dyn i ddadlau'n effeithiol na hyd yn oed yn synhwyrol gyda gwrthwynebwyr y dylid cymryd lluniau mwncis a thestun gogleisiol o amherthnasol a simplistaidd blogiad Gwilym.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
9 comments:
Cai - Tud yn ol at y pwynt plis! Hoffwn gynnig cyfle i chdi, Dyfrig a Guto neu unrhyw aelod arall o Blaid Cymru i gyfarfod efo fi yn unigol neu gyda'ch gilydd i drafod yr argyfwng sydd yn gwynebu cymunedau gwledig yn Wynedd a methiant Plaid Cymru i ymateb i'r argyfwng hynny.
Unrhyw amser, unrhyw le mewn trafodaeth cyhoeddus. Edrychaf ymlaen i'ch ymateb..Dwi'n siwr y byddai'n drafodaeth diddorol ac yn un buddiol er mwyn i pobol cael gweld pwy sydd oddifri am wneud rhywbeth i newid y sefyllfa a pwy sydd yn siarad gwag- cawn weld wedyn pwy.O gofio (yn ol dy farn di) fod fy syniadaeth sylfaenol i'n dlawd a na allaf ddadlau yn rhesymol ac yn effeithiol, siawns na fyddai cael trafodaeth o'r fath yn broblem i ti a'th gyfeillion?
Ond Gwilym bach, trafod yn gyhoeddus ydi'r union beth rydym yn ei wneud ar hyn o bryd. Dyna ydi pwynt blogio mae'n debyg gen i.
Wyt ti o ddifri yn dadlau mai dim ond chdi, fi, Dyfrig a Guto Dafydd sy'n darllen yr holl stwff 'ma?
Gwilym,
Dwi'n cytuno yn llwyr a Cai - onid pwynt cadw'r blogiau yma ydi i ni gael trafodaeth gyhoeddus ar yr union bynciau ti'n eu crybwyll? Hefyd, mi wyt ti a finnau yn cael cyfle i drafod y materion yma yn gyhoeddus yn siambr y Cyngor, a'i holl bwyllgorau.
Dyfrig - Yr unig dro dwi'n dod ar dy draws ydi yng nghyfarfodydd y Cyngor llawn pob tri mis, lle ti'n gwybod yn iawn nad wyt ti ddim ond yn cael hyd at 5 munud i siarad ar un pwnc ar y tro...tydi hynny fawr o sail i drafodaeth.
Dyna fo os nad ydych am gael trafodaeth wyneb yn wyneb ar y materion yma gyd acyfle i fobol eraill nad oes gan ddynt fynediad i'r We gael cyfranu, mater i ci ydi gwrthod, jyst mewddwl swn i'n cynnig 'na chwbwl.
Ond Gwilym mae yna ganoedd lawer yn gweld y pethau 'ma ar y We - mwy nag allet eu cael i unrhyw Neuadd Goffa yn y sir. Ti'n gwneud yn dda os ti'n cael mwy na llond dwrn mewn unrhyw gyfarfod cyhoeddus y dyddiau hyn - hyd yn oed i drafod rhywbeth pwysig.
Os oes gen ti ddadl go iawn i'w chyflwyno mi gei di wneud guest posting yma ac mi ymateba i iddo fo.
Eto, fedra i ond cytuno efo Cai. Dwi ddim yn flogiwr sydd a dilyniant mawr, ond mae 'na tua 700 o ddefnyddwyr yn ymweld a fy mlog i bob mis. Mae hon yn drafodaeth gyhoeddus llawer iawn mwy effeithiol na unrhyw gyfarfod.
Ac i fod yn onest, dwi'n ei chael hi'n anodd iawn gweld pwy fyddai'n trafferth dod i wrando ar y pedwar ohona ni yn ffraeo mewn neuadd bentref. Dwi ddim yn credu bod gen i rhyw lawer o ffans, mwy na sydd gan neb ohonom ni.
mae Blog menai yn berffaith iawn. Dwi yma yn Arizona yn darllen yr holl trafodaeth!!!!
ym mha fyd mae cai laresen yn byw ynddo? mae'n ymweld i mi fel byd bach ofnadwy o gul. Ddylai person sydd yn blogio yn y fath ffordd ddim bod yn brifathro ysgol yng Ngwynedd
Larsen ydi'r enw fy nghyfaill di enw, nid laresen.
Fel arall, diolch am y sylwadau.
Post a Comment