Sunday, January 03, 2010

Acenion

Mae yna erthygl ddiddorol iawn yn Sunday Times heddiw ynglyn a rhyw waith ymchwil neu'i gilydd am acenion (Seisnig yn bennaf). Y prif bwynt sy'n cael ei wneud ydi bod acenion dinasoedd mawr Lloegr yn dal eu tir yn ddigon di drafferth, er gwaethaf y darogan a fu y byddai pawb yn mynd i siarad yn fwy tebyg i'w gilydd. Y rheswm (amlwg am wn i) a gynigir ydi bod pobl yn awyddus i gynnal eu hunaniaeth, a bod acenion rhanbarthol yn rhan pwysig o'r hunaniaeth hwnnw. Sylw ychwanegol sy'n cael ei wneud ydi bod acenion lleol iawn - trefi bychain ac ati yn tueddu i fynd yn fwy tebyg i un y ddinas fawr agosaf.

Mi wnaeth yr erthygl i mi feddwl am fy mhrofiad uniongyrchol diweddar i o acenion, ac un neu ddau o bethau 'dwi wedi sylwi arnynt yn ddiweddar.

Yn gyntaf mae'n ymddangos i mi bod acen (Gymraeg) Caernarfon ac un y pentrefi o'i gwmpas yn Nyffryn Nantlle ac ardal Llanberis yn fwy tebyg i'w gilydd nag oeddynt chwarter canrif yn ol. 'Dydi o ddim cymaint bod Cofis y wlad wedi troi at acen Cofis y dre cymaint a bod ddwy acen wedi symud tuag at ei gilydd.

Yn ail mae'r Mrs ychydig yn anarferol i'r graddau ei bod yn siarad y Gymraeg efo acen Ogleddol, tra ei bod yn siarad Saesneg efo acen Caerdydd gref iawn - canlyniad i fod wedi symud yn ifanc i ardal lle nad oedd yn gorfod siarad Saesneg llawer. Mae un o'r hogiau yn canlyn hogan o Ogledd Caerdydd ar hyn o bryd ac mae dylanwad Wenglish y Cymoedd yn gryf iawn ar ei Saesneg hi (dydi hi ddim yn rhugl ei Chymraeg). Mae ei hacen hi ac un y Mrs yn wahanol iawn (o orllewin y ddinas y daw Nacw, ac mae genhedlaeth yn hyn wrth gwrs). Yn draddodiadol roedd yr acen yn newid o dafodiaeth Caerdydd i un y Cymoedd ymhellach i'r gogledd. Tybed os ydi acen y Cymoedd yn dechrau ymwthio i mewn i Gaerdydd?

'Dwi wedi bod yn mynd i Wrecsam yn lled aml yn ddiweddar oherwydd bod un o'r plant eraill yn y coleg yno. Mae ymddangos i mi bod acen Wrecsam yn dra gwahanol i un arfordir y Gogledd Ddwyrain - mae'n fwy Cymreig o lawer - weithiau mae'n swnio bod yna dinc o acen De Cymru yno - i mi beth bynnag.

Mi fyddai o ddiddordeb i mi os oes rhywun efo unrhyw sylwadau pellach ynglyn ag acenion rhanbarthol Cymru, ac yn arbennig am y sylwadau 'dwi wedi eu gwneud uchod am gylchoedd C'narfon, Wrecsam a Chaerdydd.

7 comments:

Hogyn o Rachub said...

Dwnim os ydw i'n hollol iawn i ddweud hyn ond dwi'n meddwl y gwnelo'r ysgolion Cymraeg lot â hyn. Gan fod bellach mwy ohonynt, dwi'n meddwl bod mwy o wahaniaeth, os rhywbeth, rhwng y Cymoedd a Chaerdydd rwan o ran acen - er enghraifft, mae acen gref ysgolion Cymraeg Caerdydd, bron y gall rhywun ddweud bod rhywun wedi bod mewn ysgol yng Nghaerdydd o'u Cymraeg.

Yn bersonol, dwi ddim yn nabod neb o'r Cymoedd sydd ag acen tebyg i acen Gymraeg Caerdydd.

Siân said...

Difyr!
Fyset ti'n disgwyl i acen Caerdydd fod yn ddigon cryf i wrthsefyll dylanwad o'r tu allan.
Dwi'n clywed tinc o acen y de yn acen Gymraeg Rhosllannerchrugog ger Wrecsam.

Aled G J said...

Ti'n iawn o ran acen Wrecsam- mae yna ddylanwad deheuol pendant ar yr acen hon, sy'n ei gwneud hi'n hollol wahanol i weddill y gogledd ddwyrain. Y rheswm am hyn mae'n debyg ydi'r diwydiant glo. Mi rydan ni gyd yn gyfarwydd a'r mudo a fu o'r gogledd i'r de yn ystod oes y glo, ond does dim cymaint o sylw'n cael ei roi i'r mudo a ddigwyddodd o'r de i'r gogledd. Hynny ydi, roedd yna gyfnewid poblogaeth rhwng cymoedd y de ag ardal Wrecsam pan fo'r pyllau glo lleol yn eu bri a hynny yn ei dro yn dylanwadu'n sylweddol ar yr acen leol.

Rhaid imi ddweud bod acen Wrecsam yn un o'm hoff acenion Cymreig i, yn dilyn yn dynn ar sodlau acen y cymoedd.

Cer i Grafu said...

Wi'n clwad acen y Geordie yn reit debyg i acen y Cymoedd neu vice-versa. Ma'n amlwg bod gwahaniath ar ol gryndo am sbelan ond ma rhyw dinc tebyg yn perthyn iddyn nhw.

menaiblog said...

Diolch am y wybodaeth gyfeillion.

HoR - o ran ysgolion Cymraeg, aeth yr hogan dwi'n son amdani ddim i ysgol Gymraeg (mwy nag aeth fy ngwraig). nid ysgolion Cymraeg sy'n gyfrifol am ei hacen. Son am y ffordd mae Saesneg pobl yn swnio ydw i.

Sian - mae Caerdydd wedi sefyll ar ei phen ei hun am hir gyda ei thrigolion yn ystyried eu hunain yn rhannol y tu allan i Gymru. Bu tro ar fyd ac mae twf ffrwydrol yn y galw am addysg Gymraeg. Rhyw holi 'dwi os ydi pobl ifanc yn mabwysiadu acen fwy Cymreig (wrth siarad Saesneg) yn sgil proses ehangach - un sy'n cwmpasu'r twf mewn addysg Gymraeg hefyd.

marc jones said...

Dwi'n amau'n fawr mai acen y De sydd yn dylanwadu ar Wrecsam. Mae acen (ac attitude) gwahanol iawn yn perthyn i'r Rhos ond ar y cyfan dwin meddwl mai pobol o Faldwyn a'r hen Powys Fadog sydd wedi hrhoi'r tinc yna. Mae elfennau o acen Wrecsam sy dan ddylanwad Swydd Amwythig hefyd - acen y Waun er enghraifft.
Mae'r genhedlaeth hyn yn Sir y Fflint efo'r acen mwya' hyfryd ond mae hynny'n diflannu'n gyflym iawn.
Ymhlith y genhedlaeth iau, mae dylanwad acen sub-Scouse Caer i'w glywed yma'n Wrecsam fel y mae yn Sir Fflint a reit draw i Fae Colwyn ar hyd y glannau erbyn hyn.

menaiblog said...

Diolch Marc.

Mae'r acen yn un newydd i mi, ac mae'n ddiddorol iawn - beth bynnag ei tharddiad.