Wednesday, January 13, 2010

Sgandalau personol - ydyn nhw'n bwysig mewn gwleidyddiaeth?

Er bod blogmenai yn hoff iawn o sgandals gwleidyddol, fyddan ni ddim yn trafod rhai personol yma fel rheol - hyd yn oed pan maent yn ymwneud a gwleidyddion. Mi wnawn ni eithriad bach efo sgandal Iris Robinson, nid cymaint i edrych ar y sgandal honno'n benodol, ond i ystyried i ba raddau me sgandalau personol yn effeithio ar wleidyddiaeth yn gyffredinol. Mi geisiwn gadw at sgandalau Gwyddelig - mae yna hen ddigon ohonyn nhw i'n pwrpas ni.



Mae gan Iwerddon draddodiad hir o sgandalau personol - un Charles Stewart Parnell ydi'r enwocaf, ond bu digon o rai eraill. Yr hyn sy'n ddiddorol ydi'r ffaith bod Gwyddelod yn llawer mwy tebygol i faddau i wleidyddion am sgandalau o natur personol nag ydi llawer o genhedloedd eraill.

Mae'n lled gyffredin i wleidyddion yn y De fynd i drafferth am yfed a gyrru - Martin Ferris (er bod y lefel alcohol yn ei waed o yn gyfreithlon) a JimMcDaid er enghraifft, yn ogystal a mynd i drafferth am rhyw ymddygiad meddw neu'i gilydd. Ni fydd sgandalau felly byth bron (mae ambell i eithriad) yn cael unrhyw effaith gwleidyddol nag yn niweidio'r gwleidyddion eu hunain. Yn wir mae'n ddigon posibl eu bod yn ychwanegu at boblogrwydd y gwleidydd sy'n rhan o'r sgandal - aeth Willie O'Dea i drafferth am gwffio, neu drio cwffio mewn tafarn tra'n weinidog amddiffyn, cyn mynd ymlaen i gael un o'r pleidleisiau personol uchaf yn hanes y wladwriaeth yn yr etholiad dilynol - mae'r rhestr o'r math yma o beth yn un faith

Yr hyn sy'n fwy anisgwyl efallai ydi nad ydi sgandalau rhywiol yn cael llawer o effaith gwleidyddol nag yn effeithio ar yrfaoedd gwleidyddion. Treuliodd y diweddar Charles J Haughey lawer o'i amser fel Taoiseach mewn perthynas efo gwahanol ferched ag eithrio ei wraig, roedd Bertie Ahern yn byw talu, er ei fod yn briod, trwy'r rhan fwyaf o'i gyfnod o fel Taoiseach, heb i hynny effeithio ar ei boblogrwydd, cafodd Eamott Stagg (tr'n weinidog yn y llywodraeth) ei ddal mewn sefyllfa hynod anffodus efo dyn arall mewn car ger Phoenix Park cyn mynd ati i gynyddu ei fwyafrif yn sylweddol yn yr etholiad dilynol.

Mae Iris Robinson i raddau yn anffodus yn ei phlaid. Mae gan y DUP adain efengylaidd gref, ac nid maddeuant am bechodau'r cnawd ydi un o gryfderau Presbeteriaid Gogledd Iwerddon, fel y daeth Paul Berry i ddeall wedi digwyddiad efo masseur gwrywaidd ym Melfast. Cafodd ei sacio fel ymgeisydd y blaid yn Newry Armagh, ac mae bellach wedi gadael y DUP. Ar y llaw arall cafodd Sammy Wilson (un o aelodau seneddol y DUP) garwriaeth hir efo Rhonda Paisley (merch y dyn ei hun) a hi oedd ei faeres tra roedd yn faer dinas Belfast - er ei fod yn briod a dynas arall. Wnaeth hynny, na'r ffaith i luniau ohono'n borcyn yng nghwmni dynas ymddangos mewn papur newydd fawr o niwed gwleidyddol iddo. Mae yna straeon wedi bod o gwmpas perthynas y Robinsons ers degawdau, ond dydyn nhw heb effeithio ar yrfa gwleidyddol y naill na'r llall.

Ond mae rhai sgandalau Gwyddelig wedi cael effaith syfrdanol ar wleidyddiaeth y wladac ar y sawl oedd yn rhan o'r sgandal. Charles Stewart Parnell oedd un o'r gwleidyddion mwyaf carismataidd ac effeithiol i'r Iwerddon ei gael erioed. Fe'i gelwid yn frenin di goron Iwerddon. Pan gafodd ei enwi mewn achos ysgariad yn 1890 rhoddwyd cychwyn ar gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at drychineb gwleidyddol - hollti'r Irish Parliamentary Party.



Roedd Parnell wedi bod yn cyd fyw efo gwraig briod, Kitty O’Shea am flynyddoedd - roedd ganddynt dri o blant. Roedd y trefniant yn un digon agored ymysg ei gydnabod a'i elynion a chyfeillion gwleidyddol, a 'doedd neb yn meddwl llawer am y peth. Roedd byd o wahaniaeth rhwng torri'r rheolau y tu ol i ddrysau caedig a gwneud hynny yn gyhoeddus yn Oes Fictoria fodd bynnag. Collodd ei le fel arweinydd y blaid, a holltodd y blaid yn ddau. Parhaodd Parnell mewn gwleidyddiaeth fel arweinydd y blaid newydd. Bu farw flwyddyn yn ddiweddarach - yn ol llawer oherwydd iddo or weithio yn teithio'r Iwerddon yn ceisio adeiladu cefnogaeth i'w blaid newydd. Daeth 200,000 o bobl i'w gladdu, ac er ei fod yn Brotestant mae ei fedd ym mynwent Babyddol anferthol Glasnevin yng Ngogledd Dulyn.



Roedd canlyniadau datgelu'r sefyllfa yn syfrdanol - hollti'r blaid, gwenwyno'r berthynas rhwng cenedlaetholwyr Gwyddelig am genhedlaeth, a chreu ymdeimlad sur a barhaodd am llawer mwy na hynny bod mab darogan cenedlaetholdeb Gwyddelig wedi ei fradychu gan sefydliadau crefyddol a gwleidyddol y wlad ac wedi ei golli am byth oherwydd hynny. Yn wir mae rhai wedi dadlau y gallai hunan lywodraeth fod wedi dod yn gynt petai Parnell wedi parhau i arwain, ac os byddai hynny wedi digwydd byddai llawer o boen a thywallt gwaed y ganrif ddiwethaf yn yr Iwerddon wedi ei osgoi.

Ond yr hyn sydd rhaid ei ddeall ydi bod y sgandal wedi digwydd mewn cyd destun gwleidyddol llawer ehangach. Roedd hollt yn bod eisoes yn y blaid - roedd Parnell yn rhy radicalaidd ac agos at weriniaethwyr bon braich i lawer o'i gyd seneddwyr, roedd y ffaith nad oedd yn Babydd yn broblem i rai, roedd methiant Mesur Hunan Lywodraeth 1886 wedi creu problemau sylweddol oddi mewn i'r blaid ac roedd Gladstone yn brysur yn cymryd mantais gwleidyddol o'r amgylchiadau.

A dyna ydi'r pwynt wrth gwrs - gweithredu fel catalydd mae sgandalau personol mewn gwleidyddiaeth. Os oes yna holltau gwleidyddol yn bodoli eisoes, mae'r ysgytwad a geir yn sgil sgandal yn gwneud i bethau syrthio, a phan nad oes hollt, dydi'r effaith ddim yn bell gyrhaeddol. Mae tynged y sawl sy'n rhan o'r sgandal hefyd yn rhannol ddibynnol ar y cyd destun gwleidyddol. Doedd yna ddim cymhlethdod gwleidyddol yn gefndir i sgandalau Wilson, Ahern na Stagg, felly roedd pobl yn gweld eu sgandalau nhw fel yr hyn yr oeddynt mewn gwirionedd - materion preifat. Pan mae cymhlethdod, mae'r personol a'r gwleidyddol yn cael eu cymysgu, ac mae hynny'r rhoi chwystrelliad o wenwyn i mewn i'r sefyllfa, a gall hynny yn ei dro ddifa gyrfa wleidyddol.

A daw hyn a ni at Iris Robinson. Mae yna gyd destun gwleidyddol i'r sgandal yma - mae wedi digwydd yn ystod y cyfnod mwyaf sensitif yng ngwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon ers mwy na degawd. Mae'r ddwy brif blaid, Sinn Fein a'r DUP yn mynd i'r afael a chwestiwn sy'n wenwynig mewn ffyrdd gwahanol i'r ddwy blaid - plismona. Pleidleisiodd llawer llai o Babyddion nag arfer yn etholiadau Ewrop 2009, mae'n debyg am bod SF wedi derbyn y gwasanaeth plismona newydd (y PSNI). Mae hyn yn broblem sylweddol i lawer o'u cefnogwyr traddodiadol - yn arbennig mewn ardaloedd gwledig. Mae'n bwysig i SF bod pwerau rheoli'r PSNI yn cael ei ddatganoli i wleidyddion lleol, er mwyn iddynt allu tynnu'r colyn o'r feirniadaeth chwerw yn eu perfedd diroedd ceidwadol eu bod yn cefnogi ac yn cynnal lluoedd diogelwch 'tramor'.

Mae'r DUP o dan bwysau etholiadol mwy. Mae plaid newydd - y TUV, sydd ddim eisiau rhannu grym efo cenedlaetholwyr eisoes wedi gwneud niwed gwleidyddol sylweddol iddynt. 'Dydi'r syniad o drosglwyddo pwerau plismona i gyn aelodau o'r IRA fel Gerry Kelly neu Connor Murphy ddim yn apelio atynt, ac maent wedi bod yn araf iawn i symud ar y mater - er eu bod wedi hen gytuno i wneud hynny.

Mae'r helynt Iris Robinson wedi gwanio eu llaw yn sylweddol. Roeddynt eisoes efo problemau etholiadol - mi fyddai cynnal etholiad o dan yr amgylchiadau presennol yn sicrhau na fyddant yn dod yn ol wedi'r etholiad honno fel prif blaid y Gogledd - fedran nhw ddim fforddio etholiad ar hyn o bryd. Fel pob amser yng Ngogledd Iwerddon, mae problem y DUP yn gyfle i'w gwrthwynebwyr. Mae bygythiad SF i ddod a'r weinyddiaeth i lawr ac achosi etholiad yn hynod bwerus - ac mae'n debygol y bydd y bygythiad hwnnw yn gorfodi'r DUP i ildio ar blismona.

Mi fydd gan y DUP flwyddyn neu ddwy i gael eu ty mewn trefn wedyn - gallant ddisgwyl colledion yn etholiadau San Steffan eleni, ond dydi hynny ddim mor bwysig ag etholiadau Stormont. Oherwydd hynny byddai'n rhaid i Iris Robnson fod wedi mynd hyd yn oed pe na bai elfen o dor cyfraith yn y sgandal. Mi fydd rhaid i'r DUP weithio'n galed hyd yr etholiadau, a ni fyddai presenoldeb Iris yn helpu hynny mewn unrhyw ffordd o gwbl.

Mae hon yn un o' sgandalau personol hynny sy'n debygol o gael effaith gwleidyddol sylweddol.

No comments: