Tuesday, January 26, 2010

Beth ydi £1,000 i bobl fel hyn?


Mae'n neis iawn nodi bod un sefydliad Cymreig yn cefnogi un arall unwaith eto, gydag adnoddau'r WRU yn cael eu defnyddio i drefnu cinio mawreddog i noddwyr y Blaid Lafur y tro hwn.

Y syndod i Vaughan ydi fod Llafur yn gallu gofyn am cymaint a £1,000 i bobl am gael dod i'r digwyddiad. Vaughan druan, mae'r Byd wedi symud ymlaen tros yr ychydig ddegawdau diwethaf. Roedd tad a thaid y ddynas acw yn aelodau brwd o'r Blaid Lafur yng Nghaerdydd trwy gydol eu bywydau. Fyddai'r naill na'r llall wedi gallu fforddio mynychu'r sbloets, ond nid ar gyfer eu teips nhw mae'r sesiwn loddesta wedi ei threfnu wrth gwrs.

Y bobl sydd yn bwysig i Lafur bellach ydi eu noddwyr cyfoethog. 'Dydi'r rhain ddim yn bobl gyffredin fel fi a chi a Vaughan i chi gael dallt - o na - mae'r rhain yn bobl arbennig - yn wir maent yn bobl uwchraddol. Maen nhw'n gallu gwneud mwy o bres na bathdy Llantrisant, a beth ar wyneb daear sy'n fwy rhinweddol na hynny?

'Dydi cyfraniadau o tros i filiwn o bunoedd i'r blaid Lafur gan ddynion busnes cyfoethog iawn ddim yn anarferol iawn mewn cyd destun Prydeinig wrth gwrs. Pobl ydi'r rhain fel Lord Sainsbury, Lord Bhattacharyya, Sir Christopher Ondaatje, Sir Gulam Noon, Sir David Garrard, Sir Ronald Cohen, Sir Frank Lowe, Sir Alan Sugar, Bernie Ecclestone, Mahmoud Khayami heb son am David Abrahams a Peter Watt a'u tebyg. O gymharu a hynny 'dydi hi ddim yn syndod anferthol bod aelodau o gymuned busnes De Cymru yn fodlon talu £1,000 y plat am gael hobnobio efo Carwyn a Peter a'r hogiau a'r genod.

'Dydi £1,000 ddim yn swm anferth i aelodau seneddol y blaid Gymreig chwaith gyda'r cyflogau sylweddol a'r holl dreuliau a 'ballu. Mae arferion bucheddol y bobl busnes hyfryd mae'r aelodau seneddol yn ciniawa efo nhw wedi gwneud argraff ddofn arnynt - arferion megis dod o hyd i ffyrdd o dalu cyn lleied o dreth a phosibl. Mae gan yr aelodau seneddol fantais tros y dynion busnes hyd yn oed yma - maen nhw'n gallu gofyn i'r trethdalwr am y pres i dalu i rhywun i wneud n siwr nad ydi eu cyfraniad nhw eu hunain i goffrau'r trysolys yn ormodol. Wedi'r cwbl, pam y byddai aelod seneddol Llafur eisiau cyfrannu mwy na sydd rhaid i healthandeducation?
Busnes pobl eraill ydi hynny.

'Dydi £1,000 yn ddim byd i'r bobl hyn siwr Dduw.


Cliciwch ar y llun o ffurflen os nad ydych yn ei gweld yn glir.

4 comments:

Anonymous said...

Dyma'r Crachach mae Llafur wastad yn ein rhybuddio amdanno!

Rhyfedd, petai'r bobl yma'n siarad Cymraeg yna fyddai'n usual suspects un uchel iawn eu croch.

Crachach Llafur = OK

athrawon a cwpwl o gyfryngis sy'n siarad Cymraeg = Crachach

Anonymous said...

Ti'n cofio hwn?

http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/south_west/8366559.stm

Mae Dai dwi'n meddwl yn berchen neu rannol berchen o'r hen le MoD yn Llangennech. 'You sgratch my back. I'll sgratch yours' ;-)

Anonymous said...

Oeddet yn gwybod am yr uchod?

Cai Larsen said...

Nag oeddwn - efallai bod na i rhywbeth ohono maes o law.